Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Erbyn yr adeg yma’r llynedd, roeddem eisoes yn cael gaeaf anodd. Fe ddatblygodd i fod yn aeaf arbennig o hir, a fyddai’n herio gwasanaethau mewn sawl ffordd. Erbyn 23 Ebrill, pan wneuthum fy natganiad i’r Cynulliad, roedd yn amlwg fod angen mynd ati fel un i gynllunio a gwella’r  gwasanaethau ar gyfer gofal heb ei drefnu. Cyhoeddais amrywiaeth eang o gamau gweithredu, gyda’r bwriad o’u cyflwyno drwy Raglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Heb ei Drefnu.

Roedd gwaith y Rhaglen hon yn cynnwys penodi Arweinydd Clinigol Cenedlaethol a Phrif Weithredwr arweiniol i sicrhau bod y gwasanaeth yn mabwysiadu’r rhaglen wella yn llwyr. Roedd y Rhaglen yn canolbwyntio ar lif cleifion, problemau capasiti, cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a gwella’r prosesau monitro ac ymyrryd.

Mae’r rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol. Mae lefelau perfformiad wedi gwella – llai o bobl yn gorfod aros 12 awr, llai o oedi o ran trosglwyddo o ambiwlansys, gwelliant mewn amseroedd ymateb categori A ac mewn perfformiad 4 awr mewn unedau Damwain ac Argyfwng. Rydym wedi cynllunio’n drwyadl ar gyfer y gaeaf hwn, fel yr oedd angen ei wneud. Mae’n anorfod y bydd dyddiau anodd o’n blaenau yn ystod gweddill y gaeaf, ond rydym bellach mewn gwell sefyllfa i ymateb iddynt a pharhau i wella yn y dyfodol.

Mae heriau yn wynebu ein system gofal wedi’i gynllunio hefyd, a’r pwysau ar ein system gofal heb ei drefnu sy’n rhannol gyfrifol am hyn. Ond mae rhai o’r heriau eraill yn deillio o arferion gweithio a threfniadau darparu. Er bod cryfder mewn sawl maes, mae angen moderneiddio rhai meysydd eraill. Mae angen newidiadau sylweddol, a hynny ar frys.  

Rwyf felly wedi penderfynu ailadrodd y model a gyflwynwyd y llynedd ar gyfer gofal heb ei drefnu, a hynny drwy Raglen Genedlaethol ar gyfer Gofal wedi’i Gynllunio. Bydd y Rhaglen yn cael ei harwain gan Brif Weithredwr, a bydd Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal wedi’i Gynllunio yn defnyddio arbenigedd pobl mewn meysydd eraill yn ôl y galw.  Byddant yn cydweithio’n agos â’r Colegau Brenhinol perthnasol fel bod perfformiad gofal wedi’i gynllunio yn gwella, a’r gwelliant hwnnw’n cael ei gynnal. Sefydlir Bwrdd Trosolwg Cenedlaethol, gyda chadeirydd allanol, a fydd yn cynnwys amryw o gynrychiolwyr allanol, ynghyd â chadeirydd allanol. Rwy’n awyddus i sicrhau bod ein cynlluniau yn cael eu profi’n llwyr yn erbyn meincnodau cenedlaethol a rhyngwladol.

Bydd y Rhaglen yn cynnwys amryw o ffrydiau gwaith, sef: rheoli capasiti a galw yn well; sicrhau trothwyon priodol ar gyfer triniaeth; gwneud y gorau o gyfraniadau’r gweithlu; a sicrhau trefniadau darparu cynaliadwy. Mae effaith y cyfnod hwn o gyni ariannol yn un gwirioneddol – felly hefyd effeithiau demograffeg a datblygiadau newydd ym maes meddygaeth. Bydd y Rhaglen hon yn canolbwyntio ar barhau i ddarparu gwasanaethau dibynadwy o ansawdd uchel ar gyfer gofal wedi’i drefnu, o fewn y cyd-destun hwn.

Fe ddechreuon ni gynllunio ym mis Mawrth eleni ar gyfer gaeaf 2013-14, felly rwy’n awyddus i’r gwaith cynllunio ar gyfer y cyfnod wedi’r gaeaf ddechrau nawr. Drwy wneud hynny, bydd modd inni wneud newidiadau angenrheidiol a chyflwyno arferion newydd cytunedig yn ystod hanner cyntaf 2014.