Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ysgrifennaf i roi gwybod i’r aelodau fod y fframwaith strategol i alluogi i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gael ei gweithredu o 6 Ebrill 2016, bellach wedi'i sefydlu’n llawn. Rwyf hefyd yn manteisio ar y cyfle i roi diweddariad cyffredinol ar ba mor barod y mae'r Ddeddf i'w gweithredu, a beth yw'r camau parhaus y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi’r broses hon.

Mae’r gwaith o baratoi’r gweithlu ar gyfer gweithredu’r Ddeddf wedi cael ei arwain gan Gyngor Gofal Cymru. Mae wedi datblygu hyb dysgu a fydd yn storfa ar gyfer gwybodaeth a deunydd hyfforddi ynglŷn â'r Ddeddf. Ar hyn o bryd, mae'r hyb yn cael 1,000 trawiad y dydd. Mae'n darparu siop un stop i gyrchu'r rheoliadau, y codau ymarfer a'r canllawiau statudol sy'n tanategu'r Ddeddf. Mae’r hyb ar gael i’r Aelodau yma: http://www.cgcymru.org.uk/hyb-deall-y-ddeddf/.

Mae strategaeth dysgu a datblygu genedlaethol y Cyngor Gofal wedi cael cefnogaeth cyllid o £1 filiwn gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir y bydd dros 7,000 o staff â blaenoriaeth, ledled Cymru, wedi cael yr hyfforddiant erbyn y mis hwn. Mae hyn wedi digwydd ochr yn ochr â gwaith datblygu parhaus ar ddeunyddiau hyfforddi newydd a fydd yn cael eu cyflwyno. Erbyn hyn, mae'r sylw'n troi at gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf, pan geir cefnogaeth ar ffurf cyllid ychwanegol o £1 filiwn gan Lywodraeth Cymru yn 2016-17. Mae gwerthusiad o gynllun hyfforddi eleni eisoes ar y gweill, er mwyn helpu i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol a siapio'r gweithgarwch ar gyfer 2016-17.

Ni fyddem wedi symud ymlaen cyn belled â hyn ar y daith hon heb gefnogaeth lwyr y sector, yn arbennig ein partneriaid cydweithredu: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol; Conffederasiwn GIG Cymru; Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; Fforwm Gofal Cymru a'r Cynghrair Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae pob un ohonynt wedi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o wireddu uchelgeisiau’r Ddeddf, a byddant yn parhau i wneud hynny.

O gyfnod cynnar, roeddem wedi nodi bod angen arweinyddiaeth ymgysylltiol, gydweithredol, ar y cyd ar ein hymgyrch i drawsnewid y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. I'r perwyl hwnnw, sefydlodd Gwenda Thomas AC, pan oedd hi'n Ddirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol, Gynghrair Arweinyddiaeth Cenedlaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae wedi parhau i'w arwain. Hoffwn ddiolch iddi am hyn, am yr holl gefnogaeth y mae hi wedi'i gynnig i mi, ac am yr arweiniad y mae hi wedi'i roi i'r sector yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn. O dan ei harweiniad, mae'r Cynghrair, sy'n cynnwys y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol, y Grŵp Arweiniad, a'r Panel Dinasyddion, wedi sicrhau cyfraniad amhrisiadwy at y gwaith o ddatblygu ein cynigion deddfwriaethol a'u dwyn i bwynt eu gweithredu.

Mae trefniadau arweinyddiaeth cenedlaethol newydd wedi eu sefydlu erbyn hyn. Mae’r rhain yn adeiladu ar agweddau gorau'r trefniadau presennol a hefyd yn plethu gyda'r mecanweithiau cynllunio rhanbarthol newydd sydd i'w sefydlu o dan Ddeddf 2014.

Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol newydd, a fydd yn gweithredu o fis Mai 2016, yn tynnu ynghyd, am y tro cyntaf, drawstoriad o ddinasyddion – yn arweinwyr, cynrychiolwyr llywodraeth leol, cynrychiolwyr y GIG, ynghyd â'r rhai hynny sy'n cynrychioli grwpiau ehangach o randdeiliaid. Byddant yn ffurfio un bwrdd i gefnogi a chynghori Gweinidogion wrth i ni, ar y cyd, ddiwygio a gwella gofal a chymorth yng Nghymru