Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rydym yn nodi Wythnos y Ffoaduriaid, gŵyl flynyddol o ddigwyddiadau i ddathlu cyfraniadau gwerthfawr pobl sy’n ceisio noddfa yn y DU. Mae’r dathliadau yn dwyn ynghyd bobl o bob cefndir i ddatblygu gwell dealltwriaeth rhwng cymunedau a hybu integreiddio. Gwelwyd sawl her eleni, o ymadael â’r UE, i bandemig COVID-19 yn fwy diweddar, ac rydym yn falch o weld bod Wythnos y Ffoaduriaid yn parhau, o ystyried yr amgylchiadau hyn.

Yn ystod y pandemig, rydym wedi annog awdurdodau lleol i ddarparu llety i unrhyw un sydd ei angen, ni waeth beth yw eu statws mewnfudo. Nid yn unig mai dyma'r ateb moesol, ond mae hefyd yn gwneud synnwyr iechyd cyhoeddus da. Wrth i’r pandemig dawelu, byddwn yn edrych ar ganlyniadau mwy cynaliadwy i’r unigolion hyn, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Chynghrair Ffoaduriaid Cymru. Ni waeth beth fo statws mewnfudo unigolyn, ni fydd gofyn am gymorth yn effeithio ar ei gais am loches, ac ni fydd ei wybodaeth yn cael ei rhannu. Rhaid inni barhau i atgoffa pobl sy’n ceisio noddfa fod y Gwasanaeth Iechyd (GIG) ar gael am ddim yng Nghymru, bod yr holl wasanaethau meddygol ar gael iddynt o hyd, ac y byddant ar gael am ddim.

Mae meddygon sy’n ffoaduriaid wedi bod yn rhan bwysig o ymateb Cymru i bandemig COVID-19. Mae Grŵp Meddygon sy’n Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn cefnogi meddygon sy’n ffoaduriaid i gael cydnabyddiaeth i'w cymwysterau meddygol presennol a dod o hyd i waith yn y GIG ers dros 15 mlynedd. Amcangyfrifir bod y cynllun hwn wedi cefnogi ffoaduriaid i ddefnyddio’u sgiliau ac i deimlo fel rhan o gymdeithas Cymru, gan achub bywydau di-rif yn y broses. Rydym yn cydnabod bod cyfnewid diwylliannol a dysgu yn broses ddwy ffordd, a bod gan bobl o wahanol gefndiroedd lawer i’w rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Thema Wythnos y Ffoaduriaid 2020 yw ‘dychmygu potensial Cymru fel gwir Genedl Noddfa’. Mae hon yn thema addas i’n cenedl, gan fod gan Gymru hanes hir o groesawu ffoaduriaid, ac rydym yn parhau i werthfawrogi ac elwa o’u sgiliau, eu hysbryd entrepreneuraidd, a gallu rhannu eu diwylliannau.

Yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid rydym yn dweud unwaith eto mai ein huchelgais yw gwneud Cymru yn genedl noddfa. Bu ychydig dros flwyddyn ers inni lansio ‘Gwlad Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches’, sy’n hyrwyddo’r uchelgais hwn i Gymru. Yn ystod y cyfnod hwn, er gwaethaf yr heriau rydym wedi’u gweld yn 2019 a dechrau 2020, rydym wedi parhau i weld cynnydd o ran camau gweithredu’r cynllun.

