Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg
Rwy’n rhoi gwybod i’r Aelodau fy mod i heddiw wedi gosod y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r rheoliadau cysylltiedig gerbron y Senedd.
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”) yn pennu bod rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi Cod ar anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”). Mae’r Cod ADY yn darparu canllawiau statudol ar arfer swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 ac ar faterion eraill sy’n gysylltiedig ag adnabod a diwallu ADY. Hefyd, mae’n gosod gofynion ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach ac ysgolion a gynhelir mewn cysylltiad â swyddogaethau penodol o dan y Ddeddf. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn cefnogi tri amcan cyffredinol Deddf 2018, sef:
- fframwaith deddfwriaethol unedig sy’n cefnogi pob plentyn o oedran ysgol gorfodol neu iau ag ADY, a phobl ifanc ag ADY mewn ysgol neu addysg bellach;
- proses integredig, gydweithredol ar gyfer asesu, cynllunio a monitro, sy’n hwyluso ymyriadau cynnar, prydlon ac effeithiol; a
- system deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor, ac ar gyfer datrys pryderon ac apeliadau.
Yn ychwanegol i’r Cod ADY, rwyf wedi:
- gosod Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021;
- gosod Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021;
- gwneud a gosod Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) (Diwygio) 2021;
- gwneud a gosod Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021;
- gosod Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021.
Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben ym mis Mawrth 2019, rydym wedi cyfarfod ag ystod o randdeiliaid i drafod ac i gadarnhau ein dealltwriaeth o’u hadborth ar y Cod ADY drafft a’r rheoliadau cysylltiedig. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses hon, yn enwedig o ystyried yr heriau diweddar yn sgil y pandemig Covid. Heb yr ymdrechion hyn i gynnal momentwm a ffocws, mae’n bosibl y byddem wedi ei chael yn anodd sicrhau’r cam nesaf hanfodol hwn tuag at system ADY newydd i ddysgwyr yng Nghymru.
Ym mis Chwefror, cyhoeddais gynlluniau i gychwyn y Ddeddf o fis Medi 2021, gan nodi pa ddysgwyr fyddai’n pontio i’r system newydd ym mlwyddyn gyntaf y cyfnod gweithredu graddol. Mae’n bwysig bod y system yn cael ei chyflwyno’n raddol fel bod yr ymarferwyr sy’n ei rhoi ar waith yn gallu ei rheoli a’r dysgwyr nad yw’r system newydd yn gymwys iddynt eto yn gallu parhau i gael eu hawliadau i gyd o dan yr hen system. Rwy’n ymwybodol bod ysgolion a sefydliadau addysg bellach wedi bod ar gau i’r rhan fwyaf o ddysgwyr am gyfnod helaeth o’r flwyddyn academaidd hon a bod hyn wedi bod yn faich sylweddol ar ysgolion, sefydliadau addysg bellach, awdurdodau lleol ac eraill. Rwy’n bwriadu cyhoeddi canllawiau gweithredu ac amlinellu’r nodau a’r amcanion ar gyfer ail a thrydedd flwyddyn y cynllun gweithredu graddol yn fuan. Bydd hyn yn caniatáu i’r bobl berthnasol gael gwybodaeth i lywio a chefnogi’r gwaith o gynllunio ar gyfer cychwyn y system newydd a thu hwnt.
Bydd dadl Cyfarfod Llawn ar y Cod ADY a’r rheoliadau cysylltiedig yn cael ei chynnal yn y Senedd ar 23 Mawrth. Rwy’n annog pob un o’r Aelodau i ystyried yr is-ddeddfwriaeth a chymeradwyo’r Cod ADY a’r rheoliadau cysylltiedig.