Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, cyn Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Yn fy Natganiad ar Strategaeth Pysgodfeydd Cymru ar 27 Mawrth 2012, hysbysais yr aelodau fod trafodaethau yn mynd rhagddynt yn dda i ddod i gytundeb a fodd yn galluogi’r gweinyddiaethau datganoledig perthnasol i fod yn gwbl gyfrifol am drwyddedu a chwotâu ar gyfer eu cychod a’u llongau pysgota. Trwyddedu a chwotâu oedd yr elfennau oedd yn weddill o ran rheoli pysgodfeydd oedd heb eu datganoli’n llawn.

Rwy’n falch o hysbysu’r aelodau bod y trafodaethau hynny bellach wedi’u cwblhau ac fy mod wedi dod i gytundeb ar y concordat. Mae hyn yn cychwyn cynlluniau i ddatganoli trwyddedu ar gyfer cychod a llongau yng Nghymru i Weinidogion Cymru o 1 Hydref 2012 ymlaen, ac i Weinidogion Cymru reoli cwotâu cychod a llongau yng Nghymru o fis Ionawr 2013 ymlaen.