John Griffiths, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon
A minnau bellach yn gyfrifol am bolisi ar y newid yn yr hinsawdd, rwy’n benderfynol o sicrhau ein bod yn mynd ati i gyflawni ein hamcanion yn gyflymach. Yn ddi-os, y newid yn yr hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf a wynebwn. Gwelwyd momentwm cynyddol yn rhyngwladol yn hyn o beth, ac mae’r gwledydd mawr yn cymryd camau arwyddocaol i flaenoriaethu camau gweithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn gweithredu’n gyson i fynd i’r afael â’r ffactorau sy’n achosi newid hinsawdd, ac â chanlyniadau’r newid hwnnw, ac rydym yn cydnabod bod y camau hynny’n hanfodol er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau.
Wrth weithio i drechu tlodi a chefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, rwyf am sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag effeithiau anghymesur y newid yn yr hinsawdd. Rhaid inni hefyd sicrhau bod gwrthsefyll effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn rhan annatod o’n holl waith, a dal ati i ddelio â’r risgiau uniongyrchol a achosir gan dywydd eithafol, drwy wella gallu ein cymunedau i wrthsefyll digwyddiadau o’r fath. Wrth weithio i greu swyddi a chryfhau ein heconomi, mae’r newid yn yr hinsawdd yn gyfle heb ei ail i fanteisio ar gryfderau ac asedau naturiol Cymru, a bydd ein gwaith ym maes Twf Gwyrdd yn allweddol yn hynny o beth. Rwy’n benderfynol hefyd y dylai’r sector cyhoeddus barhau i roi arweiniad cadarn wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Cefnogir hynny gan newidiadau deddfwriaethol pwysig yn sgil Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Bil yr Amgylchedd.
Byddaf nawr yn mynd ati i adolygu’r cynnydd sydd wedi deillio o’r digwyddiadau a gynhaliwyd gennym ac o sylwadau a gafwyd yn ddiweddar oddi wrth Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ac eraill. Bydd hyn oll yn sail ar gyfer y trafodaethau â’m cyd-weinidogion i nodi’r camau y gallwn eu cymryd i gynyddu’r momentwm ymhellach. Ar ôl o broses adolygu hon byddaf yn gwneud datganiad llafar yn yr hydref ynghylch diweddaru’r polisi.