Lesley Griffiths AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Mae gan Gymru fyddin o wirfoddolwyr a thraddodiad o wirfoddoli sydd heb ei ail. Mae gwirfoddolwyr yn gweithio o amgylch Cymru bob dydd a nos o'r flwyddyn, felly mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn cyfle pwysig i ni gyd fyfyrio ar eu holl waith caled. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bawb sy'n rhoi o'u hamser i helpu eraill.
Mae sefydliadau'r sector gwirfoddol sy'n helpu'r rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn wynebu heriau gwirioneddol i recriwtio a chadw gwirfoddolwyr. Ar yr un pryd, mae llawer o'r sefydliadau hyn yn wynebu costau cynyddol a mwy o alw am eu gwasanaethau. Mae'r gwasanaethau hanfodol hyn, sy'n aml yn ategu darpariaeth y sector cyhoeddus ac yn cyfrannu at lenwi rhai o'r bylchau a grëwyd gan flynyddoedd o lymder, mewn perygl mewn sawl man. Nid yw gwirfoddolwyr yr ydym wedi dibynnu arnynt yn fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf eu hunain yn rhydd rhag effeithiau costau a galwadau cynyddol am eu hamser.
Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal seilwaith y cymorth yr ydym wedi'i greu o amgylch gwirfoddoli. Mae ein partneriaid Cefnogaeth Trydydd Sector Cymru, sy'n cynnwys ein Canolfannau Gwirfoddoli a'n timau lleol ledled Cymru, ein Grantiau Gwirfoddoli Cymru a'n Porth Gwirfoddoli Cymru sydd newydd ei uwchraddio, i gyd wedi'u cynllunio i wneud pethau'n haws i'r rhai sydd am wirfoddoli a'r sefydliadau sydd eu hangen.
Rydym am annog mwy o bobl i wirfoddoli, oherwydd mae yna ffyrdd di-ri yr ydym i gyd yn dibynnu ar y gweithredoedd syml o garedigrwydd a chymorth yr ydym yn eu galw'n "gwirfoddoli". Stacio silffoedd banciau bwyd, gyrru bysiau mini ar gyfer trafnidiaeth gymunedol, gweithredu fel ymddiriedolwyr, gwirfoddoli mewn ysbytai, codi sbwriel, rhedeg grwpiau hunangymorth, codi arian – gallai'r rhestr fynd ymlaen bron yn ddi-ddiwedd. Pob dydd, ym mhob rhan o Gymru, mae pryderon, ofnau a dioddefaint, cymaint o'n dinasyddion yn cael eu lleddfu gan weithredoedd anhunanol gwirfoddolwyr.
Rydym yn cymryd cymaint o'r gweithredoedd syml hyn yn ganiataol. Efallai mai dim ond pan fyddwn ni neu rywun sy’n annwyl i ni’n elwa'n uniongyrchol yr ydym yn deall yn iawn i ba raddau rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr a sefydliadau gwirfoddol.
Dylem hefyd gofio bod y weithred o wirfoddoli hefyd o fudd i'r gwirfoddolwr. Mae tystiolaeth yn dangos bod gan wirfoddolwyr well iechyd, rhwydweithiau cymdeithasol cryfach a'u bod yn hapusach.
Ond mae gwirfoddoli'n newid - mae sut a pham mae pobl eisiau gwirfoddoli wedi bod yn symud, ers hyd yn oed cyn y pandemig a'r argyfwng costau byw. Mae'r mudiadau gwirfoddol bellach yn wynebu heriau gwirioneddol i recriwtio a chadw'r gwirfoddolwyr sydd hollbwysig iddynt, a daw hyn ar adeg o alw cynyddol am eu gwasanaethau.
Mewn ymateb, mae angen dulliau arloesol arnom i helpu mudiadau trydydd sector i ddenu a chadw gwirfoddolwyr, wedi'u seilio ar weledigaeth newydd a blaengar i ysgogi gwirfoddoli yng Nghymru. Bydd dull clir, newydd, gyda chefnogaeth pob sector o gymdeithas Cymru, yn golygu y gallwn fanteisio ar y newidiadau a'r egni cadarnhaol a gynhyrchir yn ystod y pandemig a datgloi'r potensial sy'n bodoli yn llawn.
Darparu'r weledigaeth hon a helpu i'w gwireddu'n yr hirdymor yw'r union beth y bydd ein Grŵp Arwain Gwirfoddoli Traws-sector, a sefydlwyd drwy Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, yn ei wneud dros y 12 mis nesaf. Bydd y grŵp yn cyd-ddylunio dull newydd o Wirfoddoli yng Nghymru er mwyn rhoi gweledigaeth uno-glir ac unigryw Gymreig i ni ar gyfer gwirfoddoli yng Nghymru, a fframwaith ar gyfer ei gyflawni.
Dros y mis nesaf, bydd y broses gyd-ddylunio, drwy arolygon, gweithdai, cyfweliadau a dulliau eraill, yn rhoi cyfle i bawb sydd am helpu i lunio dyfodol gwirfoddoli. Oherwydd mae llais pawb yn hanfodol wrth lunio rhan mor sylfaenol a phwysig o'n bywyd yng Nghymru.