Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Gorffennaf, gwnes ddarparu adroddiad cynnydd ar waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, gan ymrwymo i ddarparu adroddiad pellach yn yr hydref.

Mae gwybodaeth am waith y Comisiwn ar gael yn yr adroddiad cynnydd diweddaraf a ddarparwyd gan y Cydgadeiryddion.

Cyfarfu’r Prif Weinidog, arweinydd Plaid Cymru a minnau â’r Cydgadeiryddion yn ddiweddar i drafod eu gwaith. Rhoesant wybod eu bod ar y trywydd iawn i ddarparu eu hadroddiad interim erbyn diwedd eleni. Byddaf eto yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau ar ôl i’r adroddiad hwnnw ddod i law.