Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas - y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 1 Mai eleni, yn creu system gyfreithiol newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig i’r Cynulliad ar 29 Ionawr eleni, mae’r Ddeddf yn creu fframwaith sy’n dwyn ynghyd ac yn moderneiddio’r gyfraith ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n rhoi mwy o bwyslais ar gamau ataliol, gan ddod â phobl yn nes at y penderfyniadau ar y gwasanaethau sy’n effeithio arnynt, ac yn rhoi sylw i’r heriau sy’n ymwneud â newid economaidd a demograffig.    

Bydd tair rhan i’r fframwaith statudol newydd ar gyfer darparu gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r rhan gyntaf, sef y Ddeddf ei hunan, eisoes yn ei lle. Bydd y ddwy ran arall yn cynnwys rheoliadau a chodau ymarfer neu ganllawiau statudol, a fydd yn helpu i gyflenwi’r manylion ac yn helpu’r rhai a gafodd swyddogaethau dan y Ddeddf i ddeall sut maent am gyflawni’r swyddogaethau hynny.

Bydd Aelodau wedi gweld o’m datganiad ysgrifenedig, dyddiedig 30 Ionawr, y manylion am fwriad y polisi mewn perthynas â’r prif grwpiau o bwerau gwneud rheoliadau dan y Ddeddf. Mae fy natganiad heddiw yn adeiladu ar fy natganiadau blaenorol ar weithredu, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am sut y byddaf yn gweithredu’r ddwy ran hanfodol hon o’r fframwaith newydd y mae’r Ddeddf yn eu galluogi.

Fy mwriad yw sicrhau bod y Ddeddf yn dod i rym ym mis Ebrill 2016. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r pecyn o is-ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r Ddeddf yn cael ei ddatblygu fel rhaglen waith a ddarparwyd yn gydgysylltiedig. Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid drwy gyfres o grwpiau technegol i ddatblygu a mireinio manylion ein polisi ar gyfer rheoliadau a chodau ymarfer, a byddant yn parhau i wneud hynny.  Bydd y rhain ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ac yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad mewn dwy ran ar wahân, neu ‘tranches’, yn ystod 2014-15.

Bydd y tranche cyntaf o is-ddeddfwriaeth ar gael i ymgynghori arno ym mis Tachwedd eleni. Ymgymerwyd â gwaith manwl ar ffurf grwpiau technegol ac ymgynghorol, sydd wedi darparu ymgysylltiad gwerthfawr ar weithredu’r cynigion hyn yn ymarferol, i lywio’r rheoliadau a’u codau ymarfer cysylltiedig. Drwy ymgynghori ar y rheoliadau hyn a’u gosod gyda’i gilydd byddwn yn gallu cyflwyno system gydlynol o asesu, penderfynu ar gymhwysedd a chynllunio gofal, yn ogystal â sicrhau bod taliadau uniongyrchol ar gael fel un ffordd o ddiwallu anghenion, a chreu fframwaith newydd pwerau ar gyfer diogelu.

Bydd y tranche cyntaf yn cynnwys rheoliadau mewn perthynas â’r meysydd polisi canlynol:

  • Asesiadau o’r boblogaeth dan ran 2 o’r Ddeddf a gweithio mewn partneriaeth dan ran 6
  • Mentrau cymdeithasol
  • Asesiadau a chymhwysedd
  • Taliadau Uniongyrchol
  • Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion
  • Byrddau Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
  • Byrddau Diogelu Lleol
  • Preswylfa arferol ac anghydfodau am breswylfa arferol
Hoffwn dynnu sylw’r Aelodau’n benodol at fy mwriad i ddeddfu mewn perthynas â’r asesiadau o’r boblogaeth a gweithio mewn partneriaeth law yn llaw, gan ddefnyddio’r pwerau hyn i sicrhau bod asesiadau o’r fath yn cael eu cynnal ar sail ranbarthol, yn unol ag ôl-troed y Bwrdd Iechyd Lleol. Hoffwn i’r Aelodau gymryd hyn fel arwydd cynnar o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well yng Nghymru.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus eang, rwy’n bwriadu i’r rheoliadau hyn a’r codau ymarfer cysylltiedig gael eu gosod gerbron y Cynulliad ym mis Mai 2015.

