Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 ei basio gan y Senedd – a arferai gael ei galw yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru – ar 17 Mawrth 2020 ac mae wedi derbyn y Cydsyniad Brenhinol erbyn hyn.

Bydd hyn yn cefnogi dull system gyfan, barhaus o wella ansawdd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Bydd hefyd yn helpu i ymwreiddio ymhellach ddiwylliant o fod yn agored ac yn onest, ac yn helpu i ysgogi trefniadau i ymgysylltu â’r cyhoedd yn barhaus mewn perthynas â’r modd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu cynllunio a’u cyflenwi. 

Prif nodau’r Bil yw gwella ansawdd gwasanaethau iechyd a sicrhau bod dinasyddion Cymru yn parhau’n ganolog i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gwella’n barhaus. Cyflawnir y nodau hyn drwy ei bedwar prif amcan:

  • cryfhau’r ddyletswydd ansawdd bresennol ar gyrff y GIG yn sylweddol a’i hymestyn i Weinidogion Cymru (mewn perthynas â’u swyddogaethau gwasanaeth iechyd);
  • gosod dyletswydd gonestrwydd ar gyrff y GIG yng Nghymru (gan gynnwys darparwyr gofal sylfaenol sy’n darparu gwasanaethau’r GIG), gan ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn agored ac yn onest gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaethau cyn gynted ag y byddant yn sylweddoli bod pethau wedi mynd o’u lle, neu y gallai pethau fod wedi mynd o’u lle, gyda’u gofal neu driniaeth;
  • cryfhau llais dinasyddion, drwy ddisodli'r Cynghorau Iechyd Cymuned gyda chorff newydd ar gyfer Cymru gyfan, sef Corff Llais y Dinesydd, a fydd yn cynrychioli buddiannau pobl ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol;
  • galluogi i is-gadeiryddion gael eu penodi ar gyfer ymddiriedolaethau’r GIG, gan eu cysoni â’r byrddau iechyd.

Gwelliannau Cyfnod 3

Cafodd nifer o welliannau i’r Bil eu pasio ar 10 Mawrth 2020, er mwyn helpu i fireinio ein cynigion gwreiddiol a’u gwneud yn fwy grymus. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Gofynion bod Corff Llais y Dinesydd, yn ei ddatganiad ar bolisi, yn nodi sut y mae’n bwriadu cynrychioli buddiannau pobl ym mhob rhan o Gymru; bod yn hygyrch i bobl ledled Cymru; a sut y mae ei aelodau staff, ac eraill sy’n gweithredu ar ei ran, yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â phobl ledled Cymru.
  • Dyletswyddau ar Gorff Llais y Dinesydd i ystyried pwysigrwydd sicrhau, lle bo hynny’n briodol, fod ei aelodau staff, neu unrhyw un arall sy’n gweithredu ar ei ran, yn ymgysylltu wyneb yn wyneb ag unigolion wrth geisio barn y cyhoedd ac wrth ddarparu cymorth a chyngor ar gwynion. 
  • Cod Ymarfer ar geisiadau ar gyfer cael mynediad i eiddo gan Gorff Llais y Dinesydd at ddibenion ceisio barn unigolion am wasanaethau cymdeithasol ac iechyd. 
  • Dyletswydd gyffredin ar Gorff Llais y Dinesydd, cyrff y GIG ac awdurdodau lleol i wneud trefniadau i gydweithredu â’i gilydd, er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o Gorff Llais y Dinesydd a chefnogi’r Corff i geisio barn unigolion.
  • Dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau statudol i Fyrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig yng Nghymru ynghylch y ddyletswydd ansawdd a’i gofynion adrodd cysylltiedig.

Mae swyddogion wedi diweddaru’r Memorandwm Esboniadol, yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’r Nodiadau Esboniadol ar gyfer y Bil, er mwyn adlewyrchu’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 3. Cyhoeddir y rhain ar wefan Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf. 

Y camau nesaf

Gan fod y Bil wedi derbyn y Cydsyniad Brenhinol, mae’n awr yn dod yn Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 y bwriedir iddi gael ei rhoi ar waith ymhen dwy flynedd. Bydd rhagor o wybodaeth am y gwaith sylweddol ac eang ei gwmpas hwn yn cael ei chyhoeddi cyn hir. Caiff hyn ei wneud cyn gynted ag y bydd yn bosibl yng ngoleuni’r pandemig COVID-19, y canolbwyntir arno ac y rhoddir blaenoriaeth frys i ymdrin ag ef ar hyn o bryd. 

Ar yr adeg hon hoffwn gydnabod a diolch i bawb am eu cyfraniad gwerthfawr i graffu ar y Bil; am ddarparu her adeiladol a chymorth inni ddatblygu ein syniadau a’r dull i’w ddilyn; ac am roi eich arbenigedd i helpu i fireinio ein cynigion cychwynnol. Wrth inni symud tuag at y cam gweithredu, hoffwn eich sicrhau ein bod wedi ymrwymo o hyd i weithio gyda chi ac eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr dinasyddion, i roi’r darpariaethau ar waith yn llwyddiannus.