Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae adroddiad interim gan y sefydliad Policy in Practice, sef Deall Effaith Credyd Cynhwysol ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac Ôl-ddyledion Rhent yng Nghymru, wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Comisiynwyd yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru fel rhan o becyn ymchwil yn ymwneud â threthi lleol yng Nghymru.

https://llyw.cymru/credyd-cynhwysol-cynllun-gostyngiadaur-dreth-gyngor-ac-ol-ddyledion-rhent-yng-nghymru-adroddiad

Mae Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn gynllun cenedlaethol yng Nghymru sy’n rhoi cymorth ariannol uniongyrchol i bron 280,000 o aelwydydd incwm isel, er mwyn lleihau eu biliau treth gyngor. Ers cyflwyno ein cynllun yn 2013-14, rydym wedi parhau i amddiffyn aelwydydd agored i niwed ac aelwydydd incwm isel drwy gynnal hawliadau llawn. O ganlyniad, mae oddeutu 220,000 o aelwydydd yn parhau i dalu dim treth gyngor o gwbl yn 2019-20. Mae’r cynllun yn cyfrannu’n sylweddol at yr ymgyrch i fynd i’r afael â thlodi ac mae’n helpu i ddiogelu pobl agored i niwed rhag anawsterau ariannol – a hynny’n aml oherwydd diwygiadau niweidiol llywodraeth y DU i’r system les.

Yn ogystal â chreu un cynllun i Gymru, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid i gau’r bwlch a grewyd gan y toriad o 10% a ddaeth yn sgil penderfyniad llywodraeth y DU i ddatganoli Budd-dal y Dreth Gyngor yn 2013-14. Fel y dywedir yn yr adroddiad interim, helpodd y dull gweithredu tecach hwn i atal ôl-ddyledion rhenti rhag cynyddu yng Nghymru ar adeg pan oedd mesurau cyni didostur yn cael ei gweithredu yn y DU.

Mae’r awdurdodau lleol yn Lloegr wedi gorfod llunio’u cynlluniau gostyngiadau eu hunain. O ganlyniad, mae’r cymorth treth gyngor yn amrywio o’r naill awdurdod i’r llall ac mae mwy na thair miliwn o aelwydydd incwm isel yn wynebu gorfod talu mwy o’u bil treth gyngor.

Nid yw Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn rhan o system budd-daliadau’r DU, er bod cymhwysedd ar gyfer y cynllun yn gysylltiedig ag ef. Gan fod nifer o fudd-daliadau, gan gynnwys y Budd-dal Tai, yn cael eu disodli’n raddol gan Gredyd Cynhwysol Llywodraeth y DU, mae’n bwysig ein bod yn deall sut mae’n effeithio ar y cymorth datganoledig a roddir mewn perthynas â biliau’r dreth gyngor, er mwyn inni allu parhau i ganolbwyntio’r cynllun ar y bobl sydd â’r angen mwyaf. Hefyd, bydd yr ymchwil i sut mae Credyd Cynhwysol yn effeithio ar ôl-ddyledion rhent yn helpu i ddarparu sylfaen dystiolaeth werthfawr er mwyn inni allu deall yn fanwl yr effeithiau ehangach ar aelwydydd.

Ym mis Ionawr 2019, comisiynais Policy in Practice i wneud ymchwil a fyddai’n taflu goleuni ar rai o’r materion hyn. Mae’r ymchwil hon yn astudiaeth dros gyfnod o flwyddyn a fydd yn defnyddio dadansoddiad manwl sylweddol i olrhain amgylchiadau aelwydydd yng Nghymru. Mae’r gwaith empirig yn cael ei ategu gan ymchwil ansoddol newydd i brofiadau pobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, tenantiaid, gwasanaethau cyngor, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, a landlordiaid preifat. Mae’r casgliadau’n bwysig inni, i awdurdodau lleol, ac i amrywiaeth o sefydliadau a gwasanaethau cyngor eraill.

Mae’r adroddiad interim, a gyhoeddir heddiw, yn canolbwyntio ar gam cyntaf yr ymchwil bwysig hon – effaith Credyd Cynhwysol ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Mae’n trafod syniadau ar gyfer lleihau rhai o’r effeithiau y mae Credyd Cynhwysol yn eu cael ar ddyfarniadau ynghylch gostyngiadau i’r dreth gyngor yn y dyfodol. Bydd yr adroddiad terfynol, a fydd yn cynnwys ymchwil ansoddol, yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen eleni, a bydd yn edrych yn fwy manwl ar effaith Credyd Cynhwysol ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac ar ôl-ddyledion rhent.

