Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy’n cyhoeddi heddiw ganllawiau newydd ar gyfer ysgolion a lleoliadau addysg: Dathlu a Chyfranogi: canllawiau addysg i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Bydd y canllawiau hyn yn cefnogi ysgolion ac ymarferwyr addysg i wella profiadau addysgol plant a phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae’r canllawiau wedi cael eu cyd-gynhyrchu gyda dysgwyr a rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys cynrychiolwyr cymunedol, awdurdodau lleol a gwasanaethau addysg.
Mae’r canllawiau’n cynnwys manylion y gwahanol heriau a rhwystrau i ddysgu a nodwyd gan blant, pobl ifanc a’u teuluoedd o’r cymunedau amrywiol, ac yn nodi enghreifftiau ymarferol effeithiol o gamau i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn o bob rhan o Gymru.
Ers gormod o amser, mae plant a phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ledled Cymru wedi wynebu heriau gan gynnwys bwlio, gwahaniaethu a hiliaeth, a diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’u gwahanol ddiwylliannau a’u profiadau hanesyddol. Gall y rhwystrau hyn mewn lleoliadau addysgol arwain at ymddieithrio o addysg neu adael yr ysgol yn gyfan gwbl, sy’n cael effaith sylweddol ar allu’r dysgwyr i ddilyn y trywydd sy’n eu denu a chyflawni eu nodau yn llwyddiannus.
Wedi’n hysgogi gan y Cwricwlwm i Gymru a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol, rydym yn gwreiddio gwrth-hiliaeth yn ein system addysg ac yn hyrwyddo tegwch mewn addysg, fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn eu lleoliad addysg ac yn barod i ddysgu. Bydd y canllawiau newydd yn cefnogi ysgolion a lleoliadau addysg ledled Cymru i gyflawni hyn.