Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Mae heddiw yn nodi 72 o flynyddoedd ers i’r llong HMT Empire Windrush a’i 492 o deithwyr gyrraedd y DU. Mae hon yn garreg filltir ddiwylliannol bwysig yn ein hanes oherwydd ei bod yn cynrychioli trobwynt yn y ffordd yr oedd y Deyrnas Unedig yn ystyried y Gymanwlad, gan gydnabod y gallai dinasyddion y Gymanwlad wneud cyfraniad gwerthfawr i’n cymdeithas.
Rydym yn byw mewn cyfnod na welwyd ei debyg o’r blaen ac mae pawb yn ymwybodol o’r effaith anghyfartal y mae COVID-19 yn ei chael ar gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) ledled y DU. Rydym hefyd yn ymwybodol bod cyfran fawr o’r bobl sy’n gweithio ar y rheng flaen yn dod o gefndiroedd BAME.
Ym mis Ebrill 2020, lansiodd y Prif Weinidog ymchwiliad brys er mwyn deall pam fod COVID-19 yn achosi risg uwch i gymunedau BAME. Hefyd, sefydlodd Grŵp Cynghorol Iechyd BAME Cymru ar COVID-19.
Roedd y Grŵp Cynghorol yn cynnwys dau is-grŵp. Roedd y cyntaf yn canolbwyntio ar Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu a lansiwyd ar 26 Mai ac sydd wedi’i roi ar waith yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru ac yn y sector gofal cymdeithasol fel man cychwyn.
Roedd yr ail is-grŵp yn edrych ar y ffactorau economaidd-gymdeithasol a allai fod wedi achosi i nifer anghymesur o aelodau o gymunedau BAME gael COVID-19 a marw ohono.
Mae adroddiad yr is-grŵp yn cael ei gyhoeddi heddiw ac mae’n datgelu nifer o ffactorau risg economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol allweddol.
Oherwydd effaith COVID-19, nid yw’n hi’n bosibl cwrdd wyneb yn wyneb â Hynafgwyr Windrush fel yr wyf wedi’i wneud yn y gorffennol. Er hynny, rwy’n falch bod y Prif Weinidog a minnau wedi gallu nodi’r diwrnod pwysig hwn fore heddiw mewn digwyddiad ar-lein. Ariannwyd y digwyddiad hwn yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Hynafgwyr Windrush Cymru, a chafodd ei drefnu gan Race Council Cymru a’i bartneriaid. Rwyf hefyd yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru, fel rhan o’r dathliadau, yn gallu ariannu lluniaeth fydd yn cael eu cludo i gartrefi Hynafgwyr Windrush heddiw.
Cyrhaeddodd llong Windrush y DU ar ôl i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1948 gael ei phasio, ar adeg pan oedd Prydain yn ei chael yn anodd dod dros ddistryw yr Ail Ryfel Byd. Bryd hynny, roedd Prydain yn cydnabod bod arni angen asedau a chryfderau dinasyddion y Gymanwlad er mwyn helpu i ailgodi ein cymdeithas. Roedd y Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig yn datgan yn glir bod gwahoddiad i unigolion ddod i Brydain i sefydlu cartref newydd.
Er hyn, rydym yn gwybod bod llawer o unigolion o genhedlaeth Windrush wedi’u siomi gan natur elyniaethus y rhai a oedd i fod i’w croesawu. Mae hi’n fraint i Lywodraeth Cymru gael cynifer o ddinasyddion y Gymanwlad yn rhan o’n cymuned ac rydym am ichi wybod cymaint yr ydym yn gwerthfawrogi, parchu a dathlu’r hyn y mae mudwyr Windrush a’r Gymanwlad wedi’i gyfrannu i Gymru.
