Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 4 Mawrth, lansiais ymgynghoriad 8 wythnos dan yr enw Gadael ceffylau a merlod a phori anghyfreithlon: Darparu ateb hirdymor. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn a yw'r fframwaith deddfwriaethol presennol yn galluogi awdurdodau gorfodi i fynd i'r afael â materion gadael ceffylau a phori anghyfreithlon yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i'r sefydliadau ac unigolion a ymatebodd i'r ymgynghoriad hwn. Mae'r ymatebion bellach wedi'u dadansoddi, fel rhan o'r broses o benderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau arddull gadarn a chyson wrth ddelio â'r broblem ar draws Cymru. O'r 600 ymateb a ddaeth i law, cyflwynwyd 77 drwy ffurflen ymateb swyddogol a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, credir bod 500 ymateb cyffredinol wedi'u cyflwyno yn sgil ymgyrch cyfryngau cymdeithasol, gyda'r gweddill wedi'u cyflwyno fel llythyron neu ar e-bost yn rhoi gwybodaeth ychwanegol. Daeth mwyafrif yr ymatebion gan y cyhoedd yn gyffredinol. Cafwyd ymatebion hefyd gan 13 awdurdod lleol, 10 elusen yn ymwneud â cheffylau, 3 gwasanaeth brys, y ddwy undeb ffermwyr a'r Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad.  

Mae effaith syfrdanol gadael ceffylau a merlod a phori anghyfreithlon ar gymunedau ar draws rhannau o Gymru wedi creu argraff fawr arnaf. Roedd nifer o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn darparu tystiolaeth bersonol am effaith yr ymddygiad bygythiol sy'n aml yn gysylltiedig â'r broblem, y niwed i'w heiddo a'r peryglon y gall ceffylau sydd wedi'u gadael achosi i bobl o ddydd i ddydd, a  hefyd iechyd a lles yr anifeiliaid eu hunain.

Cododd sawl thema reolaidd o'r ymgynghoriad, sef hyd yr amser i gynnal erlyniad, anawsterau adnabod perchnogion y ceffylau, y gost ariannol i'r awdurdodau, prinder cyfleusterau cwbl ddiogel i ddal ceffylau sy'n cael eu meddiannu, diffyg arbenigedd wrth ddelio â cheffylau mawr lled-fferal, peryglon i'r cyhoedd yn ogystal â swyddogion gorfodi, ac effaith seicolegol ar berchnogion / deiliaid tir, y cyhoedd yn gyffredinol a'r rhai sy'n gorfodi'r ddeddfwriaeth ac yn gwneud eu gorau i fynd i'r afael â'r sefyllfa.  


Gofynnwyd am farn yr ymatebwyr ynghylch y Deddfau lleol presennol sy'n rhoi pwerau i awdurdodau lleol mewn rhai mannau o Gymru i ddelio â’r broblem. Mae nifer o'r rhai sy'n gorfod delio â'r broblem yn cydnabod bod cyfanswm uchel nifer yr anifeiliaid dan sylw yn llethu elusennau lles, a bod difa heb boen yn anochel ac mewn sawl enghraifft yn well na gadael i'r ceffylau ddioddef.

Rwyf bellach yn gweld yn glir nad yw'r ddeddfwriaeth bresennol sydd ar gael i awdurdodau gorfodi, a luniwyd flynyddoedd lawer yn ôl i ddelio â nifer fach o enghreifftiau o adael ceffylau a phori anghyfreithlon, nawr yn ddigonol i ddelio â'r broblem ar y raddfa yr ydym yn ei weld heddiw.

Mae'n amlwg hefyd bod adnabod a dod o hyd i berchnogion yn rhan hanfodol o'r gwaith. Rwy'n croesawu penderfyniad  y Comisiwn Ewropeaidd  i  adolygu dulliau adnabod ceffylau, gyda'r nod o ddiwygio deddfwriaeth gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i bob Aelod Wladwriaeth gael cronfa ddata ceffylau. Ar y mater hwn, gyda gofid a chryn rwystredigaeth rwy'n ailadrodd fy siom a'm hanghytundeb gyda phenderfyniad Llywodraeth y DU i gau'r Gronfa Ddata Ceffylau Genedlaethol. Penderfyniad a wnaed heb  ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru.    

Mae'r ymgynghoriad wedi fy argyhoeddi fod angen cymryd camau brys i ddelio â'r broblem, ac sydd bron yn sicr o waethygu wrth i ni symud tuag at fisoedd y gaeaf. Roedd dros hanner y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn cefnogi cael dull cyson i roi pwerau i awdurdodau lleol ddelio'n gyflym ac yn barhaol â cheffylau sy'n niwsans yn sgil cael eu gadael a phori anghyfreithlon.

Mae'r ymgynghoriad wedi tynnu sylw at nifer o gynigion perthnasol y mae'r ymatebwyr yn teimlo y dylid eu mabwysiadu er mwyn mynd i'r afael yn effeithiol â'r broblem pori anghyfreithlon. Mae creu deddfwriaeth neu ddiwygio deddfwriaeth yn amlwg yn rhan bwysig o'r ymateb i'r broblem, fodd bynnag mae argymhellion eraill nad oes angen deddfwriaeth i’w gweithredu, ac rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ddatblygu cynllun gweithredu sy'n cynnwys nifer o'r argymhellion hyn. Byddaf yn cyhoeddi  cynllun gweithredu yn gynnar yn yr hydref.

Yn y cyfamser, byddaf yn ystyried yr ateb deddfwriaethol mwyaf priodol i’r broblem gadael ceffylau a merlod a phori anghyfreithlon yng Nghymru a byddaf yn cyhoeddi datganiad pellach yn gynnar yn yr hydref .

Mae crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.