Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cael ei gweithredu o fis Ebrill 2016. Mae'r Ddeddf yn newid yn sylfaenol y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio. Mae llesiant yn sail i'r system gyfan, gan gysylltu â'r rôl y gall ymyrryd ac atal yn gynnar ei chwarae wrth hyrwyddo llesiant, i sut y gall pobl gael eu grymuso gan wybodaeth, cyngor a chynhorthwy drwy fod yn rhan o'r broses o ddylunio a gweithredu gwasanaethau a thrwy wneud eu cyfraniad gweithredol eu hunain i’w llesiant eu hunain. Bydd pobl yn gallu cael gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy am wahanol fathau o ofal a chymorth pan fydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnynt i barhau i fyw eu bywydau. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei deilwra i fod yn fwy hygyrch a hawdd ei ddefnyddio i blant a phobl ifanc.
Mae Aelodau’r Cynulliad ar hyn o bryd yn y broses o ystyried y gyfres gyntaf o reoliadau i'w gwneud o dan y Ddeddf a byddant yn trafod nifer o'r rhain yn yr wythnosau nesaf. Mae'r rheoliadau i'w gwneud o dan y Ddeddf, wedi'u hategu gan y canllawiau statudol a'r codau ymarfer yn rhan hanfodol o'r fframwaith deddfwriaethol newydd a sefydlwyd drwy'r Ddeddf. Roeddwn yn credu felly ei bod yn amserol ystyried ein cynigion yn eu cyfanrwydd a nodi'r effaith gadarnhaol y bydd y Ddeddf yn ei chael ar fywydau plant a phobl ifanc.
Dywedodd y cyn-Ddirprwy Weinidog, Gwenda Thomas A.C. yn gwbl glir y byddai hawliau a hawliadau plant yn parhau’n ganolog wrth greu a gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae hyn wedi bod yn un o'r egwyddorion craidd wrth ddatblygu'r rheoliadau a'r codau ymarfer a chanllawiau statudol. Rydym wedi cymryd pob cyfle i atgyfnerthu a chryfhau ein hymrwymiad i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu galluogi i fyw eu bywydau mewn ffordd sy'n eu galluogi i ffynnu mewn amgylchedd diogel sy'n eu meithrin. Mae'r fframwaith cyfreithiol newydd yn adeiladu ar ddull unigryw y Cynulliad Cenedlaethol tuag at hawliau plant ac mae'n sicrhau eu llais a'u cyfranogiad mewn penderfyniadau am eu gofal a'u cymorth.
Mae'r Ddeddf a'r is-ddeddfwriaeth yn rhoi canolbwynt newydd i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc. Rwyf wedi dwyn ynghyd nifer o'r elfennau sylweddol.
Llesiant
Mae llais cryf a rheolaeth wirioneddol yn rhoi'r cyfle gorau posibl i bawb sicrhau llesiant. Gellir rhoi llais – cyfle – hawl – i bawb gael eu clywed fel unigolion, fel dinasyddion, i gael rheolaeth dros eu bywydau o ddydd i ddydd.
Mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar alluogi pawb, gan gynnwys plant a phobl ifanc, i sicrhau eu llais eu hunain mewn penderfyniadau amdanynt hwy ac i'w galluogi i fyw'n ddiogel gyda'u teuluoedd a bod yn aelodau egnïol a chyfranogol o'u cymunedau: mae hyn yn hanfodol i sicrhau llesiant.
Rydym wedi cyhoeddi ein datganiad llesiant drafft a dogfen weithio'r fframwaith canlyniadau cenedlaethol. Bydd y fframwaith yn offeryn hanfodol i fesur cynnydd cenedlaethol a lleol tuag at drawsnewid gwasanaethau gofal a chymorth. Mae'n cynnwys mesurau sy'n ymwneud yn benodol â llesiant plant a phobl ifanc.
Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol o'r dyletswyddau sylw dyladwy mewn perthynas â phlant a phobl hŷn sydd bellach ar wyneb y Ddeddf. Bydd y cod ymarfer drafft ar Ran 2 o'r Ddeddf, yn rhoi rhagor o ganllawiau ar sut y gall awdurdodau lleol gyflawni'r dyletswyddau hyn.
Atal ac Ymyrryd yn Gynnar
Mae atal ac ymyrryd yn gynnar yn hanfodol i ganlyniadau llwyddiannus o ran cynorthwyo teuluoedd, yn enwedig y rhai sydd ag anghenion cymhleth. Mae cydweithredu ar draws yr ysgol, sefydliadau cymunedol, yr heddlu a gweithwyr cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae'r cod ymarfer drafft o dan Ran 2 yn nodi'r gofynion ar awdurdodau lleol i ddarparu dull ataliol. Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gynnal asesiad ar y cyd o'r boblogaeth, gan gynnwys anghenion gofal a chymorth plant a phobl ifanc. Mewn ymateb i'r asesiad hwn, rhaid i awdurdodau lleol nodi, ymhlith pethau eraill, sut y byddant yn hyrwyddo plant yn cael eu magu gan eu teuluoedd ac atal plant rhag dod yn blant sy'n derbyn gofal. Am y tro cyntaf, mae hyn yn rhoi amlygrwydd i'r materion hyn, yn rhanbarthol ac ar lefel awdurdodau lleol.
Asesu a Chymhwystra
Am y tro cyntaf, mae'r Ddeddf yn cyflwyno rheoliadau am asesu anghenion plant a rheoliadau am gymhwystra'r anghenion hynny i'w diwallu drwy'r awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau neu'n trefnu i wasanaethau gael eu darparu. Mae'r fframwaith yn nodi ystyriaethau penodol sy'n berthnasol i asesu anghenion plant, gan gynnwys anghenion datblygiadol y plentyn ac unrhyw amgylchiadau eraill sy'n effeithio ar lesiant y plentyn.
Mae'r Ddeddf hefyd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddiwallu anghenion plant anabl, gan greu rhagbydiaeth y bydd angen gofal a chymorth ychwanegol ar blentyn anabl. Adlewyrchir hyn yn ein rheoliadau a chaiff ei bwysleisio yn ein codau ymarfer ar asesu a chymhwystra.
Neges glir drwy'r ymgynghoriad ar y cynigion oedd bod angen rhagor o ganllawiau am gymhwyso'r egwyddor budd pennaf hon wrth asesu a diwallu anghenion plant. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym wedi gweithio gyda grŵp gorchwyl a gorffen bach gyda chynrychiolwyr o'r sectorau statudol, gwirfoddol a rheoliadol. Nododd y grŵp yr elfennau allweddol o'r Fframwaith presennol ar gyfer Asesu Plant mewn Angen i'w hymgorffori mewn cod ymarfer wedi'i ddiweddaru. Bydd hyn yn pwysleisio'r ddyletswydd ganolog i ddiogelu plant a phobl ifanc a sicrhau y gallant gyflawni eu canlyniadau llesiant. Mae'r elfennau hyn yn cael eu profi ymhellach gyda rhanddeiliaid allweddol a'u mireinio ar gyfer fersiwn derfynol y codau, yr wyf yn bwriadu eu gosod gerbron y Cynulliad yn ddiweddarach eleni.
Diwallu anghenion
Mae darparu taliadau uniongyrchol wedi cael ei gryfhau o dan y Ddeddf i alluogi taliadau i ddiwallu anghenion llesiant plentyn. Bydd dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu'r rhain lle y gellir diwallu canlyniadau llesiant plentyn drwy daliadau uniongyrchol a lle bydd y plentyn ei hun, neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn hwnnw, yn gofyn amdanynt.
Diogelu
Mae ein diwygiadau diogelu yn cynnwys fframwaith cyfreithiol wedi'i gryfhau ar gyfer diogelu plant ac oedolion agored i niwed. Mae'r Ddeddf yn atgyfnerthu trefniadau diogelu presennol ar gyfer plant drwy gyflwyno dyletswydd newydd i roi gwybod i'r awdurdod lleol am unrhyw blentyn yr amheuir ei fod yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod, neu'n cael profiad o hyn.
