Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (y Ddeddf) yn sefydlu un broses gydsynio seilwaith ar gyfer mathau penodol o brosiectau seilwaith mawr.

Ers pasio'r Ddeddf yng Nghyfnod 4, cyhoeddwyd dau bapur ymgynghori byr i ofyn am dystiolaeth ar ymgynghori cyn ymgeisio a ffioedd o fewn y drefn newydd. Mae'r dystiolaeth a gafwyd wedi bwydo i mewn i'r ymgynghoriad hwn. 

Rwyf wedi cyhoeddi ymgynghoriad terfynol sy'n cwmpasu'r drefn gydsynio newydd yn ei chyfanrwydd. Mae'r drefn newydd yn darparu proses dryloyw, gyson a syml, ond trylwyr, sy'n galluogi rhanddeiliaid a chymunedau lleol i lunio datblygiadau a deall yn well sut mae penderfyniadau'n effeithio arnynt. Bwriedir i'r cynigion hefyd gwrdd â heriau'r dyfodol drwy fod yn ddigon hyblyg i gwmpasu’r trefniadau cydsynio ar gyfer technolegau sy’n datblygu ac unrhyw bwerau pellach a allai gael eu datganoli.

Mae’r ymgynghoriad ar gael yma: 

Rhoi Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 ar waith | LLYW.CYMRU

Rwy'n croesawu mewnbwn gan yr holl randdeiliaid erbyn 13 Rhagfyr 2024.