Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Rwyf wedi gosod gerbron y Senedd y Datganiad Blaenoriaethau ac Amcanion Strategol ar gyfer Ofwat (SPS) yn nodi ein blaenoriaethau, ein hamcanion a'n disgwyliadau strategol ar gyfer Ofwat, rheoleiddiwr economaidd y diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr.
https://senedd.cymru/media/hlpfnuxo/sub-ld15229-w.pdf
Mae Ofwat yn gwneud penderfyniadau bob 5 mlynedd (adolygiad prisiau) ar lefel y gwasanaeth y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl. Mae hyn yn cynnwys pennu’r taliadau gan gwsmeriaid a'r buddsoddiad sydd ei angen i ddiogelu a gwella'r amgylchedd a mynd i'r afael â heriau'r dyfodol.
Mae'r SPS yn ei gwneud yn ofynnol i Ofwat fabwysiadu dull o adolygu a rheoleiddio prisiau cwmnïau dŵr sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru yn gadarn yng nghyd-destun deddfwriaeth a pholisi Cymru, wedi'i ategu gan dystiolaeth benodol i Gymru i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a dinasyddion Cymru a'r amgylchedd. Mae'n gofyn i Ofwat ddangos sut mae ei benderfyniadau mawr yn gyson â'n disgwyliadau a'n blaenoriaethau. Er enghraifft, wrth sefydlu'r fethodoleg ar gyfer adolygiadau prisiau, cyhoeddi penderfyniadau drafft a therfynol neu gynigion ar gyfer newid i'r fframwaith rheoleiddio. Dylai Ofwat geisio mynd i'r afael â risgiau, heriau a bygythiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n codi, dros y tymor hir.
Mae ein sector dŵr yn wynebu her uniongyrchol a digynsail. Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu bod Cymru, dros yr 20 mlynedd nesaf, yn wynebu gaeafau gwlypach, hafau sychach poethach, lefelau'r môr yn codi, a thywydd eithafol amlach a dwys. Bydd yr angen i sicrhau datgarboneiddio, gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn gofyn am atebion arloesol, newid ymddygiad, a buddsoddiad hirdymor yn ein seilwaith dŵr. Ar yr un pryd, yr heriau costau byw yw'r rhai mwyaf difrifol mewn cenhedlaeth, gan roi pwysau ar incwm aelwydydd a gallu llawer o bobl i dalu am hanfodion fel bwyd, dŵr ac ynni.
Bydd angen i'r adolygiad nesaf o brisiau'r diwydiant dŵr ymateb i'r heriau sylweddol hyn er mwyn sicrhau'r gwerth gorau i gwsmeriaid, cymunedau a'r amgylchedd.
Mae atebion i lawer o'r heriau hyn yn gofyn am waith ymgysylltu lleol cryf a gweithio mewn partneriaeth ar draws dalgylchoedd. Mae angen atebion arloesol arnom sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymdrech gydweithredol “Tîm Cymru”.
Mae cwmnïau dŵr yn gyflogwyr lleol pwysig, yn gontractwyr ac yn ddatblygwyr sgiliau ac arbenigedd y gweithlu yng Nghymru. Maent yn chwarae rhan bwysig o ran galluogi twf gwyrdd a chefnogi'r economi sylfaenol yng Nghymru. Mae'r SPS yn pennu'r disgwyliad bod Ofwat yn galluogi'r cwmnïau dŵr i gysoni eu hegwyddorion a'u harferion caffael â Datganiad Polisi Caffael Cymru.
Mae'r SPS yn nodi 5 blaenoriaeth allweddol lle rydym yn disgwyl i Ofwat herio neu annog cwmnïau dŵr i gyflawni, sef:
Yr Argyfwng Hinsawdd a’r Argyfwng Natur – Dylai cwmnïau dŵr fabwysiadu arferion ac ymddygiad sy'n gweithredu fel patrwm enghreifftiol o weithio ac yn galluogi newid yn gadarnhaol i sicrhau cymdeithas carbon sero net yng Nghymru.
Yr Amgylchedd – rydym am weld newid i ymagwedd sy’n seiliedig ar ddalgylch, yn cael ei harwain gan ddeilliannau, gydag atebion partneriaeth (gan gynnwys cwsmeriaid) seiliedig ar natur sy'n mynd i'r afael â gwraidd problemau. Lle bynnag y bo modd, dylai cwmnïau fodloni neu fynd y tu hwnt i ofynion yr holl ddeddfwriaeth amgylcheddol a chyflawni buddion amgylcheddol a chymdeithasol ehangach wrth gyflawni’u swyddogaethau.
Gwydnwch – Dylai cwmnïau dŵr ragweld tarfu, ymdopi â tharfu, ac adfer o darfu, a chynnal gwasanaethau i bobl a diogelu'r amgylchedd naturiol, nawr ac yn y dyfodol.
Iechyd Asedau – Dylai cwmnïau ddangos dealltwriaeth glir o iechyd eu hasedau gan gynnwys cyd-ddibyniaethau, tueddiadau yn y tymor hir, a sut mae hyn yn effeithio ar lefelau gwydnwch cyffredinol. Mae rheolaeth dda ar asedau cwmnïau yn elfen hanfodol o sicrhau gwydnwch yn y sector dŵr a dŵr gwastraff yng Nghymru.
Cwsmeriaid a Chymunedau – Dylai cwmnïau dŵr ddarparu cymorth ariannol tryloyw, hygyrch a chynaliadwy i'r rheiny sy'n cael anhawster talu. Dylai Ofwat ystyried fforddiadwyedd i’r holl gwsmeriaid a fforddiadwyedd i gwsmeriaid sy'n cael anhawster talu eu bil dŵr wrth ddylunio ei fframwaith rheoleiddio, a hwyluso penderfyniadau prisiau sy'n darparu gwerth am arian i gwsmeriaid heddiw ac yfory.
Mae'r SPS hwn yn nodi dull gweithredu Llywodraeth Cymru a'i disgwyliadau o ran Ofwat a bydd yn cael ei adolygu'n gyson.
Hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r SPS hwn. Mae cwmnïau dŵr, rheoleiddwyr, cyrff cynghori, partneriaid cyflawni a'n rhanddeiliaid allweddol wedi gweithio gyda'i gilydd i lunio'r SPS hwn. Rwy'n eu hannog i barhau â'r dull cydweithredol hwn i ddarparu cyfeiriad a her strategol a fydd yn arwain ac yn llywio ein blaenoriaethau a'n huchelgais ar gyfer y sector dŵr yng Nghymru yn y dyfodol.