Mae'r diwygiadau yn sicrhau bod partneriaid diogelu yn cael eu cynorthwyo gan arweinyddiaeth gadarnach a chydweithredu amlasiantaeth gryfach a mwy effeithiol. Mae'r gwaith ar ailgyflunio byrddau plant statudol presennol a sefydlu byrddau oedolion statudol ar yr ôl troed Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus bron â'i gwblhau. Bydd rheoliadau yn rhagnodi swyddogaethau a gofynion y byrddau hyn fel cynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn eu gwaith.
Bydd yr ymarfer penodi cyhoeddus ar gyfer penodiadau i'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn dechrau’n fuan iawn. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn cyflwyno adroddiadau am ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru. Bydd aelodau yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru am sut y gellid gwella'r trefniadau, i sicrhau ymhellach ddiogelwch y rhai agored i niwed, boed yn blant neu'n oedolion.
Plant sy’n Derbyn Gofal
Bydd y pwyslais cynyddol ar y gwasanaethau ataliol ac ymyrryd yn gynnar sy'n ofynnol o dan Ran 2 o'r Ddeddf, gan gynnwys rhaglenni rhianta a chymorth i deuluoedd, yn galluogi awdurdodau lleol i weithio gyda theuluoedd cyn iddynt gyrraedd pwynt o argyfwng.
Ar gyfer y plant hynny y mae angen iddynt dderbyn gofal, mae Rhan 6 o'r Ddeddf yn sicrhau bod cynllunio gofal a chymorth effeithiol, sy'n cwmpasu pob agwedd ar lesiant y plentyn, gan gynnwys anghenion iechyd a datblygiadol, sefydlogrwydd a chyrhaeddiad addysgol. Mae'n cynnwys darparu ystod o leoliadau, gan gynnwys gofal maeth a llety preswyl. Mae'n darparu ar gyfer adolygu achos pob plentyn yn effeithiol, ac yn cynnwys paratoi’r plentyn neu'r person ifanc ar gyfer gadael gofal yr awdurdod lleol, naill ai i ddychwelyd at ei deulu neu i symud ymlaen i fyw'n annibynnol fel oedolyn.
Yn benodol, mae Rhan 6 yn cyflwyno dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth am drefniadau byw ôl-18 i bobl ifanc mewn gofal maeth, ac i hwyluso a chynorthwyo hyn. Mae'r ddyletswydd newydd hon yn cael ei datblygu o dan y cynllun ‘Pan Fydda i'n Barod’, a fydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru yn ystod 2015-16. Bydd y trefniadau hyn ‘yn galluogi person ifanc i barhau i fyw mewn amgylchedd teulu sefydlog sy'n ei feithrin ar ôl ei ben-blwydd yn 18 oed, hyd at 21 oed (neu hyd at 25 oed os yw'n cwblhau rhaglen o addysg neu hyfforddiant y cytunwyd arni). Bydd ‘Pan Fydda i'n Barod’ yn sicrhau y bydd gan bobl ifanc yr amser a'r cymorth i ddatblygu'r sgiliau a'r cadernid angenrheidiol i bontio'n llwyddiannus i fyw'n annibynnol.
Rwyf hefyd wedi rhoi cyfarwyddiadau'n ymwneud â'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i Gymru. Daeth y cyfarwyddiadau hyn i rym ar 13 Mawrth ac maent yn gosod gofynion ar awdurdodau lleol i weithredu eu gwasanaethau mabwysiadu ar fodel rhanbarthol a gydlynir yn genedlaethol, yn seiliedig ar bum “rhaglen gydweithredol ranbarthol”. Maent yn nodi trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, wedi'u goruchwylio gan Gyfarwyddwr, bwrdd llywodraethu a grŵp cynghori; ac maent yn nodi gofynion ar gyfer y canlyniadau a ddisgwylir gan y trefniadau newydd, gyda fframwaith rheoli perfformiad cenedlaethol yn sail i'r trefniadau hyn.
