Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd
Cafodd Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr ei ddileu ar 25 Mehefin 2013 gan Lywodraeth y DU heb ganiatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Drwy hynny, cafodd Llywodraeth y DU wared ar system oedd yn gweithio’n dda ac a oedd yn dod â budd i weithwyr fferm a’r diwydiant yn gyffredinol.
Yn sgil dyfarniad y Goruchaf Lys fod gan Lywodraeth Cymru’r hawl i benderfynu ar y cyfryw faterion yng Nghymru a’r Cydsyniad Brenhinol wedi hynny i Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (y Ddeddf), rwyf nawr yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol 12 wythnos ar swyddogaethau Panel Cynghori Amaethyddol Cymru (y Panel) i’n helpu i greu corff a fydd yn gosod sylfaen ar gyfer datblygu diwydiant amaethyddol Cymru a’i broffesiynoldeb.
Y Ddeddf yw sylfaen gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant amaeth proffesiynol, proffidiol a chynaliadwy sy’n cael ei gynnal i raddau helaeth gan weithlu sy’n ysbrydoledig, sydd wedi’i hyfforddi’n dda ac sy’n cael ei dalu’n dda. Yn ogystal â chadw system gyflogau yng Nghymru sydd wedi ennill ei phlwyf, sy’n gweithio’n dda ac sy’n gwobrwyo cymwysterau, gwaith caled a chymhelliant, mae’r Ddeddf yn cydnabod hefyd pa mor gyflym y mae pethau’n newid yn y sector. Felly mae’r Ddeddf yn rhoi’r pwerau i’r Panel gynghori Gweinidogion Cymru ar unrhyw fater, hen neu newydd, sy’n berthnasol i sector amaeth Cymru, gan gynnwys ymhlith pethau eraill, sut i gadw gweithwyr da a denu talentau newydd i’r sector.
Mae gweithwyr medrus sydd wedi’u hyfforddi’n dda yn tueddu i fod yn fwy ysbrydoledig a chynhyrchiol. Mae hynny’n arwain at fwy o elw a phroffesiynoldeb mewn nifer o agweddau pwysig, gan gynnwys iechyd a diogelwch ar y fferm. Trwy sefydlu corff sy’n cydnabod pwysigrwydd sgiliau ac sy’n cymell hyfforddiant, amcan Llywodraeth Cymru yw helpu i ddatblygu diwydiant amaethyddol sy’n cyfateb i weledigaeth Llywodraeth Cymru ac sy’n ategu nifer o astudiaethau, gan gynnwys y rheini a gynhaliwyd gan Gareth Williams ar Hwyluso’r Drefn a chan Kevin Roberts ar gydnerthedd y diwydiant.
Bydd y cyngor a roddir gan y Panel i Weinidogion Cymru’n cefnogi matrics yrfaoedd sy’n gwobrwyo gweithwyr amaethyddol yng Nghymru ar sail eu cymwysterau a’u galluoedd. Yn ogystal ag annog gweithwyr amaethyddol Cymru i ddringo ysgol eu gyrfa ac i ddatblygu’r sector, bydd hyn hefyd yn denu talentau a syniadau newydd i’r diwydiant.
Mae’r diwydiant amaeth yn hanfodol i ddatblygu economi Cymru. Mae rhyw 84% o dir Cymru yn dir sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol ac mae’r sector ei hun yn werth dros £150 miliwn (Gwerth Gros Ychwanegol) i economi Cymru. Nid yw’r ffigur hwn yn agos at adlewyrchu y gwir werth y mae’n ei ychwanegu at economi Cymru ar ôl ystyried cynhyrchu bwyd, gwasanaethau amgylcheddol a buddiannau eraill a ddaw o amaethyddiaeth.
Dechreuwyd yr ymgynghoriad ar 7 Awst 2014 a daw i ben ar 30 Hydref 2014. Cewch weld copi ar
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad i roi gwybod i aelodau am y datblygiadau diweddaraf. Os carent i mi wneud datganiad arall ar y mater neu i ateb cwestiynau amdano ar ôl toriad yr haf, byddaf yn fwy na hapus i wneud.