Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ym mis Gorffennaf 2014, cyhoeddwyd adolygiad yr Athro Stephen Palmer o ddefnyddio data marwolaethau wedi’i addasu yn ôl risg yn GIG Cymru. Daeth i'r casgliad nad oedd mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg (RAMI) yn ffordd ystyrlon o fesur ansawdd ysbyty, ac y gallai defnydd ohono dynnu sylw oddi ar ddulliau eraill mwy ystyrlon o fesur a gwella gofal mewn ysbytai.

Gwnaeth gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ystyrlon ar gael i ddisgrifio ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu mewn ysbytai, gan gynnwys adolygiad prydlon o bob marwolaeth mewn ysbyty - y broses o adolygu nodiadau achos marwolaethau -  gwelliant mewn codio clinigol a chyfranogaeth lawn mewn archwiliadau clinigol cenedlaethol.

Tynnodd yr Athro Palmer sylw hefyd at bwysigrwydd sicrhau bod gan fyrddau iechyd olwg glir o ansawdd gofal clinigol, a'u bod yn ffurfio barn amserol a phenodol sy'n seiliedig ar risg ynghylch ansawdd a diogelwch gwasanaethau.

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ynghylch cynnydd i weithredu argymhellion yr Athro Palmer ar draws GIG Cymru.

Adolygu nodiadau achos marwolaethau

Mae Dr Jason Shannon, yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer adolygu nodiadau achos marwolaethau, wedi arwain y gwaith o ddatblygu dull gweithredu cyson ar gyfer adolygu marwolaethau, gyda chymorth Gwasanaeth Gwella 1,000 o Fywydau.

Mae pob marwolaeth yn ysbytai acíwt Cymru bellach yn cael eu hadolygu ac mae byrddau iechyd yn ymestyn hyn yn gynyddol i gynnwys marwolaethau mewn ysbytai cymunedol. Mae dau gam i'r broses - y cyntaf yw’r adolygiad cyffredinol, sy'n golygu sgrinio cychwynnol o bob marwolaeth. Os oes unrhyw bryderon yn cael eu nodi, bydd achos yr unigolyn hwnnw yn destun adolygiad manylach yn yr ail gam. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad o wraidd y broblem, a all gydlynu gyda'r proses Gweithio i Wella lle bo angen. Cymru yw'r unig wlad yn y DU i weithredu system unigol o'r fath ar gyfer adolygu nodiadau achos marwolaeth ar gyfer pob marwolaeth mewn ysbyty.

Drwy adolygu nodiadau achos marwolaethau, nodwyd bod sepsis yn faes y mae angen ei wella ar draws Cymru. Mae defnydd effeithiol o'r Sgoriau Rhybudd Cynnar Cenedlaethol, y bwndel chwe cham a'r bag ymateb sepsis wedi helpu i wella'r broses o adnabod a rheoli cleifion â sepsis. Dangosodd dadansoddiad diweddar o ystadegau cyfnodau gofal cleifion bod gostyngiad sylweddol yng nghanran y marwolaethau o sepsis, o 29% i 24%. Mae hyn yn cyfateb i gymaint â 500 yn llai o bobl y flwyddyn yn marw o sepsis yng Nghymru.

Codio clinigol

Mae gan bob bwrdd iechyd gynlluniau i gefnogi gwell ansawdd data a chodio clinigol. Er enghraifft, mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gynlluniau i sicrhau bod codwyr a thimau clinigol yn cydweithio'n agosach, ac mae bellach yn cynnal sesiynau hyfforddi chwarterol i'r meddygon iau.

Mae byrddau iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr a Hywel Dda wedi cynnal dadansoddiad dwys o'u gwasanaethau codio ac wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol mewn gwasanaethau codio.

Archwiliadau clinigol

Mae archwiliadau clinigol yn elfen graidd o'r broses o wella ansawdd, ac yn rhan annatod o Safonau Iechyd a Gofal Cymru. Mae'r gofyniad i gyfranogi yn yr archwiliadau a dysgu ohonynt hefyd yn ganolog i'r cynlluniau cyflenwi cyflyrau difrifol.

Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Archwiliadau Clinigol Cenedlaethol ac Adolygu Canlyniadau, dan gadeiryddiaeth yr Athro Peter Barratt-Lee, wedi gwella cyfranogaeth mewn archwiliadau clinigol. Gwelwyd hefyd gynnydd sylweddol ym mhroffil archwiliadau clinigol ar lefel y bwrdd; mae gan bob sefydliad GIG weithdrefnau cadarn i uwchgyfeirio unrhyw bryderon o ran canfyddiadau, data neu themâu i'w timau gweithredol.

Ymhlith yr enghreifftiau penodol o archwiliadau clinigol yn arwain at welliannau gwirioneddol i'r GIG mae mynediad at wasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae gan bobl ifanc â diabetes well mynediad at wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc; mae gwell mynediad at raglenni rhoi'r gorau i ysmygu ar gyfer cleifion iechyd meddwl a mynediad mwy agored i therapïau seicolegol; gyda'r rhain i gyd wedi dod o ganlyniad i weithredu argymhellion mewn adroddiadau archwilio.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymgymryd â gwaith penodol yn dilyn cyhoeddi'r Archwiliad Cenedlaethol ar gyfer Torri Gwddf y Forddwyd a'r Archwiliad Cenedlaethol ar gyfer Laparotomi Brys - ymysg y prif wersi mae mynediad prydlon i'r theatr a darpariaeth gofal critigol priodol ar ôl llawdriniaeth.

Mae gofal strôc yng Nghymru wedi'i drawsnewid gan y Rhaglen Archwiliad Cenedlaethol ar gyfer Strôc Sentinel (SSNAP).  Mae'r trydydd adroddiad blynyddol ar gyfer Cymru gyfan yn nodi'r cynnydd y mae'r gwasanaeth iechyd wedi'i wneud i atal a thrin strôc yn erbyn cynllun cyflawni ar gyfer strôc Llywodraeth Cymru. Yn 2005, bu farw 3,158 o bobl o strôc yng Nghymru. Yn 2014, y nifer oedd 2,317. Roedd hyn 26%, neu 841 o farwolaethau yn llai.

Gofal o ansawdd

Argymhelliad terfynol yr Athro Palmer oedd sicrhau bod gan fyrddau iechyd olwg glir o ansawdd gofal clinigol, a'u bod yn ffurfio barn amserol a phenodol sy'n seiliedig ar risg ynghylch ansawdd a diogelwch gwasanaethau.

Mae pob un o'r byrddau iechyd wedi nodi’r gwelliannau sydd ar waith, ac â phrosesau yn eu lle i adolygu data clinigol yn gyson. Mae hyn i'w weld yn yr archwiliad adolygu nodiadau achos, a oedd yn dangos bod pob bwrdd iechyd yn adrodd data adolygu marwolaethau i'w timau clinigol, ar lefelau is-adrannol neu gyfarwyddiaeth, i gyfarfodydd byrddau cyhoeddus a phwyllgorau ansawdd a diogelwch, ac yn cyhoeddi diweddariadau a data ar eu gwefannau.

Gallwn fod yn hyderus fod gan Gymru system gref ar gyfer adolygu marwolaethau, gydag egwyddor o sicrhau gwelliannau parhaus yn ysgogi ffyrdd arloesol o fesur ansawdd y gofal.  Mae sefydliadau'n parhau i gyfranogi mewn archwiliadau clinigol cenedlaethol a dysgu ohonynt, ac wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i adrodd data a gwybodaeth o ansawdd uchel mewn ffordd agored ac ystyrlon.

Mae hyn wedi arwain at welliannau amlwg i'r GIG yng Nghymru, gyda'r fantais ychwanegol o ddarparu sicrwydd pwysig i'r cyhoedd ar ansawdd gofal clinigol. Dyma'r ffactorau sydd wedi cyfrannu at gasgliadau adroddiad diweddar y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, sef bod system gofal iechyd Cymru yn canolbwyntio ar ansawdd, a bod gwella ansawdd iechyd yn barhaus yn ymrwymiad sy'n rhan annatod a chyffredin o system gofal iechyd Cymru.