Mae’r adroddiad interim yn dangos bod y newid i Gredyd Cynhwysol, i lawer o aelwydydd, yn gallu cael effaith sylweddol ar ddyfarniadau ynghylch gostwng y dreth gyngor. Bydd aelwydydd sydd ar hyn o bryd yn cael gostyngiad o 100% yn y dreth gyngor, oherwydd nad oes ganddynt incwm, yn parhau i gael y gostyngiad. Fodd bynnag, i eraill, gwelir bod y newid i Gredyd Cynhwysol yn cael effaith negyddol, yn enwedig pan fo’r rhai sy’n byw ar yr aelwyd yn gyflogedig, yn hunangyflogedig, neu'n gweithio ac yn cael Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol. 

Pe bai Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn parhau ar ei ffurf bresennol tan 2021-22, mae’r canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu y gallai’r cymorth i aelwydydd lle mae’r preswylwyr yn gyflogedig ac yn cael y Credyd Cynhwysol ostwng 12% ar gyfartaledd. Amcangyfrifir y gallai aelwydydd lle mae’r preswylwyr yn hunangyflogedig weld gostyngiad o tua 80% ar gyfartaledd yn y cymorth y maent yn eu gael tuag at y dreth gyngor. Mae’r canfyddiadau’n debyg ar gyfer aelwydydd sy’n gweithio ac sy’n cael Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol ac sy’n newid i gael y Credyd Cynhwysol. I’r grŵp hwn, amcangyfrifir y bydd y cymorth yn gostwng 22% ar gyfartaledd.

Mae’r adroddiad yn ein hatgoffa na fydd rhai o’r aelwydydd hyn ar eu colled yn ariannol, o bosibl, gan y gallent gael mwy o gymorth o dan y Credyd Cynhwysol a chael eu hasesu, felly, fel pobl sydd angen llai o gymorth â’u treth gyngor. Er hynny, mae hon yn wybodaeth allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru gan y gallai fod yn bosibl i ni ddiwygio ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn ystod y blynyddoedd nesaf er mwyn lleddfu’r effaith negyddol ar rai grwpiau. Erbyn diwedd y prosiect ymchwil, bydd modd i awdurdodau lleol ddeall yr effeithiau yn eu hardaloedd eu hunain yn fanylach, a bydd hyn yn helpu i lywio’r mesurau lleol sy’n dod ag aelwydydd yn rhan o’r cynllun.

Ym mis Mawrth 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd y ddogfen Dadansoddiad o effaith  diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r system les ar aelwydydd  yng Nghymru, a oedd yn crynhoi’r prif ystadegau, dadansoddiadau a thystiolaeth ynghylch effaith y diwygiadau lles a weithredwyd neu y bwriedid eu rhoi ar waith yng Nghymru.

https://llyw.cymru/effaith-diwygiadau-lles-ar-aelwydydd-yng-nghymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn parau i weithio ar draws y llywodraeth er mwyn mynd i’r afael â thlodi a lliniaru effaith y diwygiadau negyddol i’r system les.

Mae’r adroddiad interim hefyd yn cyflwyno dadansoddiad cynnar ynglŷn ag addasiadau posibl i Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a allai adfer cyfartaledd rhwng aelwydydd sy’n derbyn y budd-daliadau blaenorol a’r rhai sy’n derbyn y Credyd Cynhwysol. Byddwn yn mynd ati nawr i ystyried canfyddiadau’r adroddiad yn fanylach, ar y cyd â’r awdurdodau lleol, asiantaethau cynghori a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er mwyn llywio camau nesaf y gwaith o ddatblygu ymchwil a pholisïau yn y maes hwn.

Mae’n dda gennyf gyhoeddi’r adroddiad interim hwn heddiw, sy’n cynyddu ein gwybodaeth am amgylchiadau a phrofiadau gwahanol aelwydydd ar draws Cymru. Mae’r ymchwil hon yn un haen o waith o fewn ein rhaglen ehangach ar gyfer diwygio trethi lleol a system ariannol ehangach llywodraeth leol. Cyhoeddais yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y rhaglen hon ar 5 Tachwedd 2019, ac mae honno ar gael drwy glicio ar y ddolen ganlynol:

https://llyw.cymru/diwygio-cyllid-llywodraeth-leol-diweddariadau-blynyddol