Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 Gydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016. Mae’r Ddeddf yn llunio sail i sefydlu fframwaith statudol newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf yn cael eu datblygu fesul cam, gan ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol.  

Ym mis Mehefin 2016, dechreuodd Llywodraeth Cymru gyfnod ymgynghori ffurfiol 12 wythnos o hyd ar gam cyntaf y rheoliadau i gael eu gwneud o dan y Ddeddf. Daeth y cyfnod ymgynghori hwnnw i ben ym mis Medi 2016, ac mae’r datganiad hwn yn rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau Cynulliad am ganlyniad yr ymgynghoriad a’r camau nesaf, gan gynnwys gosod rheoliadau Cam 1.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori 12 wythnos, cafodd dau ddigwyddiad eu cynnal a oedd yn cynnwys tua 130 o gynrychiolwyr o amrywiol gyrff rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru. Yn dilyn y digwyddiadau hynny, roeddwn yn falch o dderbyn 48 o ymatebion ysgrifenedig o sylwedd gan ystod eang o unigolion, grwpiau cynrychiolwyr, llywodraeth leol a sefydliadau proffesiynol.  

Roedd yr ymateb cyffredinol yn gadarnhaol, gydag ymatebwyr yn mynegi cefnogaeth i egwyddorion a manylion y rheoliadau drafft. Mae’r ymatebion hyn wedi rhoi adborth gwerthfawr iawn inni ac rydym wedi defnyddio’r dystiolaeth i wneud newidiadau, sydd wedi datblygu a mireinio ein rheoliadau ymhellach.

Mae rhagor o fanylion ynglŷn â chanlyniadau’r ymgynghoriad a’n hymateb ninnau i’w cael yn yr adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw. Gellir gweld yr adroddiad yn:

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/ymgynghoriad-ar-gam-1-y-broses-o-roi-deddf-rheoleiddio-ac-arolygu-gofal-cymdeithasol

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y prif newidiadau i’r rheoliadau ynglŷn â’r gweithlu, gan gynnwys:

  • Egluro’r amgylchiadau lle y bo’n rhaid i fyfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn weithwyr gofal cymdeithasol gofrestru. 
  • Egluro na fydd ‘canfyddiadau ffeithiol’ yn cael eu gwneud mewn achosion gorchmynion interim, boed hynny gerbron panel gorchmynion interim neu banel addasrwydd i ymarfer.  
  • Cyflwyno gwelliant i reoliadau ynglŷn â chyfansoddiad paneli er mwyn darparu mwy o eglurder ynghylch pwy na allant wasanaethu fel aelod o banel. 
  • Cyflwynwyd gwelliannau i reoliadau i sicrhau hefyd fod terminoleg y rheoliadau yn gyson â’r Ddeddf. 

Bydd sylwadau eraill a dderbyniwyd fel rhan o’r broses ymgynghori yn cael eu defnyddio wrth baratoi templed ar gyfer adroddiad blynyddol yr awdurdodau lleol a’r pecyn cymorth a fydd yn cyd-fynd â’r templed hwnnw, fel sy’n ofynnol yn ôl Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2016, sydd i’w gosod y mis nesaf. Byddant yn cael eu defnyddio hefyd wrth ddrafftio rheoliadau ynglŷn ag arolygu a rheoleiddio gwasanaethau, a gwasanaethau eirioli wedi’u rheoleiddio, i’w cyflwyno yng Ngham 2.  

Yn dilyn hyn, heddiw, byddaf yn gosod y rheoliadau ynglŷn â’r gweithlu a ganlyn, a ddiwygiwyd fel yr amlinellir uchod, gerbron y Cynulliad ar gyfer y broses graffu. Y nod yw sefydlu’r rhan hon o’r fframwaith statudol ymhell cyn y bwriedir iddo ddod i rym ar 3 Ebrill 2017:  

  • Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) 2016 (Gweithdrefn Gadarnhaol)  
  • Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016 (Gweithdrefn Gadarnhaol)
  • Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cynnwys y Gofrestr) 2016 (Gweithdrefn Negyddol)
  • Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Rhestr o Bersonau sydd wedi eu tynnu oddi ar y Gofrestr) 2016 (Gweithdrefn Negyddol) 
  • Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cyfansoddiad Paneli: Personau Rhagnodedig) 2016 (Gweithdrefn Negyddol)
  • Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion gerbron Paneli) 2016 (Gweithdrefn Negyddol)  


Bydd y rheoliadau a’r memoranda esboniadol cysylltiedig, wedi iddynt gael eu gosod, ar gael i’w gweld yn:

http://www.cynulliad.cymru/cy/bus-home/Pages/Plenary.aspx?category=LaidDocument