Dyma rai llwyddiannau allweddol:

  • Lansio ein gwefan Noddfa ym mis Tachwedd 2019 sy’n cyfieithu gwybodaeth i bob iaith. Rydym wedi darparu gwybodaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Meddygon y Byd am COVID-19 ar ein gwefan, sy’n golygu ei bod yn hawdd cael mynediad at wybodaeth hanfodol ym mhob iaith.
  • Ymestyn y Rhaglen Hawliau Lloches a phrosiectau Symud Ymlaen dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru fel eu bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth tan o leiaf fis Mawrth 2021.
  • Rhoi prosiect Ailgychwyn, a greodd ganolfannau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) a Chyflogadwyedd ar gyfer ffoaduriaid, ar waith yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. Rydym hefyd wedi cael blwyddyn ychwanegol o gyllid ar gyfer prosiect Ailgychwyn: Prosiect Integreiddio Ffoaduriaid, a fydd bellach yn parhau tan fis Rhagfyr 2021. Rydym wedi cyhoeddi ymchwil ar y rhagolygon cyflogaeth i ffoaduriaid yng Nghymru
  • Cefnogaeth barhaus i sicrhau mynediad at gyngor cyfreithiol i bobl sy’n ceisio noddfa, yn ogystal â gwaith i sicrhau cynaliadwyedd y rhai sy’n darparu’r cyngor hwn. Mae Asylum Justice wedi bod yn defnyddio ein cyllid i sicrhau cyllid mwy cynaliadwy gan Gyllidwyr Grantiau, gan fynd i’r afael hefyd â’r apeliadau lloches a’r ‘hawliadau newydd’ sydd wedi ôl-gronni. £50,000 i Asylum Justice ar gyfer 2020/21 i barhau â’r gwaith hwn.
  • Rydym wedi rhoi £30,000 o gyllid yn 2020-21 i Gyngor Ffoaduriaid Cymru i gyflwyno ymwybyddiaeth o droseddau casineb ymhlith pobl sy’n chwilio am noddfa, fel rhan o’n Grant Troseddau Casineb i Gymunedau Lleiafrifoedd Ethnig.
  • Cyhoeddwyd canllawiau gwrth-fwlio statudol newydd ddiwedd 2019. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion gofnodi pob achos o fwlio, gan amlinellu’r mathau penodol o fwlio, yn cynnwys bwlio yn ymwneud â’r nodweddion gwarchodedig. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion fonitro’u prosesau yn rheolaidd.
  • Cynhaliodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ymgynghoriad a gaeodd ddiwedd Chwefror 2020 i ganfod gwelliannau y gellir eu gwneud i gefnogi pobl sy’n ceisio lloches mewn addysg uwch.
  • Cynhyrchwyd amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a chanllawiau dros y 6 mis diwethaf i gefnogi gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth sy’n gofalu am bobl ifanc sy’n ceisio lloches. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn lobïo Llywodraeth y DU i gadw Hawliau Aduno Teulu ar ôl Gadael yr UE.
  • Caniatáu i grwpiau sy’n cynrychioli ffoaduriaid a cheiswyr lloches fod â hawl i fynediad am ddim i safleoedd CADW ledled Cymru.

Rydym wedi gwneud cynnydd da tuag at y nod o fod yn Genedl Noddfa, drwy gydweithio ag Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cynghrair Ffoaduriaid Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, i wella bywydau pobl sy’n chwilio am noddfa yng Nghymru.

Gellir cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith ers i’r cynllun gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2019 yma:

Cynllun ffoaduriaid a cheiswyr lloches (cenedl noddfa): adroddiad cynnydd 2020

Lansiwyd ein prosiect uchelgeisiol, ‘AilGychwyn: Integreiddio Ffoaduriaid’, yn swyddogol ar 20 Mehefin 2019. Erbyn mis Ebrill 2020, roeddem wedi gweld 276 o ffoaduriaid yn cymryd rhan yn y prosiect, gan gael asesiad cyfannol o’u hanghenion, eu sgiliau a’u dymuniadau. Yn dilyn yr asesiadau hynny, rhoeddwyd cymorth pwrpasol i’w helpu i integreiddio yn y pedwar clwstwr gwasgaru yng Nghymru. O blith y ffoaduriaid hynny, cafodd 165 gyfleoedd i fynd i ddosbarthiadau ESOL. A chafodd 209 ymyriadau cyflogadwyedd. Mae’r prosiect yn darparu cefnogaeth i wella hyfforddiant iaith, cymorth cyflogaeth, mentora, cydnabod cymwysterau, gwybodaeth am hawliau a mwy, ac mae hynny i gyd yn cyfrannu tuag at integreiddio yng Nghymru.

