Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Mae sgiliau, sy’n faes polisi pwysig sydd wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, yn cael effaith sylweddol ar ein lles economaidd a chymdeithasol yng Nghymru. Ynghyd â’r camau y gellir eu cymryd i weithredu polisïau i wneud unigolion yn fwy cyflogadwy, mae gwella sgiliau’n ffordd o fynd i’r afael â thlodi, creu swyddi a hybu twf.
Fel pob cenedl arall, ni allwn anwybyddu’r ffaith ein bod yn cymryd rhan mewn ras fyd-eang wrth ddatblygu ein sgiliau. Y sgiliau hyn fydd yn diffinio ein gallu i gystadlu yn y dyfodol, drwy fod Cymru yn datblygu’n genedl o bobl fedrus sy’n codi lefelau cynhyrchiant, a lle rydym yn cael gwared ar y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael swydd ac yn helpu pobl i ddod o hyd i waith. Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon ar gyfer y dyfodol, rhaid cydnabod yr heriau y bydd yn rhaid i’n polisïau ymateb iddynt yn ystod y degawd nesaf a chytuno ar y camau a fydd yn sicrhau newid yn y tymor hir.
Dros y misoedd diwethaf, mae’r Adran Addysg a Sgiliau wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu sail ar gyfer Datganiad Polisi newydd ar Sgiliau, gyda’r nod o gyflwyno’r ddadl dros newid, a diffinio set newydd o egwyddorion ar gyfer gweithredu system sgiliau a fydd yn ddigon cadarn.
O ystyried y cyd-destun, sef bod adnoddau’n prinhau o hyd, mae’n hanfodol ein bod yn mynd ati i asesu’r ffordd orau o weithio ar y cyd, gyda mecanweithiau cyflawni ac ariannu eraill megis cyllid o Ewrop, gan rannu costau rhwng y llywodraeth, y cyflogwyr ac unigolion, er mwyn sicrhau bod y system sgiliau yng Nghymru yn gynaliadwy.
Mae’r Datganiad Polisi yn canolbwyntio’n gyfangwbl ar ein hymyriadau i hybu sgiliau ôl-19, ac mae’n diffinio’r gweithgareddau hynny sy’n darparu’r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer cael gwaith (hy o ran yr unigolion sy’n chwilio am waith) yn ogystal â’r sgiliau y mae eu hangen ar rywun i’w alluogi i gamu ymlaen yn ei waith a helpu busnesau (hy sgiliau’r gweithlu).
Mae strwythur y Datganiad Polisi yn adlewyrchu ei bwrpas cyffredinol o ran rhoi braslun hirdymor a strategol o’r system sgiliau y bydd yn rhaid ei datblygu yng Nghymru dros y degawd nesaf, ac mae’n nodi pedwar maes blaenoriaeth Llywodraeth Cymru:
Sgiliau ar gyfer swyddi a thwf
Yn canolbwyntio ar sut y gallai Cymru greu’r galw am gymdeithas o bobl fedrus a fydd yn gallu datblygu ein heconomi drwy hyrwyddo swyddi a thwf.
Sgiliau sy’n ymateb i anghenion lleol
Yn disgrifio sut mae’n hanfodol bod Cymru’n datblygu system sgiliau sy’n adlewyrchu anghenion cymunedau lleol, gan gynnwys darparu cynnig cyflogaeth a sgiliau syml ar gyfer unigolion a chyflogwyr.
Sgiliau a werthfawrogir gan gyflogwyr
Yn cydnabod pa mor bwysig yw cael cyflogwyr i gymryd rhan yn y system sgiliau, gan ddisgrifio lefel y buddsoddi ar y cyd â’r llywodraeth y bydd ei angen, os yw Cymru am barhau i allu cystadlu.
Sgiliau ar gyfer cyflogaeth
Yn edrych ar rôl y system sgiliau o ran darparu’r cymorth y mae ei angen i helpu unigolion i gael swydd ac i gamu ymlaen yn eu gwaith, gan fod y ddwy elfen hyn yn ganolog i lwyddiant yr agenda trechu tlodi yng Nghymru.
Rydym wedi cyflawni llawer eisoes ac mae yna arferion rhagorol ar waith ledled Cymru sydd wedi cael effaith sylweddol ar yr agenda hon. Fodd bynnag mae llawer o heriau’n parhau i’n hwynebu yn y dyfodol, nifer ohonynt yn berthnasol i fwy nag un adran o fewn Llywodraeth Cymru.
Drwy weithio gyda’n gilydd mewn modd creadigol, arloesol ac ysbrydoledig, rwy’n ffyddiog y gall Cymru ymateb i’r heriau a chyflawni’r camau a nodir yn y Datganiad hwn.
Yn dilyn y Datganiad Polisi ar Sgiliau, cynhelir ymgynghoriad ar fuddsoddi ar y cyd, a chyhoeddir cynllun gweithredu yn ystod haf 2014 i’w ategu.