Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn AS, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi ymrwymo i symud tuag at economi fwy cylchol lle byddwn ni’n ailddefnyddio adnoddau cynifer o weithiau ag y bo modd, gan gael y gwerth mwyaf posibl ohonynt, lleihau gwastraff a hyrwyddo defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon. Mae Pecyn Economi Gylchol yr UE yn cyflwyno fframwaith deddfwriaethol diwygiedig, gan nodi’r camau ar gyfer lleihau gwastraff a sefydlu llwybr uchelgeisiol a chredadwy ar gyfer rheoli ac ailgylchu gwastraff yn y tymor hir.

Ar y cyd â llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig, rwyf wedi cyhoeddi datganiad polisi ar y cyd yn amlinellu’r newidiadau allweddol a wneir gan Becyn Economi Gylchol yr UE a’r ffordd y bydd y DU yn trosi mesurau Pecyn yr Economi Gylchol 2020. 

Rwyf wedi cytuno i gyhoeddi datganiad polisi ar y cyd â Llywodraethau eraill y DU yn hytrach na chynnal ymgynghoriad ffurfiol. Mae’r rhan fwyaf o fesurau Pecyn yr Economi Gylchol 2020 yn newidiadau technegol cymharol fach, ac yn aml mae’r ddeddfwriaeth weithredu yn aml yn defnyddio’r un geiriad ag sydd yn y Cyfarwyddebau diwygio perthnasol a gyflwynwyd gan Becyn Economi Gylchol yr UE.   

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud y newidiadau deddfwriaethol sy’n ofynnol ar gyfer trosi mesurau CEP 2020 ar gyfer Cymru a Lloegr, ar wahân i rai diwygiadau sy’n cynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â gwastraff peryglus. Byddai’n gwneud y rhain ar wahân. Byddai’n ceisio cydsyniad Senedd Cymru  fel y gall yr Ysgrifennydd Gwladol wneud y newidiadau deddfwriaethol ar ein rhan mewn perthynas â’r agweddau hynny’n sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol. Byddwn ni, ochr yn ochr â hynny, yn gwneud unrhyw ddiwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i Gymru mewn rheoliadau annibynnol sy’n berthnasol i Gymru yn unig.   

Mae rhai diwygiadau sy’n cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn berthnasol i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Bydd y rhain yn ymwneud â deddfwriaeth bresennol  sy’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig neu Brydain Fawr yn ei chyfanrwydd neu â’r rheoliadau hynny mewn meysydd sydd wedi eu cadw yn ôl. Bydd yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn gwneud eu rheoliadau eu hunain a fydd yn trosi elfennau o Becyn yr Economi Gylchol nad ydynt yn berthnasol i’r DU gyfan i’w deddfwriaeth ddomestig eu hunain.

Mae gwneud pethau yn y ffordd hon yn osgoi’r angen i ddyblygu diwygiadau, a fyddai wedi digwydd pe bai pob gweinyddiaeth yn gwneud yr un diwygiadau i’r gyd-ddeddfwriaeth bresennol. 

Mae’r datganiad yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad i roi’r diweddaraf i aelodau. Os yw aelodau am imi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau pan fydd y Senedd yn dychwelyd byddwn i’n hapus i wneud hynny. 

Dolen i’r datganiad polisi ar y cyd: https://llyw.cymru/datganiad-polisi-pecyn-economi-gylchol