Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Cyflwynwyd y Mesur Addysg i Dŷ’r Cyffredin ddydd Mercher 26 Ionawr.          

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cymryd y cyfle drwy’r Mesur hwn i geisio pwerau gwneud Mesurau mewn perthynas â rheoleiddio a hyfforddi athrawon a’r gweithlu addysg ehangach yng Nghymru a Chyllid Ysgolion Cyn-16.

Mae’r pwerau gwneud Mesurau ynghylch rheoleiddio a hyfforddi athrawon a’r gweithlu addysg ehangach yn caniatáu gwneud darpariaeth mewn perthynas â materion fel safonau proffesiynol, cynefino, rheoli perfformiad, datblygiad proffesiynol parhaus, a chymwysterau a safonau, yn ogystal â chofrestru a disgyblu. Byddai darpariaeth o’r fath yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu cynigion deddfwriaethol i fynd i’r afael â’r materion a amlinellir yn yr adolygiad safonau proffesiynol, rheoli perfformiad a datblygu proffesiynol, ac yn caniatáu hyblygrwydd llawn o ran rhoi’r cynigion hyn ar waith.

Yn unol â gweddill Maes 5 yn Atodlen 5, byddai’r pŵer gwneud Mesurau ar gyfer addysg neu hyfforddiant cyn-16 yn galluogi’r Cynulliad i gymeradwyo Mesur y Cynulliad a fyddai’n creu modelau eraill o gyllid llywodraeth ar gyfer addysg yn y dyfodol. Mae’n cwmpasu ariannu unrhyw un neu bob un o swyddogaethau addysg cyn-16 awdurdodau lleol, Gweinidogion Cymru neu gyrff llywodraethu. 

Cyn belled ag y caiff ei gymeradwyo gan y Senedd, bydd y Mesur yn trosglwyddo pwerau gwneud Mesurau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i ymgynghori, ac os yw’n briodol, datblygu cynigion ar gyfer deddfwriaeth yn y ddau faes hwn. Mae Memorandwm Esboniadol yn amlinellu cefndir a chyd-destun y pwerau gwneud Mesurau rydym yn eu ceisio wedi cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  

Mae’r Mesur a’r nodiadau esboniadol cysylltiedig i’w gweld yn:

http://services.parliament.uk/bills/2010-11/education.html