Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafodd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) ei basio gan y Senedd ychydig dros flwyddyn yn ôl.
Fy ngobaith, pan gafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ym mis Mehefin 2020, oedd y gellid ei gweithredu o fewn dwy flynedd. Fodd bynnag, mae’r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd i bob un ohonom – ac i’r rheini sy'n cynllunio ac yn darparu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â’r rheini sy’n ddibynnol arnynt, yn fwy nag unrhyw un arall o bosibl. Wynebwyd profiadau cwbl ddigyffelyb ac, ar adegau, efallai ei fod wedi teimlo fel petai’r profiadau hynny wedi mynd â’n holl egni.
Heddiw, wrth edrych ymlaen, hoffwn rannu dyheadau'r Llywodraeth hon i weithredu’r Ddeddf yn llawn erbyn mis Ebrill 2023. Rydym yn cydnabod y bydd y blynyddoedd nesaf sydd i ddod yn dod â rhagor o heriau ac y byddwn, o bosibl, yn parhau i fod o dan rai cyfyngiadau ond rydym wedi ymrwymo o hyd i wneud popeth yn ein gallu i ymgysylltu â rhanddeiliaid a'u cynnwys wrth wneud y newidiadau pwysig hyn.
Mae un elfen o'r Ddeddf yn benodol yr wyf yn gobeithio ei gweld yn cael ei gwireddu y flwyddyn galendr hon: gwneud Rheoliadau i alluogi i Is-gadeiryddion statudol Ymddiriedolaethau'r GIG gael eu penodi. Golyga hyn y caiff prosesau llywodraethu a gwneud penderfyniadau’r Ymddiriedolaethau eu gwella, gan gysoni eu trefniadau felly â rhai’r Byrddau Iechyd Lleol.
Ar wahân i hyn, cychwyn y ddyletswydd ansawdd sydd ag iddi bwyslais newydd ar gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) (Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau'r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig) ar yr un pryd â'r ddyletswydd gonestrwydd newydd – a fydd hefyd yn berthnasol i ddarparwyr gofal sylfaenol – fydd ein nod. Rydym yn awyddus i weld hyn yn digwydd o fis Ebrill 2023. O ganlyniad, bydd modd mabwysiadu dull mwy trosiannol a chydgysylltiedig o’u cyflwyno. Bydd hyn yn golygu bod mwy o gyfle i gydlynu cyfranogiad rhanddeiliaid yn y broses o gydgynhyrchu canllawiau statudol a llunio Rheoliadau, ac wrth gynllunio a darparu hyfforddiant i staff y GIG. Mae’n hollbwysig nodi y bydd hyn yn caniatáu rhagor o amser i gyrff y GIG (a gofal sylfaenol, mewn perthynas â’r ddyletswydd gonestrwydd) i symleiddio cynlluniau a gweithredu newidiadau i'w polisïau a'u gweithdrefnau presennol, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r dyletswyddau o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
Gallaf hefyd gadarnhau ein bod yn bwriadu adolygu'r Safonau Iechyd a Gofal, ochr yn ochr â llunio canllawiau statudol ar y ddyletswydd ansawdd; addasu’r Rheoliadau a chanllawiau presennol mewn perthynas â Gweithio i Wella (cwynion y GIG), i gysoni'r rhain â'r ddyletswydd gonestrwydd newydd a'i chefnogi; a gosod dyletswydd gonestrwydd debyg ar ddarparwyr gofal iechyd annibynnol, gan ddefnyddio pwerau presennol o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 – rhywbeth sydd wedi cael ei groesawu gan y sector – gan eu cysoni â chyrff y GIG a darparwyr gofal cymdeithasol a reoleiddir.
O ran sefydlu Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn anad dim, rwy’n cydnabod bod mwy na phum mlynedd wedi mynd heibio ers inni drafod creu corff o'r fath am y tro cyntaf. Rwy'n cydnabod bod hyn, ar adegau, wedi peri gofid i staff ac aelodau Cynghorau Iechyd Cymuned ond rwyf am roi sicrwydd o fwriad y Llywodraeth hon y dylai’r Corff newydd gael ei sefydlu a’i roi ar waith erbyn mis Ebrill 2023. Bydd staff Cynghorau Iechyd Cymuned ac aelodau gwirfoddol yn cymryd rhan yn y trefniadau pontio ac yn cael cefnogaeth lawn i’w rheoli.