Bydd yr ail dranche o is-ddeddfwriaeth ar gael ar gyfer ymgynghoriad o fis Mai 2015, unwaith eto gyda chefnogaeth ymgysylltiad rhanddeiliaid a gwaith grwpiau technolegol ac ymgynghorol. Bydd y tranche hwn yn creu system sy’n sicrhau canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya. Bydd hefyd yn sbarduno cydweithredu rhanbarthol, yn rhoi system o godi ffioedd, asesiadau ariannol a thalu am ofal ar waith, yn cefnogi cyflwyno sylwadau a chymorth eiriolwr, ac yn ymdrin â materion sy’n codi gan fethiant darparwr.  

Bydd yr ail dranche yn cynnwys y meysydd polisi canlynol:

  • Llety a ffefrir
  • Talu am ofal, gan gynnwys:
    • Codi ffi
    • Asesiad ariannol
    • Y gallu i dalu
    • Taliadau gohiriedig
    • Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwy
    • Adennill costau, llog etc
    • Arwystl dros fuddiant mewn tir
    • Trosglwyddo asedau i osgoi talu ffioedd
  • Sut caiff plant sy’n derbyn gofal eu lletya a’u cynnal, gan gynnwys:
    • Cynlluniau gofal a chymorth
    • Plant sy’n derbyn gofal
    • Rhieni maeth Awdurdod Lleol
    • Trefniadau asiantaeth
    • Ymwelwyr annibynnol i blant sy’n derbyn gofal
    • Swyddogion adolygu annibynnol
    • Achosion a atgyfeirir ac adolygu achosion
    • Pobl ifanc, cynghorwyr personol, asesiadau llwybrau, codi ffi
    • Cynlluniau llwybrau ac asesiadau llwybrau
    • Llety i gyfyngu ar ryddid
    • Ymwelwyr â phlant
  • Trefniadau partneriaeth a byrddau Partneriaeth
  • Cwynion a chymorth i achwynwyr
  • Sylwadau sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant eraill a all fod angen gofal a chymorth, a chynhorthwy mewn perthynas â’r rhain
  • Darparu gwasanaethau eiriolwr
  • Methiant gan ddarparwr

Hoffwn dynnu sylw’r Aelodau yn benodol ar fy mwriad mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal. Yma rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y plant eu hunain, i edrych ar effaith y fframwaith statudol cyfredol ar ganlyniadau pobl ifanc, a datblygu fframwaith newydd a fydd yn defnyddio ac yn ymestyn y darpariaethau cyfredol a wnaed o dan Ddeddf 1989 i blant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya, gan sicrhau bod hawliau a hawlogaethau’r grŵp hwn o blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed yn parhau i gael eu cynnal, tra bydd gwell canlyniadau’n cael eu diogelu.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus llawn rwy’n bwriadu gosod y rheoliadau hyn a’u codau ymarfer cysylltiedig gerbron y Cynulliad yn ystod gaeaf 2015.

Bydd fy swyddogion yn datblygu asesiadau effaith rheoleiddiol a memoranda esboniadol llawn ar gyfer pob un o’r rheoliadau hyn, i’w gosod gerbron y Cynulliad yn eu ‘tranches’ priodol, a bydd y pecyn gwaith hwn yn cael ei graffu gan bwyllgorau’r Cynulliad hwn.

Yn amlwg, rwy’n cydnabod bod rhoi’r Ddeddf ar waith, a thrwy hynny y system newydd ar gyfer gofal cymdeithasol sy’n ofynnol gan Wasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, yn golygu llawer mwy na gwneud is-ddeddfwriaeth, er bod hynny’n bwysig. I’r perwyl hwn mae gennyf dair haen o waith yn eu lle, sy’n cwmpasu parodrwydd y gweithlu, codi ymwybyddiaeth ymysg y boblogaeth ehangach, a gweithgaredd allweddol o weithredu rhanbarthol.

