Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ystod yr Adolygiad o Wariant yn 2007, penderfynodd Llywodraeth y DU na fyddai modd cymharu'r Terfyn Gwariant Adrannol a bennwyd ar y pryd i ariannu'r Gêmau Olympaidd yn Llundain yn 2012. Felly, ni ddyrannwyd symiau canlyniadol Barnett mewn perthynas â'r arian cyhoeddus o dros £7bn a ddyrannwyd ar gyfer y gêmau, er bod cyfran sylweddol o'r gwariant hwn i'w ddefnyddio i ariannu prosiectau adfywio a seilwaith trafnidiaeth yn ardal dwyrain Llundain.

Heriodd Llywodraeth Cymru y penderfyniad hwn o'r dechrau. Yn 2010, yn sgil cryn dipyn o drafod, cofnodwyd y mater yn ffurfiol fel anghydfod rhynglywodraethol. Ar 8 Mehefin eleni, trafododd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion hyn a helpodd i ddatrys rhai problemau. Cadarnhaodd hefyd frwdfrydedd y gweinyddiaethau i’w datrys mewn ffordd greadigol ac adeiladol er mwyn sicrhau llwyddiant Gêmau Olympaidd 2012.

Ar ôl trafod y mater ymhellach, mae'r gweinyddiaethau wedi cytuno:

  • gadarnhau eu hymrwymiad i sicrhau llwyddiant Gêmau Olympaidd 2012 a digwyddiadau chwaraeon mawr eraill yn y DU;
  • gadarnhau eu hymrwymiad i gyfathrebu, cydweithio'n agos a pharchu ei gilydd er mwyn osgoi a datrys anghydfodau, a defnyddio protocol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion i ddatrys anghydfodau fel y nodir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig;
  • ar bwysigrwydd dysgu gwersi o bob anghydfod er mwyn eu gwneud yn llai tebygol o godi yn y dyfodol. Yn yr achos hwn, nodwyd y cytundeb yn ystod trafodaethau cynharach yr anghydfod hwn y dylai penderfyniadau ar fformiwla Barnett fod bob amser yn seiliedig ar dystiolaeth a chael eu gwneud mewn modd amserol ac mewn ymgynghoriad â'r gweinyddiaethau datganoledig. Cytunwyd ar y geiriad o'r blaen ac erbyn hyn mae wedi'i gynnwys ym Mholisi Datganiad Cyllid Trysorlys Ei Mawrhydi a gyhoeddwyd ochr yn ochr ag Adolygiad y DU o Wariant yn hydref 2010;
  • bod newidiadau sylweddol wedi bod mewn cyllid cyhoeddus ers i'r anghydfod hwn godi yn y lle cyntaf ac na ddylent, felly, ailystyried penderfyniadau ar gyllideb y Gêmau Olympaidd a wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU;
  • y bydd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn derbyn swm untro sy'n gyfartal â symiau canlyniadol Barnett ar gyfer newidiadau i gyllid y Gêmau Olympaidd ers i Lywodraeth bresennol y DU ddod i rym ym mis Mai 2010. £30.2 miliwn yw cyfanswm y symiau hyn, a bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £8.9 miliwn ohono, Llywodraeth yr Alban £16 miliwn a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon £5.4 miliwn (wedi'i dalgrynnu i'r £100,000 agosaf). Caiff y symiau hyn eu hychwanegu at gyllidebau'r gweinyddiaethau datganoledig a byddant ar gael i'w gwario yn 2011-12;
  • ar bwysigrwydd adolygu'n fanwl gostau a buddiannau Gêmau Olympaidd 2012 a digwyddiadau chwaraeon mawr eraill yn y DU, a pha mor bwysig ydyw i'r Llywodraethau gydweithio ar yr astudiaethau hynny a'u rhannu.

Mae'r cytundeb uchod yn datrys yr anghydfod ynglŷn â'r Gêmau Olympaidd, yn amodol ar gytundebau presennol, sef bod gwaith Llywodraeth y DU a chostau prosiectau penodol, a ariannwyd gan Adrannau unigol y DU, yn denu symiau canlyniadol Barnett yn y ffordd arferol.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.