Mewn ychydig llai na blwyddyn, mae cyfranogwyr wedi rhyngweithio mwy cymhleth wedi digwydd gyda’u gweithwyr achosion. Ac yn enwedig gyda’r rheini sydd â chymwysterau o’u gwlad wreiddiol. Mae un astudiaeth achos ddiweddar wedi dangos fel y gwnaeth cymorth pwrpasol helpu ffoadur, sydd â gradd Meistr mewn Microbioleg o’i wlad enedigol, i gael y cymhwyster hwnnw wedi’i gydnabod yn y DU. Bellach, mae’n cael hyfforddiant Saesneg lefel uwch i’w helpu i wneud cais am radd gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Fiomeddygol. Dywedodd y ffoadur nad oedd yn teimlo’n obeithiol am ei ddyfodol heb y coleg, ond ei fod bellach yn teimlo’n gyffrous ynghylch cynllunio ei lwybr gyrfa. Dyma’r gobaith yr ydym yn ei greu yng Nghymru.

Nid yw pawb sy’n ceisio lloches yn cael gweithio ac mae perygl i lawer ohonynt wynebu cyni. Rydym wedi parhau i archwilio cyfleoedd i leihau’r risg hon a lliniaru effaith y cyni a wynebir gan yr unigolion hyn. Gall unrhyw geisiwr lloches droi at y Gronfa Cymorth Dewisol os yw’n wynebu cyni. Ar 10 Mawrth 2020, roedd 143 o geiswyr lloches wedi manteisio ar y math hwn o gyllid.

Rydym yn cydnabod nad oes gan lawer o geiswyr lloches y gwrthodwyd eu cais am loches fynediad at gyngor cyfreithiol o ansawdd da. Mae hyn yn gallu tanseilio eu gallu i ffurfioli eu statws. Gall hyn gynnwys cais newydd am loches neu ddychwelyd o’u gwirfodd i’w gwlad wreiddiol. Rydym wedi comisiynu ymchwil (y bwriedir ei chyhoeddi yn yr haf) i edrych ar opsiynau i gefnogi unigolion o’r fath. Mae hwn yn fater cymhleth na ellir ei ddatrys ar frys, ond yr ydym yn gwneud cynnydd. Rydym hefyd yn sicrhau bod gan yr unigolion hyn do dros eu pennau ar adeg mor dyngedfennol, sy’n rhoi cyfle iddynt ystyried eu dewisiadau.

Rydym yn falch bod ‘Clearsprings Ready Homes’ wedi cytuno i roi terfyn ar orfodi oedolion nad ydynt yn perthyn i rannu ystafelloedd mewn llety lloches, sef un o ofynion allweddol Llywodraeth Cymru o ran y system newydd. Rydym hefyd yn falch bod preswylwyr yn gallu cwyno am eu llety drwy’r darparwr Lloches, Rhoi Gwybod am Broblemau a Chymhwysedd, ‘Migrant Help’, yn hytrach na thrwy ddarparwr y llety. Rydym yn parhau i fonitro’r trefniadau hyn ac yn annog mwy o rannu data a thryloywder i wella hyder y cyhoedd yn y system lloches.

Rydym yn parhau i weithio’n galed i geisio newidiadau i’r system lloches a fydd yn gwella lles ceiswyr lloches, cydlyniant cymunedol a’n gallu ni fel Gweinyddiaeth Ddatganoledig i wneud ymyriadau polisi effeithiol i gefnogi’r aelodau hyn o’n cymuned.

