Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Mae'r pwerau newydd ar drwyddedu petroliwm ar y tir, a gychwynnwyd ym mis Hydref eleni, wedi bod yn gyfle i ystyried sut yr ydym am weithredu yn gyffredinol mewn perthynas ag echdynnu petrolewm yng Nghymru. Yn yr haf, cyhoeddais ymgynghoriad ar echdynnu petrolewm a oedd yn nodi barn Llywodraeth Cymru na ddylem drwyddedu rhagor o waith petroliwm ar y tir nac ychwaith gefnogi gwaith hollti hydrolig (ffracio) i echdynnu petrolewm.
Mae'n bleser gennyf heddiw gael cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Daeth dros 1900 o ymatebion i law a hoffwn ddiolch i'r cyhoedd, i fusnesau, i gyrff sy'n cynrychioli'r diwydiant ac i gynrychiolwyr cymunedol am ystyried y materion hyn.
Dangosodd yr ymateb i'r ymgynghoriad fod cefnogaeth aruthrol i'n polisi arfaethedig. Mynegwyd y farn hefyd gan lawer o'r rheini a ymatebodd y dylai Llywodraeth Cymru fynd ymhellach na'i gwrthwynebiad i ffracio ac na ddylai ganiatáu unrhyw waith i echdynnu petrolewm, yn enwedig methan gwely glo. Roedd yr egwyddor o gadw tanwyddau ffosil yn y ddaear, ac o leihau dibyniaeth ar danwyddau o'r fath yng Nghymru yn y dyfodol, yn thema gyffredin.
Mynegodd yr ymatebwyr bryderon am yr effeithiau hirdymor y byddai gwaith echdynnu petrolewm yn ei gael ar iechyd, ar yr amgylchedd, ar y newid yn yr hinsawdd ac, yn benodol, ar gymunedau lleol mewn ardaloedd trwyddedig. Y farn amlycaf oedd y byddai rhagor o waith echdynnu petrolewm yng Nghymru yn arwain at fwy o allyriadau ac yn cyfyngu ar allu Cymru i gyrraedd ei thargedau lleihau allyriadau.
Wrth bwyso a mesur y dystiolaeth am risgiau yn erbyn y ffaith mai dim ond ychydig o welliant y byddem yn ei weld o ran ffyniant, a hefyd yn erbyn yr angen i gyrraedd targedau datgarboneiddio, ymateb y cyhoedd oedd nad oeddent yn gweld bod unrhyw ddyfodol i ddiwydiant tanwyddau ffosil newydd. Barn y cyhoedd oedd ei bod yn bosib a yn well, newid i ffyrdd eraill o gynhyrchu ynni sy'n creu llawer yn llai o lygredd. Fodd bynnag, barn y diwydiant yw fod echdynnu petroliwm yn medru cael ei reoli a’i reoleiddio’n ddiogel ac yn cynnig ffynhonnell leol i gynhyrchu petroliwm.
Roedd y dystiolaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn cyflwyno'r wybodaeth arbenigol gyfredol am arfarniadau gwyddonol o waith echdynnu ac am fanteision ariannol i gymunedau yng Nghymru. Mynegwyd pryderon bod data ar goll am y risgiau sy’n gysylltiedig ag allyriadau ffo wrth echdynnu methan gwely glo. Mae'r ffaith nad oes unrhyw safleoedd echdynnu o’r fath mewn unrhyw le yn y DU yn golygu nad oes fawr o wybodaeth am fethan gwely glo. Ymateb mwyafrif yr ymatebwyr oedd os na fyddwn yn echdynnu unrhyw betrolewm, yna ni fydd yn rhaid inni wynebu’r effaith a'r risgiau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu a datgomisiynu. Roeddent o blaid peidio ag echdynnu o gwbl oherwydd mai dyna'r ffordd i roi sicrwydd i gymunedau ger safleoedd trwyddedig ac i osgoi unrhyw darfu a niwed diangen.
Wedi ystyried y dystiolaeth, y risgiau a'r sylwadau sydd wedi dod i law mewn ymateb i'r ymgynghoriad, gallaf gadarnhau na fydd hollti hydrolig er mwyn echdynnu petrolewm yn cael ei gefnogi yng Nghymru.
Er mwyn gwireddu'r ymrwymiad a wnaed gennyf yn 2016 i leihau'r defnydd o danwyddau ffosil, rwyf hefyd yn cadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi unrhyw drwyddedau newydd ar gyfer echdynnu petrolewm yng Nghymru. Bydd ceisiadau am drwyddedi unigol ddim ond yn cael eu hystyried ar gyfer rheoli pyllau glo yn ddiogel, neu i gefnogi ymchwil gwyddonol.
O blegid y pwerau sydd wedi eu trosglwyddo mae 13 o drwyddedau byw yng Nghrymu. Mae’r fersiwn ddiwygiedig o 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi mai tanwyddau ffosil fydd y tanwydd a ffafrir leiaf. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn gosod y fframwaith ar gyfer gwneud holl penderfyniadau ar geisiadau cynllunio , gan gynnwys trwyddedau sy'n bodoli eisoes. Mae’r Nodyn Cyfarwyddyd diwedar hefyd yn golygu bod rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol hysbysu Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu caniatáu cais cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiad echdynnu petroliwm.
Er bod trwyddedu gwaith ar y môr yn fater a gadwyd yn ôl, gall yr egwyddorion a ystyriwyd yn yr ymgynghoriad fod yn berthnasol i Weinidogion Cymru wrth wneud penderfyniadau ar drwyddedi morol wrth ystyried ceisiadau yn ymwneud ag echdynnu petroliwm ar y môr.
Mae Cytundeb Paris y Cenhedloedd Unedig wedi gosod y cyd-destun ar gyfer mynd i'r afael ag un o'r bygythiadau mwyaf sy’n ein hwynebu, y newid yn yr hinsawdd a'r her o ddatgarboneiddio'r economi fyd-eang. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) yn ei gwneud yn ofynnol ar Weinidogion Cymru sicrhau bod Cymru yn garbon isel, yn gynaliadwy ac yn llewyrchus yn awr ac yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar draws y Llywodraeth i sicrhau dyfodol carbon isel.
Mae angen inni bellach sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd byd-eang wrth i ni newid i beidio defnyddio tanwydd ffosiledig i sicrhau nad yw Cymru yn cael ei gadael ar ôl. Drwy’n huchelgais i fynd i’r afael â’r newid yn y yr hinsawdd, byddwn yn creu Cymru sy’n ffyniannus a diogel, sy’n iach ac egnïol, sy’n uchelgeisiol ac yn dysgu, ac sy’n unedig a chysylltiedig. Byddwn yn cyrraedd y nod yn hynny o beth drwy wrando ar leisiau cymunedau, drwy osod y sylfeini a fydd yn helpu Cymru gyfan i weithredu, a thrwy beidio â chefnogi echdynnu tanwyddau ffosil.