Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r diwydiant amaeth yn rhan hanfodol o economi Cymru. Mae rhyw 84% o dir Cymru yn dir sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol ac mae’r diwydiant ei hun yn werth dros £150 miliwn i economi Cymru. O dan agenda Trechu Tlodi, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau gwledig a sicrhau bod gweithwyr yn y sector amaethyddol yn cael cyflog teg sy'n adlewyrchu pwysigrwydd eu cyfraniad i'n heconomi’n gyffredinol ynghyd â'r profiad a'r sgiliau sydd ganddynt.

Mae Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 yn cynnal system statudol sy'n cydnabod natur unigryw gwaith amaethyddol drwy fudd-daliadau a lwfansau. Drwy gadw darpariaethau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2012, mae’r Ddeddf hefyd yn cynnal y matrics datblygu gyrfa chwe gradd sydd eisoes wedi’i sefydlu ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sector. Mae'r Ddeddf yn sail i weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant amaethyddol sy'n fodern, yn broffesiynol ac yn broffidiol, sy’n cael ei gynnal i raddau helaeth gan weithlu brwdfrydig, sydd wedi’i hyfforddi’n dda ac sy’n cael ei dalu’n briodol.

Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth a fydd yn mynd i'r afael â'r swyddogaeth bwysig o adolygu cyflogau a thelerau ac amodau eraill sy'n ymwneud â chyflogaeth yn y sector amaethyddol. Ar 27 Mawrth 2015, lansiais ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol 12 wythnos ar gyfansoddiad a swyddogaethau’r Panel. Bydd yr ymatebion yn helpu Llywodraeth Cymru i greu corff annibynnol.

Nid yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2012 wedi'i adolygu ers iddo gael ei wneud. O ganlyniad, mae'r diwydiant yn parhau i weithredu o dan yr un telerau ac amodau a osodwyd gan y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol, sydd wedi'i ddiddymu erbyn hyn. Bellach, mae gennyf ddewis rhwng naill ai aros nes i'r Panel gael ei sefydlu a gadael iddo adolygu telerau ac amodau amaethyddol yng Nghymru, neu gyflwyno gorchymyn cyflogau amaethyddol fy hun yn y cyfamser.

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar y ddau opsiwn hyn. O ddewis opsiwn 1, ni fyddai Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth nes i'r Panel gael ei sefydlu.
O ganlyniad byddai cyflogau gweithwyr amaethyddol yng Nghymru yn parhau i gael eu llywio gan gyfraddau a osodwyd yn 2012. Mae opsiwn 2 yn trafod y cynigion ar gyfer cyflwyno gorchymyn cyflogau amaethyddol interim. Byddai hynny'n fodd o ystyried addasu'r cyflogau ar gyfer y chwe gradd safonol o weithwyr, gweithwyr hyblyg, prentisiaid a gweithwyr ifanc o dan 16 oed. Yn ogystal, mae opsiwn 2 yn cynnig y dylai gorchymyn cyflogau amaethyddol interim gadw'r system bresennol o fudd-daliadau a lwfansau i sicrhau ei fod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y modd y mae'r diwydiant yn gweithredu. Credaf fod angen mynd i'r afael â'r gwahaniaethau yng nghyflogau gweithwyr amaethyddol â'u gwneud yn gydnaws â'r ffactorau economaidd sydd ohoni ar hyn o bryd. Ar sail yr uchod, ond yn ddarostyngedig i ganlyniad yr ymgynghoriad, byddai'n well gennyf gyflwyno gorchymyn cyflogau amaethyddol interim, fe y caniateir gan y Ddeddf. Bydd unrhyw orchymyn amaethyddol interim yn parhau mewn grym nes i'r Panel gael ei ffurfio a bod mewn sefyllfa i gynnig ei orchymyn cyflogau amaethyddol ei hun.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnig cyfle i bawb gyflwyno eu syniadau ynghylch a ddylid gwneud gorchymyn interim ar gyfer cyflogau amaethyddol, ac os felly pa ddarpariaethau y dylid eu gwneud. Byddaf yn ystyried pob sylw yn ofalus a chroesawaf gynigion eraill.

Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn fy nghynorthwyo i benderfynu a ddylid cyflwyno gorchymyn cyflogau amaethyddol interim ac, os felly, benderfynu’n derfynol ar ei ddarpariaethau. Hoffwn eich annog i ystyried yr ymgynghoriad hwn ac anfon eich ymateb erbyn 3 Awst. Edrychaf ymlaen at dderbyn eich sylwadau.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 11 Mai a 3 Awst 2015.