Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (“y Ddeddf”) ar 24 Mai, a thrwy hynny cyflawnwyd ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i roi sail statudol i bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru.
Diben y datganiad hwn yw rhoi gwybod i Aelodau o’r Senedd am fy mwriadau ar gyfer cychwyn darpariaethau’r Ddeddf.
Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru, a fydd yn cael ei gadeirio gan Brif Weinidog Cymru ac yn cynnwys cynrychiolaeth ar ran cyflogwyr a gweithwyr o’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Bwriadaf gychwyn y darpariaethau hyn ar 29 Gorffennaf 2023. Gwahoddir enwebiadau ar gyfer cynrychiolwyr gweithwyr a chyflogwyr a bydd y penodiadau’n cael eu gwneud yn ystod y misoedd ar ôl cychwyn y darpariaethau. Bydd y gweithdrefnau drafft ar gyfer Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru hefyd yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref. Fy mwriad yw cynnal cyfarfod cyntaf Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru cyn diwedd Ionawr 2024.
Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar y cyrff cyhoeddus hynny sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac ar Weinidogion Cymru. Mae Rhan 2 hefyd yn rhoi cyfeiriad at ‘waith teg’ yn lle ‘gwaith addas’ yn nod llesiant Cymru Lewyrchus. Bydd y darpariaethau mewn perthynas â chyrff cyhoeddus yn cael eu cychwyn ar 1 Ebrill 2024. Bydd rhaid i gyrff cyhoeddus y mae’r ddeddfwriaeth yn eu cwmpasu geisio consensws neu gyfaddawd ag undebau llafur cydnabyddedig a chynrychiolwyr staff eraill wrth iddynt ddatblygu eu hamcanion llesiant neu wrth wneud penderfyniadau o natur strategol am y camau y maent yn bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion. O ran Gweinidogion Cymru, bydd yn ofynnol iddynt ymgynghori â Chyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru wrth wneud penderfyniadau o natur strategol mewn perthynas â chyflawni eu hamcanion llesiant eu hunain.
Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn gosod dyletswyddau caffael newydd sy’n gymdeithasol gyfrifol ar ystod o gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Er mwyn caniatáu amser digonol ar gyfer datblygu’r is-ddeddfwriaeth, y codau a’r canllawiau angenrheidiol, ac i’r cyrff cyhoeddus hynny a fydd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd allu dod yn gyfarwydd â’r gofynion a gwneud y trefniadau angenrheidiol, ni fydd darpariaethau Rhan 3 yn cychwyn tan ddiwedd 2024/dechrau 2025 ar y cynharaf.
Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau, gan gynnwys ynghylch cychwyn dyletswydd partneriaeth gymdeithasol Gweinidogion Cymru, a gwybodaeth mwy manwl am y broses o gychwyn dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol, cyn diwedd y flwyddyn.
Rydym yn gwybod mai dim ond trwy weithio mewn partneriaeth â gweithwyr, cyflogwyr a busnesau y gallwn wneud newidiadau go iawn a fydd yn help i wreiddio tegwch, cydraddoldeb a llesiant yn ein gweithleoedd.
Rwyf eisiau diolch Aelodau o’r Senedd, ac yn benodol i Aelodau’r pwyllgorau craffu perthnasol a Phlaid Cymru, sef ein partneriaid o dan y Cytundeb Cydweithio, ein partneriaid cymdeithasol yr ydym yn ymddiried ynddynt, a phawb sydd wedi cydweithio â ni i greu’r Ddeddf hon, a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, i weithleoedd ac i Gymru gyfan.
Gellir gweld y Ddeddf yn ei chyfanrwydd a’r Nodiadau Esboniadol yma.