Ers lansio’r cynllun, rwyf wedi cysylltu â phartneriaid allweddol i godi ymwybyddiaeth o’r Cynllun a chasglu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnom i wneud Cymru yn genedl noddfa. Rwyf wedi ysgrifennu at bob Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru, ac wedi cael ymatebion cadarnhaol sy’n dangos ymrwymiad i weithio gyda ni tuag at ein nod cyffredin. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â Chynghrair Ffoaduriaid Cymru i drafod sut y gallwn gydweithio ar weithredu’r cynllun.

Mae’r modd y mae rhai sectorau wedi ymateb i’n her wedi fy nghalonogi. Ym mis Chwefror 2020, ymwelais ag Abertawe i weld sut mae colegau a Phrifysgolion yr ardal yn gweithio tuag at achrediad fel llefydd Noddfa. Rwyf yn cefnogi hyn yn llwyr ac yn annog sectorau eraill i ddilyn yr esiampl. Bydd ein gwaith dros y misoedd nesaf yn canolbwyntio ar y sector preifat a sefydliadau tai ond rwy’n gobeithio y bydd sectorau eraill yn camu ymlaen ac yn gweithio gyda ni ar y weledigaeth hon.

Ym mis Ebrill 2019, siaredais am y Cynllun yn nigwyddiad Noddfa yn y Senedd. Roedd y digwyddiad yn nodi carreg filltir arwyddocaol, sef bod Cymru wedi croesawu dros 1,000 o ffoaduriaid dan Raglen Adsefydlu Ffoaduriaid o Syria a’r Cynllun Adsefydlu Plant sy'n Agored i Newid. Carreg filltir na fyddai wedi bod yn bosibl ei chyflawni ond drwy waith caled partneriaid ledled Cymru. Hyd yma, rydym wedi croesawu 1400 o ffoaduriaid o dan y cynlluniau adsefydlu.

Pan ddechreuodd Wythnos y Ffoaduriaid yn 1998, un o’i phrif amcanion oedd mynd i’r afael â phortreadau negyddol o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y cyfryngau. Mae’n amlwg bod digwyddiadau fel Wythnos y Ffoaduriaid a Noddfa yn y Senedd hefyd yn gyfle gwerthfawr i gyflwyno ffoaduriaid a cheiswyr lloches fel unigolion, tebyg i ni. Mae’n hanfodol bod pobl sy’n ceisio lloches yn parhau i gael cyfleoedd i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau.

Mae’r pandemig wedi ein hatgoffa’n ddidostur na allwn anwybyddu argyfyngau sy’n digwydd ar ochr arall y blaned. Bydd effaith a chanlyniadau dynol y digwyddiadau hyn yn cael eu teimlo yma hefyd maes o law. O ran Covid-19, mae’r effaith wedi bod yn gyflym ac yn dorcalonnus. Pan fydd unrhyw fath o argyfwng yn digwydd ar draws y byd, mae dyletswydd arnom i gefnogi’r rheini sy’n gorfod ffoi a cheisio lloches. Ond yn hollbwysig, mae’r unigolion hyn yn rhoi’n ôl – o staffio ein GIG, i bacio parseli i’w danfon i gartrefi, rhedeg busnesau bwyd tecawê a llawer mwy. Bydd llawer o ddigwyddiadau Wythnos y Ffoaduriaid eleni yn cyfeirio at gân John Lennon, ‘Imagine’, a ysgrifennodd yn ystod rhyfel Fietnam yn 1971. Ynddi mae’n annog pobl i fyw mewn undod ac yn y llinell olaf mae’n dyheu am weld y Byd yn byw fel un. Nid yw’r geiriau hyn erioed wedi bod yn fwy perthnasol nag yn ein Byd ni heddiw, a dyma’n union yr ydym am ei weld yng Nghymru - rydym am i’n gwlad fod yn groesawgar ac am gefnogi pobl i ailadeiladu eu bywydau yma, er budd pawb.