O ran yr haen gyntaf, mae Llywodraeth Cymru, drwy ei Rhaglen Datblygu’r Gweithle Gofal Cymdeithasol, sy’n werth £8.2m (a ategir gan fuddsoddiad gan bartneriaid lleol), yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a defnyddio strategaeth hyfforddi i gefnogi gweithredu, a fydd ar waith cyn cychwyn y Ddeddf. Rwyf am bwysleisio fy mod yn disgwyl y bydd y strategaeth hon yn cwmpasu pawb sy’n gysylltiedig â darparu gofal cymdeithasol, ynghyd â’u partneriaid allweddol, ac y bydd yn cael ei darparu ar y cyd ac mewn cydweithrediad â’r partneriaid hynny. Bydd y strategaeth hon yn cynnwys codi ymwybyddiaeth, addasu hyfforddiant presennol, a datblygu hyfforddiant penodol ychwanegol i ymateb i ofynion newydd, gan felly gefnogi’r sector a sicrhau ei fod yn barod am y newidiadau a ddaw i rym yn sgil y Ddeddf a’i rheoliadau.


Yn ogystal â hyn, drwy gydnabod bod angen cyfathrebu’n ofalus ac yn glir â’r cyhoedd ar weithredu’r Ddeddf, mae cynllun cyfathrebu’n cael ei ddatblygu i gefnogi’r gwaith hwn. Rydym yn ystyried rôl darparwyr gwasanaethau cyfathrebu i gefnogi’r gweithredu a byddwn yn parhau i ymgysylltu’n llawn â’r cyhoedd a’n rhanddeiliaid i sicrhau bod y negeseuon hyn yn cael eu mynegi’n glir ac yn ddealladwy.

Yn olaf, mae gennyf ymrwymiad o hyd i gefnogi llywodraeth leol a’n partneriaid gyda’r gweithredu, drwy barhau yn 2014-15 i ymestyn y grant Trawsnewid, sy’n werth £1.5 miliwn, a oedd ar gael i awdurdodau lleol am y tro cyntaf yn 2013-14. Mae’r cyllid trosiannol hwn wedi’i anelu’n benodol at alluogi llywodraeth leol a’i phartneriaid i roi gofynion y Ddeddf newydd ar waith. Mae arweiniad rhanbarthol cyson a chryf ar gyfer gweithredu’r Ddeddf hon, wedi’i rannu ar draws yr holl bartneriaid, yn hanfodol ar gyfer sicrhau’r trawsnewid sy’n ofynnol gan y Ddeddf, ac mae’r cyllid hwn wedi’i gyfeirio tuag at helpu llywodraeth leol a’i phartneriaid i weithio gyda’i gilydd i gyflawni hyn. Yn ddiweddar mae fy swyddogion wedi ysgrifennu at lywodraeth leol a phartneriaid allweddol yn gwahodd  ceisiadau am y cyllid hwn ac edrychaf ymlaen at ei weld yn cael ei ddefnyddio i roi mwy o gymorth i’n blaenoriaeth o weld gwasanaethau gwell i bobl Cymru.

Bydd y gwaith hwn rwy’n ei ddisgrifio’n adeiladu ar y consensws cenedlaethol  sydd gennym ar gyfer y newidiadau sydd angen inni eu gwneud. Bydd yr holl agweddau allweddol ar ddatblygu Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy ymhellach yn cael eu cyflawni drwy gysylltiad agos â dinasyddion ac arweiniad cryf ar y cyd gan lywodraeth leol, y GIG a darparwyr preifat a thrydydd sector. Byddaf yn parhau i weithio gyda fy Fforwm Partneriaeth cenedlaethol, y Grŵp Arweinyddiaeth a’r Panel Dinasyddion i gefnogi hyn, a sicrhau bod pobl sy’n defnyddio gwasanaethau’n parhau i fod yn ganolog i’n rhaglen ar gyfer newid.