Ers i’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) gael ei basio, cafodd yr Adolygiad Annibynnol o Feddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol, dan gadeiryddiaeth y Farnwres Julia Cumberlege, ei gyhoeddi. Fel ymateb i’r argymhelliad yn yr adroddiad hwnnw y dylid sefydlu Comisiynydd Diogelwch Cleifion, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ddefnyddio rhywfaint o’r amser ychwanegol hwn i ymchwilio i’r posibilrwydd y gallai Corff Llais y Dinesydd, gyda chydsyniad y corff ei hun, chwarae rôl i fodloni’r argymhelliad hwn.
Ym marn y Llywodraeth hon, mae sefydlu Corff Llais y Dinesydd yn gonglfaen i'n gwaith i weithredu Cymru Iachach, ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Y nod yw hybu trefniadau i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu hintegreiddio ymhellach, a buddsoddi mewn gwasanaethau sy'n hyrwyddo ymgysylltiad parhaus â'r cyhoedd o ran y materion hyn.
Mae’r gwaith hanfodol bwysig hwn yn cael ei ddatblygu gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, ar y cyd â’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Cyfarfu’r Gweinidogion yn ddiweddar â chynrychiolwyr o Fwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned i glywed am weithgareddau’r Cynghorau Iechyd Cymuned ac i ddeall sut mae staff y Cynghorau a’r aelodau gwirfoddol wedi addasu i ddarparu cymorth hanfodol i gleifion drwy weithio'n effeithiol gyda byrddau iechyd gydol y pandemig. Mynegodd aelodau'r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned eu brwdfrydedd hefyd i rannu profiad a gwybodaeth yr holl Gynghorau Iechyd Cymuned ar y cyd wrth lunio’r Corff annibynnol newydd hwn – corff a fydd yn gwbl allweddol er mwyn gallu ymgysylltu â phobl, mewn amrywiol ffyrdd, ym mhob rhan o Gymru – a sicrhau ei fod yn llwyddiant.
Bydd Corff Llais y Dinesydd yn gwbl ganolog i’r sgwrs â'r cyhoedd yng Nghymru. Bydd yn gweithio gyda chyrff y GIG ac awdurdodau lleol, ac ochr yn ochr â sefydliadau cyhoeddus, annibynnol a gwirfoddol eraill i gryfhau llais y dinesydd. Bydd yn hanfodol i bob partner feithrin perthynas weithio agos â’i gilydd ac rwy'n rhagweld y bydd y Corff newydd yn ffynhonnell ragorol o gyngor pan ddaw'n fater o benderfynu beth sy'n bwysig i bobl mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol.
Hoffwn bwysleisio ymrwymiad y Llywodraeth hon i ymgysylltu â rhanddeiliaid a dinasyddion i lywio ac arwain ein gwaith o weithredu'r Ddeddf. Gyda'n gilydd gallwn greu'r diwylliant a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen, yn gyffredinol, i gyflawni’r ddyletswydd ansawdd a’r ddyletswydd gonestrwydd. Gallwn hefyd sicrhau bod Corff Llais y Dinesydd yn dod yn rhan annatod o'r dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol, gan weithio'n dda gyda'i bartneriaid a chynrychioli barn y cyhoedd.
Gyda'i gilydd, bydd y mesurau hyn yn y Ddeddf yn ein helpu i weithio gan roi anawsterau'r flwyddyn a aeth heibio y tu cefn inni a symud ymhellach tuag at gyflawni’r dyheadau ar gyfer integreiddio a chynaliadwyedd a nodir yn Cymru Iachach. Bydd y mesurau yn ysgogi gwelliannau mewn iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn hollbwysig, byddant yn arwain at ganlyniadau gwell – dyna sydd bwysicaf i bobl Cymru.