Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) Cymru 2020 ymhellach i dynnu Serbia oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau y mae teithwyr o’r lleoedd hynny wedi’u heithrio o’r gofyniad i hunanynysu am 14 diwrnod. Daw’r rheoliadau diwygiedig i rym ar 11 Gorffennaf.

Cafodd Serbia ei chynnwys yn y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn y Rheoliadau Diwygio a wnaed ar 9 Gorffennaf. Felly, mae pobl sy’n cyrraedd o Serbia wedi’u heithrio ac ar hyn o bryd nid oes rhaid iddynt gydymffurfio’r â’r gofyniad i hunanynysu.

Mae’r Gyd-ganolfan Bioamrywiaeth ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi ailasesu’r risg i iechyd y cyhoedd ac, o ganlyniad, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu y dylid tynnu Serbia oddi ar y rhestr o eithriadau yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ac wedi llunio diwygiadau i’r Rheoliadau cyfatebol ar gyfer Lloegr a ddaw i rym ar 11 Gorffennaf 2020.

Llywodraeth y DU sydd â’r cyfrifoldeb am reoli ffiniau’r DU. Drwy gydol y broses hon, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio bod yn adeiladol i alluogi Llywodraeth y DU i gyflawni ei hamcanion polisi.     

Isod mae’r rhestr ddiwygiedig o’r gwledydd a’r tiriogaethau esempt yn y Rheoliadau.

  • Akrotiri a Dhekelia
  • Yr Almaen
  • Andorra
  • Anguilla
  • Antigua a Barbuda
  • Aruba
  • Awstralia
  • Awstria
  • Y Bahamas
  • Barbados
  • Bermuda
  • Bonaire, Sint Eustatius a Saba
  • Caledonia Newydd
  • Croatia
  • Curaçao
  • Cyprus
  • De Korea
  • Denmarc
  • Dominica
  • Yr Eidal
  • Fiet-nam
  • Fiji
  • Y Ffindir
  • Ffrainc
  • Gibraltar
  • Grenada
  • Guadeloupe
  • Gwlad Belg
  • Gwlad Groeg
  • Gwlad yr Iâ
  • Gwlad Pwyl
  • Gwladwriaeth Dinas y Fatican
  • Hong Kong
  • Hwngari
  • Iwerddon
  • Yr Iseldiroedd
  • Jamaica
  • Japan
  • Kalaallit Nunaat (Greenland)
  • La Reunion
  • Liechtenstein
  • Lithiwania
  • Lwcsembwrg
  • Macau
  • Malta
  • Mauritius
  • Monaco
  • Montserrat
  • Norwy
  • Polynesia Ffrengig
  • Saint Barthélemy
  • Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha
  • Saint Kitts a Nevis
  • Saint Lucia
  • Saint Pierre a Miquelon
  • San Marino
  • Sbaen
  • Seland Newydd
  • Seychelles
  • Y Swistir
  • Taiwan
  • Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
  • Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
  • Trinidad a Tobago
  • Twrci
  • Y Weriniaeth Tsiec
  • Ynys Manaw
  • Ynysoedd Cayman
  • Ynysoedd De Sandwich a De Georgia
  • Ynysoedd Falkland
  • Ynysoedd Ffaröe
  • Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno
  • Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
  • Ynysoedd y Sianel
  • Ynysoedd Turks a Caicos