Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Rhagfyr 2011 penodais banel adolygu allanol i ystyried strwythur y farchnad cymwysterau cyffredinol yng Nghymru. Roedd hyn yn dilyn, yn rhannol, honiadau a wnaed yn The Daily Telegraph ynglŷn â seminarau sefydliadau dyfarnu. Cafodd yr adolygiad ei gynnal rhwng mis Chwefror a mis Mai 2012, a heddiw cyhoeddaf argymhellion y panel adolygu.
Cylch gorchwyl y panel oedd cyflawni’r canlynol:
- asesiad o effaith strwythur presennol y farchnad o sefydliadau dyfarnu ar safonau TGAU a Lefel A;
- asesiad o effeithiolrwydd strwythur presennol y farchnad;
- nodi opsiynau ar gyfer newid ac argymhellion.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at gymhlethdod y maes hwn a safbwyntiau cyferbyniol y rhanddeiliaid mewn perthynas â materion allweddol.
Ar ôl ystyried yn ofalus ni ddaeth y panel adolygu o hyd i unrhyw dystiolaeth glir i ddangos bod strwythur presennol y farchnad wedi cael effaith niweidiol ar safonau, a phwysleisiodd er bod rhanddeiliaid wedi mynegi amrywiaeth o safbwyntiau, nid oedd unrhyw gonsensws clir ar effeithiolrwydd y system bresennol. Nid yw’r panel yn ystyried bod diffygion argyfyngus ar y system bresennol.
Gan ystyried y ddibyniaeth fawr ar CBAC fel darparwr cyfran sylweddol o gymwysterau cyffredinol yng Nghymru, canolbwyntiodd y panel Adolygu yn fawr ar ei weithgarwch. O ran safonau, mae aelodau’r panel yn dawel eu meddwl bod safonau’r cymwysterau a ddyfernir gan CBAC yn unol â’r rhai a ddyfernir gan sefydliadau dyfarnu eraill. Fodd bynnag, cwestiynodd y panel a ddylai ei drefniadau llywodraethu adlewyrchu cyfansoddiad ei randdeiliaid yn well wrth gefnogi ei rôl fel prif ddarparwr cymwysterau modern yng Nghymru.
Er mwyn gwella’r system yn y dyfodol, mae’r Adroddiad yn gwneud pedwar argymhelliad:
- Ar hyn o bryd, nid oes digon o dystiolaeth i symud oddi wrth farchnad o sefydliadau dyfarnu niferus, gan ystyried y byddai’r system yn cael ei hansefydlogi yn sgil hyn o bosibl. Fodd bynnag, mae’r panel yn argymell os daw unrhyw gymwysterau sy’n unigryw i Gymru o’r Adolygiad o Gymwysterau, efallai y byddai strwythur sefydliad dyfarnu unigol yn gwasanaethau’r rhain yn dda.
- Yn y tymor hwy, yn seiliedig ar archwiliad o’r materion cyfreithiol a thechnegol yn y maes hwn, y gallai system gymwysterau yr Alban (yn seiliedig ar waith Awdurdod Cymwysterau yr Alban [SQA]) gael ei hystyried fel model posibl i Gymru.
- Bod CBAC, fel y prif ddarparwr cymwysterau cyffredinol yng Nghymru, yn adolygu ei genhadaeth, ei strwythur a’i drefniadau llywodraethu, gan ystyried rhoi ffocws clir ac ar wahân ar ei swyddogaeth ddyfarnu graidd a chynnwys grŵp rhanddeiliaid ehangach yn unol â model menter gymdeithasol.
- Bod cyrff dyfarnu yn adolygu eu polisïau gwrthdrawiad buddiannau ac yn datblygu canllawiau mewn perthynas â diweddaru a datblygiad proffesiynol athrawon ac arholwyr.
Rwy’n ymwybodol bod Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin sy’n archwilio’r ffordd y caiff arholiadau pobl ifanc 15-19 mlwydd oed eu gweinyddu yn Lloegr wedi adrodd ar ei ganfyddiadau yn ddiweddar. Nid yw’n argymell newid i strwythur sefydliad dyfarnu unigol ar gyfer cymwysterau yn Lloegr ond mae wedi gwneud argymhellion eraill yn y maes hwn. Nid yw Llywodraeth San Steffan wedi ymateb yn ffurfiol i’r Adroddiad hyd yma.
Nid yw argymhellion y panel ar gyfer Cymru yn fy arwain i gredu bod angen newidiadau uniongyrchol i strwythur y farchnad ar gyfer cymwysterau cyffredinol yng Nghymru. Bydd adroddiad ac argymhellion yr adolygiad hwn yn bwydo i’r Adolygiad o Gymwysterau a gaiff ei gadeirio gan Huw Evans OBE. Bydd yr Adolygiad hwnnw yn mynd gerbron y Gweinidogion ym mis Tachwedd eleni a byddwn yn ymateb yn ffurfiol i’r ddau adroddiad ar yr un pryd ym mis Ionawr 2013. Fodd bynnag, mae datganiadau diweddar gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Addysg wedi awgrymu y gwneir, o bosibl, newidiadau sylweddol i’r strwythur dyfarnu cymwysterau yn Lloegr maes o law, a byddai oblygiadau mawr i hyn ar weithrediad CBAC yn Lloegr. Bydd angen i fwrdd CBAC roi ystyriaeth i’r materion hyn ar frys. Byddaf yn cwrdd â Phrif Weithredwr CBAC i drafod mewn rhagor o fanylder y canfyddiadau a’r argymhellion sy’n ymwneud â CBAC. Byddaf hefyd yn eu trafod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.