Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 29 Ionawr 2013, derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru. Mae’r adolygiad wedi’i groesawu’n eang gan randdeiliaid fel un trylwyr, agored a democrataidd ac mae swyddogion wrthi’n bwrw ymlaen i weithredu’r 42 o argymhellion o’r adolygiad.  

O ran cyfleoedd asesu mis Ionawr ar gyfer cymwysterau UG a Safon Uwch, roedd y dystiolaeth o’r adolygiad yn amhendant ac argymhelliad yr adolygiad oedd y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod y safbwyntiau amrywiol a fynegwyd gan randdeiliaid ynghylch parhau i’w defnyddio.  

Er mwyn gofalu bod y penderfyniad ar y mater hwn yn sicrhau lles pennaf ein dysgwyr ac yn seiliedig ar dystiolaeth, gofynnais i’m swyddogion gasglu rhagor o safbwyntiau rhanddeiliaid ynghylch cyfleoedd asesu mis Ionawr, a daeth arolwg ar-lein chwe wythnos i ben ar 14 Ionawr.

Rydw i wedi ystyried yr ystod o dystiolaeth oedd ar gael i mi mewn perthynas â’r mater hwn ac wedi dod i’r casgliad y dylai cyfleoedd asesu barhau i fod ar gael ym mis Ionawr 2014 i’r myfyrwyr ddechreuodd eu cyrsiau Safon Uwch ym Medi 2012. Yn fy marn i, byddai’n anghywir rhwystro myfyrwyr oedd yn credu, pan ddechreusant eu cyrsiau, y byddai asesiadau Ionawr ar gael iddynt rhag cael y cyfleoedd asesu hyn. Mae’n fater i sefydliadau dyfarnu ddewis a fyddant yn cynnig y cyfleoedd asesu hyn, ond hyderaf mai lles y dysgwyr fydd y brif flaenoriaeth yn eu penderfyniadau nhw hefyd.

Rydym ar hyn o bryd yn ystyried materion ehangach ynghylch strwythur TAG Safon Uwch yng Nghymru. Cafwyd tystiolaeth glir o blaid y strwythur UG ac A2 ar gyfer y cymwysterau allweddol hyn. Rydw i’n ymwybodol o gefnogaeth gan randdeiliaid i’r strwythur hwn hefyd, yn cynnwys prifysgolion, sy’n ystyried bod y cymhwyster UG yn ddangosydd pwysig o addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer Addysg Uwch.

Heb os, byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn rhoi lles gorau ein dysgwyr o flaen unrhyw ideoleg wleidyddol. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ynghylch argaeledd cyfleoedd asesu Ionawr ar gyfer grwpiau eraill o fyfyrwyr yn ogystal ag ar strwythur ehangach cymwysterau UG a Safon Uwch yng Nghymru yn ystod tymor yr haf.