Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Hoffwn roi gwybod y newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y camau a gymerwyd yn dilyn y drafodaeth fer ar Hofrenyddion yr Heddlu ar 7 Gorffennaf 2015.
Fe gofiwch i'r Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol (NPAS) gadarnhau bod angen arbed arian yn sylweddol dros y tair blynedd nesaf, a ddydd Gwener 20 Chwefror 2015, cadarnhaodd NPAS ei gynlluniau i symud at ddefnyddio model 15 canolfan ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Fel canlyniad i hynny bydd angen cau dwy ganolfan yng Nghymru.
Yn ystod y drafodaeth, dywedais y byddwn yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref ac at y Prif Uwch-arolygydd Ian Whitehouse, Rheolwr Atebol NPAS, i roi gwybod iddynt am bryderon yr Aelodau ynglŷn â chau'r canolfannau yn Rhuddlan a Phen-bre.
Yn fy llythyr gofynnais a fyddai'r gwasanaeth llai newydd yn gallu cynnig y cymorth angenrheidiol yng Nghymru, yn enwedig ym mannau mwy gwledig Dyfed-Powys. Amlinellais hefyd y pryderon a godwyd ynglŷn â'r ffaith fod y tir yng nghefn gwlad Cymru yn anaddas ar gyfer yr awyren ag adenydd sefydlog a gynigir.
Cafodd fy llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref ei ateb gan y Gwir Anrh Mike Penning AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Blismona, ar 14 Medi. Yn ei ymateb, dywedodd Mr Penning fod cyfrifoldeb am gymorth awyr yr heddlu yn gorwedd gyda NPAS yn unol â pholisi ehangach Llywodraeth y DU ar blismona. Dywedodd hefyd fod NPAS o’r farn y bydd y model gweithredu yn gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y gwasanaeth yn genedlaethol.
Roedd y Prif Uwch-arolygydd Whitehouse wedi ymateb i'm llythyr ar 27 Gorffennaf. Mae'r Prif Uwch-arolygydd yn deall ein gofid ynglŷn â'r ffaith nad yw'r cytundeb newydd yn cynnwys canolfan ym Mhen-bre. Ond, amlinellodd yr hyn y bydd yn ei farn ef yn fanteision sylweddol yn sgil uno Dyfed-Powys â NPAS. Cadarnhaodd y bydd cymorth y gwasanaeth awyr yn newid o fod yn un sydd ar gael ar gyfer 12 awr y dydd, i 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Yn ychwanegol, drwy leoli hofrennydd EC145 ym Mhenarlâg, bydd NPAS yn gallu cynnig cymorth yn y rhanbarth gan yr hofrennydd mwyaf pwerus yn ei lynges, a fydd yn perfformio'n well a chanddo'r gallu hefyd, os bydd angen, i gael ei ad-drefnu i gario teithwyr ychwanegol.
Rwy'n gwybod bod y mater hwn yn cael ei fonitro'n agos gan y Prif Gwnstable Simon Prince yn Heddlu Dyfed-Powys. Ar 10 Gorffennaf 2015, cyfarfu ag Aelodau Seneddol, Aelodau'r Cynulliad a Chynghorwyr Siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Phowys i gyflwyno briffio gweithredol ar y ffeithiau am ofynion Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer cymorth gwasanaeth awyr. Bu'r cyfarfod hefyd yn cynnig cyfle i sicrhau fod rhanddeiliaid allweddol yn ymwybodol o'r cynnig hwn gan NPAS i ddarparu cymorth gwasanaeth awyr ar hyd a lled Dyfed-Powys yn y dyfodol. Mae'r Prif Gwnstabl Prince yn ymwybodol o'r angen i gydbwyso'r gofynion gweithredol yn erbyn cost y gwasanaeth, gan gydnabod bod criw'r hofrennydd yn cynnig gwasanaeth hanfodol i gymunedau ar hyn o bryd.
O dan y model gweithredu newydd, rwy'n deall y bydd gan Heddlu Dyfed-Powys y gallu i symud swyddogion ac offer arbenigol i le bynnag y byddant eu hangen o hyd. Bydd ganddynt fynediad at fwy o hofrenyddiol nad sydd ganddynt ar hyn o bryd o'r canolfannau canlynol: Penarlâg yng Ngogledd Cymru; Maes Awyr Birmingham yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr; Sain Tathan yn Ne Cymru; a Filton yn Avon a Gwlad yr Haf. Maen nhw’n dweud y bydd hyn yn cynnig llawer mwy o gymorth nag y byddai'r sefyllfa yn y gorffennol, er enghraifft, pe byddai un o hofrenyddion yr heddlu, yn cael ei drwsio neu ddim ar gael am reswm arall.
Yn olaf, rhoddwyd gwybod imi fod NPAS wedi ymrwymo i ddiwallu'r anghenion a nodwyd ym mhob un o ardaloedd yr heddluoedd yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae Bwrdd Strategol NPAS yn hyderus y bydd y model gweithredu newydd yn cynnig gwasanaeth digonol ac un sy'n cynnig mwy o gymorth i bob heddlu.
Hoffwn atgoffa'r Aelodau nad mater datganoledig yw hwn, ac felly nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth uniongyrchol drosto. Fodd bynnag, rwy'n rhannu'r un pryderon a godwyd ynglŷn â'r effaith bosibl ar y gwasanaeth a gynigir, a byddaf yn parhau i fonitro'r sefyllfa. Byddaf yn rhoi diweddariad i’r Aelodau pan ddaw rhagor o wybodaeth i law ac rwy’n ymwybodol hefyd o bryderon pellach sydd wedi cael eu dwyn i’m sylw yn ddiweddar.