Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae geneteg a genomeg yn feysydd sy'n datblygu'n gyflym, gyda thechnolegau newydd yn lleihau costau ac yn cyflymu'r broses o ddilyniannu DNA ac RNA. Mae hyn eisioes wedi achosi chwyldro yn y byd meddygol ac ym maes iechyd y cyhoedd, drwy ddarparu profion genetig manylach, cyflymach a mwy cost-effeithiol.

Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y datblygiadau hyn, gyda darparwr unigol ar gyfer gwasanaethau labordy a geneteg glinigol y GIG, gwasanaethau gwybodeg iechyd o'r safon uchaf ym maes iechyd a chysylltiadau cryf â gwaith ymchwil o'r radd flaenaf ym meysydd geneteg a genomeg a gyflawnir mewn prifysgolion yng Nghymru.

Mae mwy a mwy o astudiaethau genomeg yn cael eu cyflawni ar raddfa fyd-eang. Gyda'r gallu i ymchwilio ymhellach i DNA, mae'r tebygolrwydd o ganfod amrywiad na wyddom beth yw ei arwyddocâd yn cynyddu. Mae angen cydweithio ar lefel fyd-eang os ydym am ddeall arwyddocâd clinigol posibl amrywiadau o'r fath ac mae'n rhaid inni sicrhau bod ein gwasanaethau geneteg a genomeg yn gallu cyfranogi'n llawn o fewn rhwydweithiau byd-eang. Yn ogystal, er mwyn gwneud yn fawr o'n potensial i fod yn rym pwysig ar lefel ryngwladol ym maes genomeg a meddygaeth fanwl, mae angen i Gymru sefydlu partneriaethau strategol cryf yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.

I baratoi ar gyfer y dyfodol a manteisio i'r eithaf ar ddatblygiadau yn y DU a thu hwnt, mae'n hanfodol ein bod nawr yn datblygu strategaeth ar gyfer genomeg a meddygaeth fanwl yng Nghymru fel blaenoriaeth genedlaethol. I'r perwyl hwn, dros y 10 wythnos ddiwethaf mae Tasglu Genomeg dan Arweiniad Llywodraeth Cymru wedi llunio Datganiad o Fwriad. Mae'r datganiad o fwriad yn amlinellu'r gwaith a fydd yn cael ei gyflawni er mwyn gyrru'r strategaeth yn ei blaen ac yn argymell y dylid rhoi blaenoriaeth i ddatblygiad mewn pedwar prif faes, sef:

  • Gwasanaethau clinigol a gwasanaethau labordy
  • Ymchwil ac arloesi
  • Partneriaethau strategol
  • Y gweithlu

Drwy ddilyn y strategaeth, ein bwriad yw creu amgylchedd cynaliadwy, cystadleuol ar raddfa ryngwladol ar gyfer genomeg a meddygaeth fanwl i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal iechyd darbodus i bobl Cymru. Bydd hyn:

  • yn seiliedig ar wasanaethau labordy a chlinigol ym maes geneteg a genomeg a ddarperir gan y GIG i Gymru gyfan, a fydd yn gweithio i safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel rhan o seilwaith clinigol ac academaidd integredig ar gyfer cymhwyso meddygaeth genomaidd.
  • yn hyblyg ac yn gallu addasu i newid cyflym a thechnolegau newydd, gan ddatblygu cydberthnasau rhagorol yng Nghymru a thu hwnt, er mwyn manteisio i'r eithaf ar bosibiliadau cydweithio rhwng y GIG, iechyd y cyhoedd yng Nghymru, y byd academaidd, diwydiant a phobl Cymru.
  • yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu gweithlu'r GIG i gefnogi'r gwaith o ddarparu meddygaeth fanwl.
  • yn creu fframwaith ar gyfer meithrin partneriaethau strategol newydd ym maes ymchwil / gyda diwydiant, i sicrhau'r buddion iechyd ac economaidd gorau posibl, cyn gynted â phosibl.
  • yn amlinellu ein huchelgais i fod yn un o'r prif gyfranwyr ym maes genomeg yn y DU, gan gydweithio ar draws ffiniau i sicrhau ein bod yn cael y budd gorau a'r gwerth gorau am arian o ddatblygiadau mewn technolegau genomeg.
  • yn manteisio ar botensial data genomaidd ar gyfer ymchwil a datblygu drwy gefnogi cyfraniad Cymru at ymchwil a threialon o'r safon uchaf yn y byd.

Bydd y strategaeth yn arwain at lawer o fanteision i gleifion, teuluoedd a phobl Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • gwasanaeth gofal iechyd mwy effeithlon a darbodus, sy'n defnyddio adnoddau lle mae'r angen mwyaf amdanynt a lle maent fwyaf effeithiol.
  • diagnosis cynharach a chywirach, fel bod modd ymyrryd yn gynnar a chynnig triniaeth sydd wedi'i thargedu'n well. Bydd yn golygu bod pobl yn ymateb yn well i driniaeth, yn gwella'n gyflymach ar ôl salwch ac yn dioddef llai o sgil-effeithiau.
  • gwell strategaethau atal a rheoli heintiau, a rheoli clefydau heintus yn fwy effeithiol mewn lleoliadau gofal iechyd ac yn y gymuned.
  • grymuso cleifion drwy ddarparu gwybodaeth fanylach, a chyfleu'r wybodaeth honno mewn modd priodol, fel bod ganddynt well dealltwriaeth o'u hiechyd eu hunain a'u bod yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain.
  • rhagor o gyfleoedd i gleifion gymryd rhan mewn treialon clinigol ac astudiaethau ymchwil arloesol eraill a chyfrannu at ddarganfyddiadau a fydd yn gwella iechyd a gofal iechyd.

Bydd y tasglu genomeg nawr yn datblygu strategaeth lawn sy'n seiliedig ar yr egwyddorion a blaenoriaethau allweddol hyn. Cadeirydd y tasglu fydd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru, ac mae'n anelu at adrodd yn ôl ar gynnydd i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2016, yn dilyn trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol o bob cwr o Gymru a thu hwnt.