Yn benodol, rydym yn cydnabod y cyfraniad anferth y mae Cenhedlaeth Windrush wedi’i wneud i’n gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Cafodd y GIG, fel llawer o sefydliadau Prydain ar ôl y rhyfel, ei adeiladu gan fudwyr ac ni fyddai wedi gallu goroesi yn ei ffurf bresennol hebddynt. Roedd ymgyrchoedd recriwtio ar gyfer nyrsys ym Malaysia, Mauritius ac mewn gwledydd eraill yn Ymerodraeth Prydain, yn ogystal â’r Caribî, ac rydym yn llwyr gydnabod yr hanes hwn fel rhan bwysig o hanes Cymru.
Talwn deyrnged i aelodau’r Gymanwlad a mudwyr Windrush sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig hwn. Rwy’n cydymdeimlo o waelod calon â’r holl deuluoedd sydd wedi colli teulu a ffrindiau.
O ystyried y cyfraniad hwn, mae sgandal Windrush yn fwy torcalonnus fyth. Gwnaed cam enfawr â dinasyddion y Gymanwlad drwy wneud iddynt deimlo nad oeddent yn Brydeinwyr. Rydym yn parhau i annog Llywodraeth y DU i wneud rhagor i sicrhau bod gan ddinasyddion y Gymanwlad ddogfennau priodol, ynghyd â rhoi iawndal iddynt pan fo hynny’n briodol. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref eto i’w hannog i weithredu canfyddiadau adroddiad Wendy Williams, ‘Windrush Lessons Learned’, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Mawrth 2020. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y newid diwylliannol sylweddol sydd ei angen yn y Swyddfa Gartref i sicrhau nad yw prosesau biwrocrataidd a systemau cymhleth yn atal y Swyddfa Gartref rhag cydnabod yr unigolion y mae angen cymorth arnynt. Disgwyliwn weld rhagor o waith yn cael ei wneud gyda chenhedlaeth Windrush yng Nghymru i sicrhau y gall awdurdodau cyhoeddus adfer eu perthynas â dinasyddion y Gymanwlad cyn gynted â phosibl.
Rydym wedi cysylltu â’r Swyddfa Gartref ar sawl achlysur mewn perthynas â cheisiadau ac achosion iawndal Tasglu Windrush sy’n benodol i Gymru ond nid ydym wedi cael ymateb boddhaol eto. Rydym yn parhau i annog unrhyw un yr effeithir arnynt i roi gwybod inni os nad yw’r system yn gweithio’n iawn.
Mae cyfnod newydd a phwysig wedi dechrau mewn perthynas â chysylltiadau hiliol. Mae marwolaeth drasig George Floyd yn America, a’r ymateb rhyngwladol yn dilyn hynny, wedi amlygu bod hiliaeth ac achosion o wahaniaethu yn erbyn pobl yn dal i fod yn rhan amlwg o fywyd bob dydd llawer o bobl. Mae cenhedlaeth Windrush wedi bod yn profi hyn ers blynyddoedd lawer ac mae’n rhaid inni roi diwedd ar hynny.
Yn gynnar ym mis Mawrth eleni, bum yn trafod datblygiad Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol gyda Fforwm Hil Cymru, fydd yn ein gosod ar siwrne uchelgeisiol i symud ymlaen tuag at gydraddoldeb hiliol yng Nghymru.
Rwy’n benderfynol o annog newid yng Nghymru, ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion drefnu cyfarfodydd brys i ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Bydd hyn yn golygu ymgynghori trwyadl gyda chymunedau BAME ledled Cymru. Mae angen i'r lleisiau hyn gael eu clywed er mwyn sicrhau bod pawb yn arddel y cynllun a'i fod yn arwain at newid gwirioneddol.
Heddiw, rydym yn talu teyrnged i’r cyfraniadau y mae cenhedlaeth Windrush wedi’u gwneud i Gymru, ynghyd â chyfraniadau cymunedau mudol eraill a ddaeth o flaen y genhedlaeth honno ac ar ei hôl. Rydym yn diolch iddynt am eu hymdrechion a’u haberth dros y cenedlaethau.
Fel gwlad, rhaid inni barhau i hyrwyddo a diogelu ein hegwyddorion o ran dealltwriaeth, cynwysoldeb a chydraddoldeb i bawb.