Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig
Heddiw, gallaf gyhoeddi bod y cyllidebau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yn cael eu datganoli i Lywodraeth y Cynulliad.
Cafodd y pwerau dros iechyd a lles anifeiliaid eu datganoli i Weinidogion Cymru yn 2005, felly mae datganoli’r cyllidebau yn golygu ein bod bellach yn gallu gwario ar flaenoriaethau sy’n berthnasol i Gymru yn ogystal â gwneud polisïau.
Daeth y cyhoeddiad hwn ar ôl trafod hir a maith rhwng llywodraethau gwledydd y Deyrnas Unedig. Mae’n dda gen i hysbysu Gweinidogion nad yw’r setliad terfynol yn seiliedig ar y 5.8% arferol y byddem wedi’i gael trwy broses Barnett. Y mae yn hytrach yn adlewyrchu’n well ein hanghenion a’r gwaith sydd angen ei wneud, gan olygu setliad tecach i Gymru.
Dros 4 blynedd yr Adolygiad o Wariant y setliad, bydd Cymru’n cael tua 14% o’r gyllideb Brydeinig a fu cyn hynny’n cael ei chadw gan DEFRA ar ran Lloegr, yr Alban a Chymru. Ar gyfer 2011/12, bydd yr Alban a Chymru’n cael £21 miliwn yr un a Lloegr yn cael £105m i’w wario ar iechyd a lles anifeiliaid. Dros 4 blynedd yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, bydd Cymru’n cael £77.71m o’r gyllideb, yr Alban 76.98m a bydd Lloegr yn cael £387.93m.
Er ei bod yn bwysig bod gennym y pwerau a’r gyllideb i daclo ein blaenoriaethau ym maes iechyd anifeiliaid yng Nghymru, byddwn wrth reswm yn parhau i gydweithio â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Er mwyn gallu mynd i’r afael yn effeithiol ag achosion o glefydau egsotig unrhyw le ym Mhrydain, rhaid i Lywodraethau a’r sector cyhoeddus, asiantaethau a’r diwydiant allu cyd-drefnu a chydweithio. Bydd Iechyd Anifeiliaid a’r Asiantaeth Labordai Milfeddygol yn dal i ddarparu gwasanaethau i Gymru yn ogystal â’r Deyrnas Unedig yn gyfan.
Fel y cyhoeddais yn ddiweddar, rydym yn dal am fynd ati mewn ffordd gynhwysfawr i wireddu ein hamcan i ddileu TB gwartheg yng Nghymru. Bydd datganoli’r cyllidebau hyn yn cefnogi’r gwaith hwn ac yn ychwanegu at ei werth, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd i drafod a gweithio gyda’r diwydiant i ddatblygu polisïau penodol i Gymru.