Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cafodd adroddiad terfynol y sefydliad Policy in Practice, Deall Effaith Credyd Cynhwysol ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac Ôl-ddyledion Rhent yng Nghymru, ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Fe gomisiynwyd yr adroddiad fel rhan o becyn ymchwil yn ymwneud â threthi lleol yng Nghymru. Cafodd adroddiad interim ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2020.

https://llyw.cymru/credyd-cynhwysol-cynllun-gostyngiadaur-dreth-gyngor-ac-ol-ddyledion-rhent-yng-nghymru-adroddiad-terfynol

Fis Ionawr 2019, comisiynais Policy in Practice i ymchwilio i effeithiau Credyd Cynhwysol ar ein cynllun cenedlaethol, Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ynghyd â dyledion treth gyngor ac ôl-ddyledion rhent yng Nghymru. Fe wnaeth yr ymchwil hydredol a manwl hon fynd ati i dracio amgylchiadau aelwydydd dros gyfnod o amser, gan ddefnyddio data o bob ardal yng Nghymru. Caiff hyn ei ategu gan ymchwil ansoddol newydd i brofiadau hawlwyr Credyd Cynhwysol, gwasanaethau cynghori, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, a landlordiaid preifat.  

Mae’r adroddiad terfynol yn cadarnhau’r patrymau a ddaeth i’r amlwg yn yr adroddiad interim, sy’n dangos y gallai Credyd Cynhwysol gael effaith niweidiol ar amgylchiadau aelwydydd, boed hynny mewn perthynas â gostyngiadau treth gyngor, dyledion treth gyngor, neu ôl-ddyledion rhent. Mae’r adroddiad yn darparu mwy o fanylion ynglŷn â rhai o’r opsiynau ar gyfer newid Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn y dyfodol. Hefyd, mae profiadau hawlwyr Credyd Cynhwysol, fel y maent wedi cael eu nodi mewn data arolygon, yn dangos sut y mae rhai aelwydydd yn ei chael yn anodd deall elfennu o’r system Credyd Cynhwysol ac ymdopi â nhw. Dyna pam rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i leihau’r cyfnod o bum wythnos y mae’n rhaid aros cyn cael taliad cyntaf Credyd Cynhwysol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio dull gweithredu trawslywodraethol i drechu tlodi a lliniaru effeithiau diwygio’r system les. Oherwydd amseriad yr adroddiad hwn, nid yw wedi gallu ystyried yr effeithiau economaidd a chymdeithasol sy’n digwydd yn sgil pandemig y coronafeirws. Serch hynny, bydd y casgliadau’n caniatáu inni edrych ar ysgogiadau polisi a allai helpu i wella amgylchiadau’r rheini y mae Credyd Cynhwysol yn cael effaith negyddol arnynt. Bydd y casgliadau’n ddefnyddiol i awdurdodau lleol, gwasanaethau cynghori, a sefydliadau trydydd sector eraill.

Mae’r ymchwil hon yn un rhan o’n rhaglen ehangach sy’n archwilio opsiynau posibl ar gyfer diwygio trethi lleol a’r system cyllid llywodraeth leol yn gyffredinol. Cyhoeddais yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y rhaglen hon ar 5 Tachwedd 2019. I weld yr wybodaeth honno, ewch i:

https://llyw.cymru/diwygio-cyllid-llywodraeth-leol-diweddariadau-blynyddol 

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn i’r Aelodau gael gwybod am gasgliadau’r ymchwil. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â’r casgliadau hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.