Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Dylai trefi ledled Cymru fod yn fannau y gallwn fyw, gweithio, a chwarae ac y gallwn gael mynediad at wasanaethau, siopau, gofod cymunedol a diwylliannol a bod yn galon I gymunedau Cymreig. Ond mae canol trefi yn dirywio, sy'n cael ei yrru gan ystod o ffactorau gan gynnwys datblygiadau y tu allan i drefi sy’n ddibynnol ar deithio mewn ceir preifat, y twf mewn siopa ar-lein a dileu gwasanaethau hanfodol. Ychwanegodd y pandemig at y problemau hyn.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi Datganiad Sefyllfa Canol Trefi sy'n amlinellu'r heriau allweddol sy'n wynebu canol trefi a chyfres o gamau gweithredu i geisio mynd i'r afael â'r heriau hynny.
Mae adfywio canol ein trefi yn fater cymhleth. Er mwyn mynd i'r afael â'r problemau eang sy'n wynebu canol ein trefi, mae'n rhaid i ni ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o'r problemau hynny. Mae'r datganiad sefyllfa hwn yn ceisio crisialu'r heriau allweddol sy'n wynebu canol ein trefi. Mae'n cydnabod mai Llywodraeth Cymru yw'r galluogwr allweddol drwy gyfeiriad polisi cydgysylltiedig a chyson ac mae'r camau yn nodi y sylfeini ar gyfer newid er mwyn galluogi darparu lleol. Mae'n ategu ein hymrwymiadau presennol yn y Rhaglen Lywodraethu a bydd yn ail-bwysleisio pa mor bwysig yw canol trefi bywiog a chynaliadwy ledled Cymru.
Mae'r datganiad sefyllfa yn benllanw cydweithio helaeth ar draws llywodraethau a chyda rhanddeiliaid allweddol canol trefi yn dilyn cyhoeddi adroddiad Ymchwil Economi Sylfaenol Small Towns, Big Issues: alinio modelau busnes, sefydliadau, dychymyg ac adroddiad Archwilio Cymru: Adfywio Canol Trefi yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith am eu hymrwymiad a'u hamser, yn enwedig aelodau o'r Grwpiau Cyflawni a Gweithredu Canol Trefi Gweinidogol.
Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi eisoes wedi dechrau cefnogi’r broses o drawsnewid ein trefi a bydd ein hymrwymiad parhaus o £100 miliwn dros dair blynedd yn parhau i fod yn gatalydd i newid i ailddyfeisio trefi ledled Cymru.
Ni fydd unrhyw un weithred unigol yn cael yr effaith sydd ei angen, ond bydd ymdrech gyfunol a chydlynol ar draws yr ystod o gamau gweithredu yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau a'r nod o adfywio a thrawsnewid trefi ledled Cymru.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'n hawdurdodau lleol a rhanddeiliaid canol trefi i ddatblygu'r camau gweithredu sy'n cael eu nodi yn y datganiad sefyllfa.