Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
Mae heddiw'n nodi 70 mlynedd ers i'r Empire Windrush a'r 492 o deithwyr o'r Caribî a oedd arni gyrraedd y DU. Mae'r achlysur diwylliannol pwysig hwn yn ein hanes yn cael ei ddathlu yn y Senedd brynhawn heddiw mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gyngor Hil Cymru a Hynafgwyr Mis Hanes Pobl Dduon. Rydym yn dymuno croesawu'r dathliad hwn yn dwymgalon ac yn cydnabod yr arwyddocâd eang sydd iddo heddiw ac yn hanesyddol.
Roedd glaniad y Windrush yn dilyn pasio Deddf Cenedligrwydd Prydeinig 1948, ar adeg pan oedd Prydain yn parhau i geisio dod dros holl ddinistr yr Ail Ryfel Byd. Ar yr adeg honno, roedd cydnabyddiaeth fod ar Brydain angen asedau a chryfderau dinasyddion y Gymanwlad i helpu i ail-adeiladu ein cymdeithas. Rhoddodd Deddf Cenedligrwydd Prydeinig wahoddiad clir i unigolion ddod i ymgartrefu ym Mhrydain..
Mae'r gwahoddiad hwnnw i ddinasyddion y Gymanwlad yn 1948 yn dangos agwedd Llywodraeth Cymru tuag at fudo heddiw. Nid y teithwyr ar y Windrush oedd y don gyntaf na'r olaf o fudwyr sydd wedi helpu i greu gwead amlddiwylliannol y Gymru gyfoes. Mae Butetown yng Nghaerdydd, yn enwedig, yn un o'r cymunedau amlddiwylliannol hynaf yn y DU. Chwaraeodd mudwyr ran fawr wrth i Gymru ddatblygu'n rym economaidd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd dinasyddion y Gymanwlad yn rhan hanfodol o ymdrechion y Cynghreiriaid yn ystod y ddau ryfel. Mae mudwyr wedi parhau i fod yn rhan annatod o'r ffordd y mae ein cenedl wedi datblygu ers i'r Windrush lanio. Yn 2018, mae Cymru'n dibynnu'n drwm ar ein cymunedau mudol mewn sectorau fel y diwydiant bwyd a diod, gweithgynhyrchu, twristiaeth, addysg uwch, milfeddygaeth a'r GIG. Mae'r GIG yn 70 oed eleni hefyd ac mae'n arbennig o anodd dychmygu y bydd ein system iechyd y n parhau i lwyddo heb gefnogaeth hollbwysig ein cymunedau mudol a'u disgynyddion.
Rydym eisiau i Genhedlaeth Windrush wybod ein bod yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau i Gymru dros y 70 mlynedd diwethaf. Maent nid yn unig wedi cyfrannu at dwf Cymru'n economaidd, ond hefyd wedi cyfoethogi ein hamrywiaeth diwylliannol a chelfyddydol - a gobeithiaf weld rhywfaint o hynny yn y digwyddiad dathlu heddiw. Mae'r broses o gyfuno mathau newydd o gelfyddyd a ffyrdd newydd o fyw, yn ogystal â chyfleoedd i gymysgu a chymdeithasu â phobl o ddiwylliannau eraill wedi cael effaith ddofn a chadarnhaol ar oddefgarwch a chydlyniant cymunedol yng Nghymru. Mae'r llif o gefnogaeth i Genhedlaeth Windrush yn ddiweddar yn adlewyrchu'r parch sydd gan y Cymry tuag at y rhai a atebodd y galw'r holl flynyddoedd yn ôl ac a ymgartrefodd ym Mhrydain. Mae hiliaeth a gwahaniaethau yn parhau i ddigwydd yng Nghymru, felly mae rhaid i ni barhau i hyrwyddo ac i ddiogelu ein hegwyddorion o ran goddefgarwch, cynwysoldeb a chydraddoldeb.
Mae'n amhosibl trafod y Windrush heb feddwl am effaith polisïau 'Amgylchedd Gelyniaethus' Llywodraeth y DU ar fudwyr a chymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru. Mae tu hwnt i bopeth fod rhai aelodau o Genhedlaeth Windrush wedi colli eu swyddi neu eu cartrefi yn sgil hynny, eu bod wedi cael eu gorfodi i oedi cyn cael triniaeth feddygol angenrheidiol, neu ei hepgor yn llwyr, neu wedi cael eu hallgludo oherwydd yr Amgylchedd Gelyniaethus llym ac anghyfiawn. Hyd yma, dim ond nifer fechan o achosion a nodwyd yn ein trafodaethau â rhanddeiliaid, ond rydym yn cydnabod efallai bod unigolion eraill yn ofni dod i'r golwg ar hyn o bryd. Rydym yn annog yr unigolion hynny i geisio cael help gan ddarparwyr cyngor wedi'u rheoleiddio er mwyn ceisio cael unioni'r cam.
Er bod Llywodraeth y DU wedi cytuno i helpu'r rhai y cafodd hyn effaith arnynt, byddwn yn parhau i roi pwysau arnynt i ddatrys hyn mewn modd boddhaol ac mewn da bryd. Rydym wedi gofyn i randdeiliaid roi gwybod i ni os nad yw'r system yn gweithio fel y dylai ond nid ydym wedi cael unrhyw sylwadau i'r perwyl hwnnw hyd yn hyn. Yn yr un modd, byddwn yn cefnogi pobl eraill y mae'r polisïau hyn wedi cael effaith annheg arnynt. Mae hyn yn cynnwys mudwyr eraill, pobl sydd wedi cael gwrthod eu cais am loches, a dinasyddion Prydeinig nad yw'n hawdd iddynt ddangos pasbort.
Heddiw rydym yn talu teyrnged i'r cyfraniad a wnaed i Gymru gan Genhedlaeth Windrush a'u disgynyddion a hefyd gyfraniad y cymunedau mudol eraill a ddaeth yma o'u blaenau neu ar eu holau. Rydym yn diolch iddynt am eu hymdrechion a'r hyn y maent wedi'i aberthu dros y cenedlaethau. Byddwn yn parhau i groesawu i'n côl y rhai sy’n hanu o fannau eraill sy'n ceisio gwella ein cymunedau, a byddwn yn herio unrhyw wahaniaethu yn erbyn y cymunedau hyn, lle bynnag y'i gwelwn.