Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas - y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Byddaf yn cyhoeddi heddiw yn fy araith yng Nghynhadledd Genedlaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llandudno bod Adroddiad y Grŵp Technegol ar Gymhwystra wedi'i gyhoeddi. Roedd Aelodau'r Cynulliad wedi rhoi sylw penodol i gymhwystra wrth i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fynd ar ei hynt drwy'r Senedd, ac mae'r Adroddiad hwn yn amlinellu'r model ar gyfer cymhwystra yr wyf o blaid anelu ato drwy reoliadau, ac a fydd yn dilyn gweithdrefn uwchgadarnhaol.

Cafodd y Grŵp Technegol ar Gymhwystra ei sefydlu i roi cyngor imi am y Rheoliadau a'r Cod Ymarfer ar bennu cymhwystra ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth o dan Ran Pedwar o'r Ddeddf. Mae gwaith y Grŵp Technegol wedi'i gwblhau, ac wedi'i brofi gan ein brif bartneriaid drwy ddigwyddiadau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGC), Panel y Dinasyddion, a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Cafodd y broses ddatblygu hon ei hwyluso'n annibynnol gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus, ac mae'r Adroddiad yn amlygu'r materion a oedd wedi codi yn ystod y broses honno.      

Mae'r Adroddiad yn cynnig tri opsiwn ar gyfer model cymhwystra. Argymhelliad y Grŵp Technegol oedd dilyn Opsiwn 3, sy'n golygu newid cymhwystra yn sylfaenol.  Rwy wedi derbyn yr Adroddiad a'r argymhelliad i ddilyn y model cymhwystra sydd wedi'i amlinellu yn Opsiwn 3.   Fel canlyniad, bydd cael mwy o amser i feithrin cysylltiad â rhanddeiliaid mewn modd mwy pwyllog o werth mawr.  Mae'r opsiwn hwn yn cael ei ffafrio am y rhesymau canlynol:

  • Mae'r ffordd hon o bennu cymhwystra'n cydnabod y gwahaniaeth rhwng dyletswyddau cyffredinol awdurdodau lleol i gyflawni canlyniadau llesiant y bobl yn eu hardaloedd (yn ôl yr hyn a amlinellir yn Rhan 2 y Ddeddf) a sefydlu hawl gorfodadwy ar gyfer yr unigolyn (yn ôl yr hyn sy'n ofynnol yn Rhannau 3 a 4 o'r Ddeddf).  
  • Mae'n annog awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau i ddarparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ogystal â darparu gwasanaethau ataliol.  
  • Mae'r opsiwn yn cefnogi hawliau pobl i drafod eu lles mewn modd parchus ac i gael llais cryf mewn penderfyniadau am eu gofal, a'u bod yn cadw rheolaeth dros eu gofal.  
  • Bydd yn sicrhau bod pobl yn gwneud penderfyniadau eu hunain am eu gofal, a'u bod bob amser yn gallu cynnal eu lles drwy ddefnyddio dull sydd wedi'i seilio ar gryfderau. 
  • Mae'r model hefyd yn rhoi sylw i natur byrhoedlog cymhwystra.  Er bod statws yr angen o ran bod yn angen 'cymwys' yn gallu newid, mae'r gallu i gael y cymorth iawn i sicrhau canlyniadau llesiant yn cael ei gynnal. 
Fel rhan o'r model hwn, mae'r angen am help i gael cymorth yn creu'r cymhwystra, ac mae hynny'n ei wneud yn ofyniad gofynnol/cyfreithiol i'r awdurdod lleol ymateb.

Mae llwyddiant y model yn dibynnu ar sicrhau bod holl elfennau'r system cymorth yn gweithio'n effeithiol.  Fel y dywedais yn gynharach, yn anad dim rhaid inni gael trefniadau asesu sy'n canolbwyntio ar anghenion a chanlyniadau llesiant pobl. Rhaid i'r awdurdodau lleol sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chymorth yn cael eu darparu mewn modd hygyrch, a bod proses asesu addas ar waith i gefnogi'r drafodaeth hon ar gymhwystra.  Mae'r meysydd hyn yn cael eu hystyried hefyd mewn grwpiau technegol, a hynny yng nghyd-destun y model ar gyfer cymhwystra sy'n cael ei argymell yn yr Adroddiad.

Ar y cyd, mae'r set ehangach o reoliadau a'r cod ymarfer ar asesu, cymhwystra a threfnu gofal yn llunio'r darlun cyfan er mwyn gweithredu'r Ddeddf. Rwy'n bwriadu cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y set hon o reoliadau a'r cod ymarfer yn yr hydref.

Mae'r Adroddiad wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan i bobl gynnig sylwadau dros yr haf. Rwy o'r farn bod yr Adroddiad yn cynnig fframwaith ar gyfer cymhwystra y gallwn ei drosglwyddo i randdeiliaid, a'n bwriad yw mireinio'r model hwn drwy broses o feithrin perthynas tra bo'r rheoliadau'n cael eu drafftio.  

Heddiw, rwyf i a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod y fframwaith canlyniadau cenedlaethol wedi'i gyhoeddi. Bydd hwnnw'n cefnogi'r model cymhwystra ar gyfer gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.