Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit
Cyn gwyliau'r haf, rhoddais wybod i'r Aelodau fod yr adolygiad cyflym o gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Sector Cyfreithiol yng Nghymru wedi cael ei gwblhau. Hefyd, dywedais y byddwn yn sicrhau y byddai'r adroddiad ar gael i’r Aelodau unwaith yr oedd yn barod i gael ei gyhoeddi, ac rwy'n falch o allu gwneud hynny heddiw.
Yn yr wybodaeth ddiweddaraf, amlinellais nifer o gamau allweddol yr oeddem yn eu cymryd i ddarparu cymorth i'r sector cyfreithiol, drwy gaffael cyngor cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru ac annog mewnfuddsoddi. Hefyd, dywedais y byddwn yn ystyried ymhellach sut y gallem helpu cwmnïau cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol mewn cymunedau lleol ledled Cymru, a sut y gallem adeiladu ar arferion da newydd drwy gynnig prentisiaethau ym maes y gyfraith. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi gwybod ichi ynghylch y cynnydd a wnaed yn y meysydd hyn.
Yn fy natganiad blaenorol, nodais gasgliadau'r adroddiad, sef nad yw pŵer prynu cyffredinol Llywodraeth Cymru (ac yn wir sector cyhoeddus Cymru yn ehangach) yn ddigon ar ben ei hun i wneud gwahaniaeth ystyrlon i lwyddiant cyffredinol cwmnïau cyfreithiol drwy broses gaffael y sector cyhoeddus. Fodd bynnag, rwy'n falch o allu nodi bod sector cyhoeddus Cymru wedi gwario canran uchel iawn o'i wariant ar wasanaethau gan gyfreithwyr o gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd yr adroddiad yn dangos bod y sector cyfreithiol yn awyddus i weld y broses gaffael ar gyfer gwasanaethau cyfreithwyr yn cael ei symleiddio. Mae'r gwaith o ddatblygu'r fframwaith gwasanaethau cyfreithiol sector cyhoeddus nesaf ar gyfer Cymru gyfan wedi ei atal am y tro er mwyn inni allu ystyried unrhyw argymhellion y gallai'r Comisiwn ar Gyfiawnder eu gwneud mewn perthynas â chaffael. Mi fydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn parhau i ymgysylltu â'r farchnad ac yn eu hysbysu am ddatblygiadau, gan gynnwys yn y Digwyddiadau Cyflenwyr sy'n digwydd yr wythnos hon.
O ran panel Cwnsleriaid Llywodraeth Cymru, rwyf wedi gofyn i swyddogion yn yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol i adolygu'r trefniadau ar gyfer pennu aelodaeth y panel hwnnw. Gallaf ddweud fy mod ar hyn o bryd mewn trafodaethau â Cylchdaith Cymru a Chaer ynglŷn â datblygu set o fentrau sydd â'r nod o feithrin cyfraith gyhoeddus a gweinyddol yn y Bar yng Nghymru yn enwedig, a hefyd cael gwared ar rai o'r rhwystrau real neu dybiedig a allai atal bargyfreithwyr yng Nghymru rhag sicrhau gwaith gan Lywodraeth Cymru.
Mae datblygu sector cyfreithiol bywiog yn allweddol ar gyfer annog mwy o bobl dalentog o Gymru i aros yng Nghymru. Gallai annog lleoli canolfannau gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru, fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad, helpu i gyflawni hynny. Mae swyddogion yn Adran yr Economi eisoes yn cydweithio â swyddogion yn ein swyddfa yn Llundain a rhwydweithiau cyfreithiol ehangach i nodi cyfleoedd allweddol, a byddwn yn sicrhau bod cymorth arbenigol ar gael i hwyluso'r broses ymhellach.
Mae cwmnïau cyfreithiol ledled Cymru yn cynnig gwasanaeth hanfodol i'n cymunedau lleol, drwy ddarparu cyngor ar ystod eang o feysydd. Mae'r toriadau y mae Llywodraeth y DU wedi eu gwneud i'r ystâd llysoedd a chymorth cyfreithiol; y gwelliannau mewn technoleg; a'r newidiadau i'r mathau o gyngor a geisir, wedi creu amgylchedd heriol igwmnïau cyfreithiol mewn llawer man yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn argymell gwneud rhagor o waith i nodi'r problemau y mae cwmnïau, yn enwedig y rheini mewn ardaloedd gwledig, yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac mae swyddogion yn cynyddu’r gwaith gyda chwmnïau er mwyn gwella eu dealltwriaeth o'r problemau hynny, a chynnig y cymorth priodol.
Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion ynglŷn â sut y gallem ddatblygu'r ddarpariaeth o brentisiaethau cyfreithiol ymhellach. Yn ein rhaglen brentisiaethau flaenllaw, a fydd yn debygol o greu 100,000 o gyfleoedd cyflogaeth drwy brentisiaethau erbyn diwedd y Cynulliad presennol, mae nifer o drywyddau ar gael yn y sector cyfreithiol, gan gynnwys Gwasanaethau a Chyngor Cyfreithiol ar lefelau 2 a 3, yn ogystal ag opsiynau ar gyfer prentisiaethau uwch ym meysydd profiant a thrawsgludo.
Mae'n dda gennyf ddweud ein bod eisoes yn mynd ati i weithredu nifer o'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad drwy ymgysylltu'n barhaus gyda'r sector. Rydym wedi ymrwymo i weithio'n rhagweithiol gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol i gynllunio a pharatoi ar gyfer darparu cymorth gyda’r sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol o fewn prentisiaethau er mwyn ymateb i'r galw o fewn y sector . Byddwn yn gweithio gyda'r sector i helpu i ddatblygu'r gweithlu, drwy sicrhau cyflenwad o ymgeiswyr, cefnogi'r hyfforddiant a'r cymwysterau y mae eu hangen, a datblygu llwybr cyfoes a chadarn i unigolion sy'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y sector cyfreithiol.
Comisiynwyd yr adolygiad cyflym yn rhannol er mwyn helpu i lywio gwaith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Bydd angen inni ystyried yr adroddiad hwn yng nghyd-destun yr argymhellion ehangach a wnaed gan y Comisiwn. Bydd y ddau'n gwneud cyfraniad amhrisiadwy a fydd yn ein helpu i ddatblygu sector cyfreithiol cryf a chynaliadwy.