Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gosodwyd y Datganiadau Ysgrifenedig canlynol gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 30C - Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 na chânt eu gosod gerbron y Cynulliad:

Rheolaethau Cyfraith Bwyd Cyffredinol (Diwygiadau ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019

Rheoliadau Cyfraith Bwyd Cyffredinol (Diwygiad) (Ymadael â'r UE) 2019

Rheoliadau Hylendid Bwyd Penodol (Diwygiadau ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Diwygiad) (Ymadael â'r UE) 2019

Rheoliadau Bwydydd wedi'u Rhewi'n Gyflym (Diwygiad) (Ymadael â'r UE) 2019