Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Hawliau Gofalwyr, hoffwn dalu teyrnged i'r bobl sy'n gofalu am eraill oherwydd cariad yn hytrach nag am wobr faterol. Pobl yn gofalu am deulu a ffrindiau yw sylfaen cymdeithas gytbwys. Bydd pob un ohonom yn mynd drwy gyfnodau yn ei bywydau pan fydd angen rhywfaint o ofal arnom, a bydd y rhan fwyaf ohonom yn gorfod gofalu am rywun agos ar ryw adeg neu'i gilydd.

Mae hyn yn wir am bobl ifanc yn ogystal ag oedolion. Canfu'r Arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion diweddaraf fod 16% o bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yng Nghymru yn gyfrifol am ofalu am rywun yn eu teulu o ganlyniad i’r ffaith eu bod yn anabl, yn sâl yn gorfforol neu’n feddyliol neu’n cael problemau gydag alcohol neu gyffuriau.

Mae’r rôl ofalu ddi-dâl hon yn gallu mynd â llawer iawn o amser ac egni, ac mae rhai pobl yn gweld hyn yn heriol iawn heb gymorth. Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n gwneud cyfraniad mawr at ofalu yn eithaf sylweddol. Canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru fod 6% o bobl dros 16 oed yng Nghymru yn gofalu am berthynas, ffrind neu gymydog am o leiaf 20 awr yr wythnos.

Yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, rhoddwyd yr un hawliau i ofal a chymorth i ofalwyr di-dâl â'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.  Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y Ddeddf hon yn cael ei gweithredu’n llwyddiannus a'i monitro. Mae systemau adrodd ar berfformiad awdurdodau lleol yn rhoi cipolwg ar y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr, ac rydym wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol mawr i'r ffordd y mae'r Ddeddf yn gweithio’n ymarferol.

Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddwyd tair blaenoriaeth genedlaethol i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r hawliau ychwanegol i ofalwyr o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant:

  • Helpu i fyw yn ogystal â gofalu
  • Adnabod a chydnabod gofalwyr
  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.

Rydym bellach yn bwriadu cryfhau'r gwaith o gydgysylltu’r gefnogaeth ar gyfer gofalwyr ar draws y wlad drwy adeiladu ar y tair blaenoriaeth a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl i ddatblygu cynllun gweithredu cenedlaethol yn 2020. Bydd y cynllun hwn yn cael ei lunio ar sail cydgynhyrchu gyda’r gofalwyr eu hunain, sefydliadau gofalwyr a'r holl wasanaethau cyhoeddus perthnasol drwy Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar gyfer materion gofalwyr. Bydd y cynllun cenedlaethol yn cael ei weithredu ar draws y Llywodraeth, gan edrych ar yr holl feysydd polisi perthnasol.

Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Hawliau Gofalwyr, rydym yn nodi lansio'r ymgyrch genedlaethol i wneud gofalwyr yn ymwybodol o'u hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Drwy weithio gyda'n partneriaid i gyrraedd gofalwyr o bob oedran, ym mhob rhan o'n cymunedau, byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein neges yn cael ei chlywed yn fwy clir. Rhaid i fwy o ofalwyr ddeall bod ganddynt yr un hawl i gael eu hasesu am gymorth â'r person y maent yn gofalu amdano. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi deunyddiau newydd sy'n nodi’r cam cyntaf mewn ymgyrch gyson wedi'i thargedu. Bydd posteri a thaflenni clir a chryno i'w gweld yn fuan mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru, a chopïau electronig yn cael eu hanfon at rwydwaith o randdeiliaid. Gellir gweld y deunydd newydd yn ymwneud â'r ymgyrch ar wefan Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y ddolen isod.

Y gyfraith ar ofal a chymorth: hawliau gofalwyr