Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafodd y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016. Mae'r Ddeddf yn darparu fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae sawl diben i'r ddeddfwriaeth:
- sefydlu cyfundrefn reoleiddio sy'n gyson â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- cyfrannu at wasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol drwy sefydlu cyfundrefn reoleiddio sy'n galluogi ac yn grymuso dinasyddion a gweithwyr proffesiynol y gwasanaethau fel ei gilydd
- darparu ymateb cadarn ac ystyrlon i'r gwersi clir sydd wedi cael eu dysgu ar ôl i fethiannau yn y system ddod i'r amlwg – yn Adroddiad Flynn yn fwyaf diweddar
- ail-enwi Cyngor Gofal Cymru yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a rhoi pwerau newydd mewn perthynas â gwella gwasanaethau erbyn mis Ebrill 2017.
Rwy'n disgwyl i'r Ddeddf gael ei rhoi ar waith erbyn mis Ebrill 2019. I wireddu hyn, bydd rhaid cyflawni'r gyfres sylweddol o is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r Ddeddf a sicrhau bod gan y rheoleiddiwr gwasanaeth a rheoleiddiwr y gweithlu gynlluniau pontio ar waith i wneud y newidiadau hyn.
Y nod yw rhoi’r system newydd ar gyfer rheoleiddio'r gweithlu a sefydlir gan y Ddeddf ar waith erbyn mis Ebrill 2017. Er mwyn cyflawni hyn, bydd pob un o'r rheoliadau ynghylch y gweithlu yn dod i rym ym mis Ebrill 2017. Y nod yw rhoi’r system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau a sefydlir gan y Ddeddf ar waith erbyn mis Ebrill 2019. I wireddu hyn bydd yr holl reoliadau ynghylch gwasanaethau yn dod i rym ym mis Ebrill 2018, er mwyn sicrhau bod digon o amser ar gyfer sefydlu'r system newydd.
Mae Cyngor Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn canolbwyntio ar gynllunio ar gyfer pontio er mwyn cyflawni'r newidiadau sefydliadol angenrheidiol a fydd yn sylfaen i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn effeithiol. Mae Panel Cynghori Cyfnod Pontio Gofal Cymdeithasol Cymru wedi’i sefydlu hefyd i ddatblygu cynllun pontio a chyfathrebu ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru imi ei ystyried erbyn mis Mawrth eleni.
Cyhoeddwyd datganiad o fwriad polisi pan gafodd y ddeddfwriaeth hon ei chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol y llynedd. Roedd y datganiad hwnnw yn cynnwys braslun o'r cynigion ar gyfer arfer y pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth yn y Ddeddf. Gan adeiladu ar hyn, bydd y rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cael eu datblygu dros ddau gyfnod a fydd yn gorgyffwrdd. Bydd yr holl reoliadau perthnasol ynghylch y gweithlu yn dod i rym erbyn mis Ebrill 2017 a bydd yr holl reoliadau perthnasol ynghylch gwasanaethau yn dod i rym erbyn mis Ebrill 2018. Mae yna grŵp arall o bwerau lle nad oes unrhyw ofyniad i wneud rheoliadau ar hyn o bryd ond lle mae'r pŵer gwneud rheoliadau wedi'i gymryd er mwyn sicrhau bod digon o hyblygrwydd yn y system i ymateb i newidiadau yn y dyfodol. Mae'r manylion i'w cael yn yr atodlen a geir ynghlwm.
Bydd y cyfnod cyntaf o reoliadau yn canolbwyntio ar rai o'r prosesau sy'n sail i'r system newydd ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau (cofrestru fel darparwr gwasanaeth, amrywio cofrestriad, datganiadau blynyddol darparwyr gwasanaethau, a gwybodaeth i'w chynnwys mewn hysbysiadau i awdurdodau lleol). Bydd y cyfnod cyntaf hwn hefyd yn cynnwys datblygu'r rheoliadau sy'n angenrheidiol i sefydlu'r system newydd ar gyfer rheoleiddio'r gweithlu a'r rheoliadau ynghylch y gofynion ar gyfer adroddiadau blynyddol gan gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol.
Mae Grwpiau Technegol Rhanddeiliaid wedi cael eu sefydlu gyda grwpiau ar wahân ar gyfer rheoleiddio gwasanaeth a rheoleiddio'r gweithlu er mwyn cael cynrychiolaeth eang ar draws y sector. Byddant yn dechrau ar eu gwaith ddechrau'r mis nesaf i helpu i lywio cynnwys y rheoliadau yn y cyfnod cyntaf. Wedi hynny, rhagwelir y bydd aelodaeth y grwpiau hyn yn amrywio, gyda mwy yn magu diddordeb wrth i ffocws y drafodaeth symud i wahanol feysydd polisi.
Bwriedir i’r cyfnod cyntaf o ddeddfwriaeth fod ar gael i ymgynghori arni â'r cyhoedd yn yr haf. Bydd hyn yn caniatáu i’r rheoliadau ynghylch y gweithlu a'r rheoliadau ynghylch y gofynion ar gyfer adroddiadau blynyddol gan gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol gael eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ac yn dod yn destun dadl yn y cyfarfod llawn (y rheini sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol) er mwyn iddynt allu dod i rym ar 1 Ebrill 2017. Wedi hyn, bydd modd i’r rheoliadau ynghylch gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yn y cyfnod cyntaf yn cael eu gosod gyda rheoliadau yr ail gyfnod er mwyn iddynt allu dod i rym ar 1 Ebrill 2018.
Bydd yr ail gyfnod o reoliadau yn canolbwyntio ar y gofynion a'r safonau ar gyfer darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol a'r troseddau yn deillio o'r gofynion a orfodir ar y personau hyn. Bydd yn cynnwys rheoliadau ynghylch y gofynion ar awdurdodau lleol o dan y Ddeddf a'r gofynion newydd ar Weinidogion Cymru. Bydd hefyd yn cynnwys rheoliadau yn diffinio gwasanaethau eirioli. Bydd y grŵp hwn o reoliadau yn delio â materion cymhleth a fydd yn hanfodol i'r system reoleiddio ac arolygu newydd. Y nod yw dechrau ar y gwaith ar yr ail gyfnod yng ngwanwyn 2016, felly, er mwyn bod mwy o amser ar gyfer eu datblygu ac i ymgysylltu'n effeithiol. O ddilyn yr amserlen hon, bydd y rheoliadau drafft ar gael i fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus erbyn mis Mai 2017. Bydd rheoliadau’r ail gyfnod yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a, phan fo angen, byddant yn destun dadl yn y cyfarfod llawn, er mwyn bod modd iddynt ddod i rym ar 1 Ebrill 2018.
Bydd fy swyddogion yn dechrau’n gynnar ar y gwaith paratoi ar gyfer y rheoliadau sy'n diffinio gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig, sydd i’w datblygu fel rhan o’r ail gyfnod. Byddant yn adeiladu ar y gwaith a gafodd ei wneud gan randdeiliaid i gyd-lunio'r Cod Ymarfer ar eirioli er mwyn datblygu cynigion y bydd modd eu treialu fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus cyfnod 1 yn ystod haf 2016.
Bydd y rheoliadau ynghylch adroddiadau ar sefydlogrwydd marchnadoedd lleol hefyd yn cael eu datblygu fel rhan o’r ail gyfnod a byddant yn dod i rym ym mis Ebrill 2018. Bydd fy swyddogion i’n ymgysylltu ag awdurdodau lleol yn gynnar yn y broses er mwyn iddynt allu dechrau paratoi ar gyfer gweithredu’r rheoliadau hyn.