Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Roedd yn destun pryder mawr imi gael gwybod ddydd Iau 14 Chwefror 2019 fod Working Links (Employment) Limited a'i dri Chwmni Adsefydlu Cymunedol, gan gynnwys Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, yn nwylo gweinyddwyr.
Rydym wedi bod yn galw am ailuno'r gwasanaethau prawf ers cryn amser, ac rwy'n awyddus i hynny ddigwydd cyn gynted ag y bo modd.
Rwy'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf a nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig gan David Gauke, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, ar 18 Chwefror 2019. Cefais sicrwydd ddoe gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS) y bwriedir trosglwyddo gwasanaethau rheoli troseddwyr yng Nghymru i HMPPS erbyn diwedd 2019. Mae hyn yn golygu y bydd y broses o ailuno'r gwasanaethau yng Nghymru'n cael ei chyflymu, ac rwy'n cefnogi hynny.
Yn y cyfamser, rwy wedi cael sicrwydd na fydd y trefniadau y mae HMPPS wedi eu rhoi ar waith yn effeithio ar y rheini a oedd yn cael eu cefnogi gan Working Links a Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yn flaenorol, ac y bydd safonau eu gwasanaethau’n cael eu cynnal.
Byddaf yn parhau i gyfathrebu â Gweinidogion Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod yr addewidion a roddwyd heddiw yn cael eu cyflawni. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru a HMPPS yn parhau i weithio ar wella effeithiolrwydd y system brawf ehangach yng Nghymru.