Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, cyhoeddwyd cyfres o adroddiadau ymchwil gan Policy in Practice o dan yr enw ‘Deall effaith Ymyriadau Treth Gyngor yng Nghymru’ ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dros Bumed Tymor y Senedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o fesurau i leihau effaith rhwymedigaethau'r dreth gyngor ar bobl ac aelwydydd sy'n agored i niwed ac i wella'r ffordd y caiff prosesau casglu'r dreth gyngor eu rheoli. Ymhlith y mesurau hyn yr oedd:
- cyflwyno Protocol Treth Gyngor Cymru,
- esemptio pobl sy'n gadael gofal rhag y dreth gyngor,
- cael gwared ar y gosb o ddedfryd o garchar am beidio â thalu'r dreth gyngor,
- safoni'r esemptiad ar gyfer amhariad meddyliol difrifol.
Ym mis Mawrth 2022, comisiynais ymchwil gan Policy in Practice i adolygu a gwerthuso'r mesurau hyn, yn ogystal â'r camau yr oedd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn eu cymryd i leihau'r pwysau ar bobl sy'n agored i niwed mewn perthynas â'r dreth gyngor. Nod yr ymchwil hon oedd rhoi darlun cliriach o ba mor effeithiol y mae'r mesurau wedi bod o ran cyflawni ein hamcanion polisi, a pha un a yw'r newidiadau wedi effeithio ar lefelau casglu'r dreth gyngor. Roedd hefyd yn ceisio mesur yr effaith ar unigolion ac aelwydydd, yn enwedig aelwydydd sy'n agored i niwed a'r rheini sydd mewn ôl-ddyledion.
Mae'n galonogol gweld y ffordd y mae'r ymyriadau wedi helpu rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed, ond rhaid inni barhau i weithio gydag awdurdodau lleol er mwyn dileu unrhyw rwystrau i allu pobl i fanteisio ar yr ymyriadau, ac er mwyn lleihau gwahaniaethau ledled Cymru.
Mae'r adroddiadau’n cadarnhau pa mor effeithiol y mae'r Protocol Treth Gyngor wedi bod, gyda'i ddull arferion da i awdurdodau lleol ac asiantaethau cyngor ar ddyledion o sicrhau bod unrhyw gamau a gymerir yn gymesur, yn deg ac yn gyson, ac mae'n nodi'r gefnogaeth gyffredinol i’r Protocol. Maent hefyd yn tynnu sylw at y ddeddfwriaeth sy'n rheoli prosesau casglu a gorfodi'r dreth gyngor.
Rwyf eisoes wedi ymrwymo i ystyried pa newidiadau y gellid eu gwneud i'r fframwaith cyfreithiol er mwyn helpu cynghorau i reoli'r gwaith o gasglu'r dreth gyngor mewn ffyrdd sy'n fwy ystyriol o amgylchiadau aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar y broses orfodi bresennol ac ystyried y symiau y mae aelwydydd yn atebol i'w talu ar wahanol adegau yn y broses gasglu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud y dreth gyngor yn decach, a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol a rhanddeiliaid i ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiadau. Bydd y canfyddiadau yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol hefyd, gan roi cyfle iddynt rannu rhai o'r enghreifftiau rhagorol o arferion gorau a nodwyd yn yr adroddiadau.
Un ffrwd o waith yw'r ymchwil hon yn ein rhaglen ehangach yn ymchwilio i opsiynau ar gyfer diwygio'r dreth gyngor a'i gwneud yn decach. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddais grynodeb o’r ymatebion i'r ymgynghoriad ar ein pecyn uchelgeisiol fel y cam diweddaraf yn ein taith tuag at system sy'n decach ac yn fwy blaengar.