Mae'r trefniadau newydd hyn eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant sy'n derbyn gofal, wrth i lywodraeth leol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol ledled Cymru weithio gyda'i gilydd, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, i gyflawni lleoliadau teulu mwy parhaol a gwella gwasanaethau mabwysiadu.
Mae nifer y plant sy'n cael eu lleoli ar gyfer eu mabwysiadu wedi cynyddu o 300 yn 2011/12 i 386 yn 2014/15 – cynnydd o 29%. Mae nifer y mabwysiadwyr a gymeradwywyd wedi cynyddu o 197 yn 2011/12 i 297 yn 2014/15 – cynnydd o 51%. Y llynedd yn unig, roedd y cynnydd yn 26%.
Yn ystod y flwyddyn i ddod, mae gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol agenda uchelgeisiol i:
- sicrhau cynnydd o 90 yn nifer y mabwysiadwyr a gymeradwyir yn 2015/16 (cynnydd o 25% ar yr uchafbwynt a gyflawnwyd ym mlwyddyn gyntaf gweithredu'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol)
- lleihau'r amser a gymerir ar gyfartaledd i gymeradwyo mabwysiadwyr i 8 mis neu lai
- lleihau'r amser a gymerir rhwng lleoli plentyn sy'n derbyn gofal i leoli mabwysiadol i 13 mis neu lai
- cynyddu nifer y rhieni biolegol sy'n manteisio ar y cynnig o gwnsela i o leiaf 50% (ac felly nid yn unig yn gwella eu llesiant eu hunain, ond helpu hefyd i dorri'r cylch o achosion lluosog dilynol o fynd â phlant dilynol rhiant)
Partneriaeth a Chydweithredu
Mae'r Ddeddf yn rhoi canolbwynt newydd ar bartneriaeth a chydweithredu mewn awdurdodau lleol ac ar draws ffiniau sefydliadol. Ar gyfer plant a phobl ifanc a'u teuluoedd, bydd y dyletswyddau newydd hyn yn ganolog i ddull mwy cyfannol ac arloesol tuag at eu hanghenion. Mae llinellau nam sylweddol ar draws gwasanaethau i blant, sy’n effeithio, er enghraifft, ar sut yr ymdrinnir â phlant ag anableddau sy'n pontio i wasanaethau oedolion. Mae'r Ddeddf yn darparu cyfleoedd sylweddol i unioni'r materion hyn gan alluogi awdurdodau lleol, byrddau iechyd a phartneriaid statudol eraill i weithio gyda'i gilydd o amgylch anghenion eu poblogaethau, fel y nodwyd gan yr asesiadau o'r boblogaeth o dan Ran 2, i wella llesiant.
Codi ffioedd
Yn ystod y broses o graffu ar y Ddeddf, cododd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bryderon am briodolrwydd codi ffioedd ar gyfer y gofal a'r cymorth a geir gan blentyn. Er bod y Ddeddf yn rhoi'r disgresiwn i awdurdodau lleol godi ffi ar rieni neu warcheidwad am y gofal a'r cymorth mae eu plentyn yn eu cael, fy mwriad yw datgymhwyso hyn ar yr adeg hon drwy'r rheoliadau o dan Ran 5 o'r Ddeddf ar godi ffioedd ac asesiadau ariannol, sy'n destun ymgynghori ar hyn o bryd.
Mae’r crynodeb uchod yn amlinellu datblygiadau diweddaraf y ddarpariaeth yn Neddf 2014 ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae cyfraniad rhanddeiliaid wedi bod yn hanfodol yn y gwaith hwn i gyd, ac rwy’n ddiolchgar iawn iddynt.
Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddar i Aelodau’r Cynulliad am y gwaith pellach bydd yn cael ei wneud nawr i roi rhaglen o gamau gweithredu yn ei lle ar gyfer monitro a gwerthuso effaith y ddeddfwriaeth ar fywydau plant a phobl ifanc a’u teuluoedd.