Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol cafodd y Ddeddf Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) ei phasio gan Senedd y DU, a derbyniodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol. Mae'r Ddeddf yn berthnasol i Gymru ac yn gwneud darpariaeth sydd o fewn cymhwysedd y Senedd, ond fe'i pasiwyd heb gydsyniad y Senedd. Diben y Datganiad hwn yw nodi sut y digwyddodd y sefyllfa honno.
Cyflwynwyd y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) am y tro cyntaf yn gynnar yn 2020 fel Mesur Aelodau Preifat yn Nhŷ'r Cyffredin. Fodd bynnag, ni symudodd ymlaen drwy unrhyw un o'i gamau deddfwriaethol tan 2021. Yn unol â'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Biliau Aelodau Preifat y DU, gosododd Llywodraeth Cymru femorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar 17 Chwefror 2021.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y byddem fel arfer yn ceisio rhoi cyfle i'r Senedd drafod a phleidleisio ynghylch Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol cyn y cam diwygio terfynol yn ail Dŷ'r Senedd, yn yr achos hwn ar ôl Cam Adrodd Tŷ'r Arglwyddi ond cyn Trydydd Darlleniad Tŷ'r Arglwyddi. Fodd bynnag, pan ddechreuodd aelodau’r Senedd ar eu toriad, nid oedd dim i ddangos bod y Bil yn debygol o symud ymlaen i’r cam Cydsyniad Brenhinol yn ystod y toriad hwnnw. Mae rhesymau da pam nad yw dadleuon ynghylch Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol fel arfer yn cael eu cynnal tan yn hwyr yn hynt y Bil, oherwydd fel arall mae perygl y bydd newidiadau pellach i'r Bil ar ôl i'r Senedd roi cydsyniad. Yn wir, nid yw'r rhan fwyaf o Fesurau Aelodau Preifat yn Senedd y DU yn cyrraedd y llyfr statud.
Yn yr achos hwn, dim ond ar ôl i aelodau'r Senedd ddechrau ar eu toriad y dywedwyd wrth Lywodraeth Cymru y byddai gweddill camau'r Bil yn cael eu hamserlennu ar gyfer wythnosau terfynol y sesiwn seneddol. Felly, y byddai'r Bil yn debygol o gael ei basio cyn i'r Senedd newydd gael ei sefydlu. Hefyd roedd y Bil wedi cael ei ddrafftio i sicrhau, pan gafodd ei basio, y byddai'n dod i rym yn awtomatig ddeufis ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol.
Nid oedd yn ymarferol y pryd hwnnw i'r Senedd gael ei galw'n ôl dim ond i ystyried Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn.
Mewn gohebiaeth â Gweinidogion Llywodraeth y DU, cyflwynais fwy nag un ateb a allai fod wedi bodloni o leiaf ysbryd Confensiwn Sewel.
Yn yr ateb dywedwyd wrthyf na ellid, i bob pwrpas, wneud unrhyw newidiadau i amserlen gweddill cyfnodau deddfwriaethol y Bil nac i ddyddiad dechrau a diwedd y sesiwn. Er ein bod yn derbyn na fyddai gwneud newidiadau o'r fath wedi bod yn hawdd, credwn pe bai Llywodraeth yn y DU a oedd yn rhoi'r gwerth uchel priodol i bwysigrwydd sylfaenol parchu'r setliad datganoli, byddai wedi llwyddo i osgoi amgylchiadau o'r fath.
Roedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r bwriad polisi y tu ôl i'r Ddeddf, a gwnaethom ddweud wrth y Senedd ein bod yn cefnogi gwneud y Ddeddf yn berthnasol yng Nghymru. Fodd bynnag, nid oedd yr amserlen a bennwyd ar gyfer hynt y Ddeddf yn caniatáu i'r Senedd gynnal ei rôl gyfansoddiadol o ystyried a ddylid cydsynio â gwneud y ddeddfwriaeth yn berthnasol yng Nghymru. Roedd hefyd yn amddifadu Senedd y DU o'r cyfle i ystyried barn deddfwrfa a etholwyd yn ddemocrataidd yng Nghymru. O ystyried y penderfyniadau cynharach i fwrw ymlaen â Deddf y Cytundeb Ymadael a Deddf y Farchnad Fewnol heb dderbyn cydsyniad gan y Senedd, mae hon yn duedd sy'n peri pryder mawr, ac rwyf wedi ysgrifennu at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn i'r perwyl hwn.
Yn y llythyr hwnnw, rwyf wedi nodi ein bod yn gwerthfawrogi bod amgylchiadau'r Ddeddf hon yn wahanol iawn i'r ddau ddarn o ddeddfwriaeth a nodwyd uchod, ac nid oedd Llywodraeth y DU wedi cynllunio ymlaen llaw i ddeddfu heb gydsyniad. Fodd bynnag, yn y pen draw Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gytuno ar yr amserlenni seneddol, gan gynnwys amser dechrau a diwedd sesiynau seneddol.
Yn olaf (mewn perthynas â'r Ddeddf hon), awgrymodd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn eu llythyr y byddai gan y Senedd amser i ystyried y Ddeddf yn y cyfnod rhwng derbyn Cydsyniad Brenhinol a'r Ddeddf yn dod i rym. Nid yw hyn, wrth gwrs, yr un peth â cael y cyfle i ystyried y Bil mewn modd ystyrlon cyd iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol, o ystyried pe bai'r Senedd yn pleidleisio yn erbyn y Bil, na fyddai'n bosibl atal y Bil rhag dod i rym. Mae hefyd yn methu â chydnabod mai rhan o ddiben Confensiwn Sewel yw hwyluso deialog rhwng deddfwrfeydd y Deyrnas Unedig, a'i gwledydd cyfansoddol – a gydnabuwyd gan y Goruchaf Lys yn Adroddiad Miller fel rhywbeth sylfaenol bwysig i setliad cyfansoddiadol y DU.
Hyd yn oed cyn i'r tair Deddf a drafodwyd yn y llythyr hwn gael eu pasio, roedd Llywodraeth Cymru wedi dod i'r farn nad oedd y disgresiwn dilyffethair presennol sydd ar gael i ddiystyru bwriadau Confensiwn Sewel yn gynaliadwy. Gwnaed hyn yn glir yn ein cyhoeddiad yn 2019 "Diwygio ein Hundeb”. Yn anffodus, mae gweithredoedd y Llywodraeth hon yn y DU wedi rhoi tystiolaeth bendant ein bod yn gywir. Cyn bo hir, byddwn yn diweddaru'r cyhoeddiad hwnnw, er mwyn rhoi ymdeimlad o faint o newid sydd ei angen i drefniadau llywodraethu ein Hundeb.