Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Cyhoeddais ar 18 Tachwedd 2013 fy mod wedi gofyn i’r Athro Syr Ian Diamond, Is-Ganghellor Prifysgol Aberdeen, i gadeirio Adolygiad o Gyllido Addysg Uwch a Threfniadau Cyllid Myfyrwyr yng Nghymru.
Dechreuodd Panel yr Adolygiad ar y gwaith ym mis Ebrill eleni ac mae’n mynd rhagddo’n dda. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr Adolygiad hyd yma, ac i’r pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad sydd wedi cynnig cymorth adeiladol o safbwynt sefydlu’r Adolygiad hwn a chyflwyno enwebeion ar gyfer y Panel.
Mae’r Panel wrthi’n casglu ynghyd a gwerthuso’r data, yr ymchwil a’r dystiolaeth arall sydd ar gael a fydd yn sail i’w drafodaethau. Gan fod yr Adolygiad hwn yn un annibynnol mae’n hollbwysig fod y Panel yn clywed barn rhanddeiliaid allweddol ynghylch cyllido addysg uwch a threfniadau cyllid myfyrwyr Pleser yw cyhoeddi, felly, fod y Panel bellach yn lansio Cais am Dystiolaeth a fydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyllid myfyrwyr a’r system cyllido Addysg Uwch i fanteisio ar y cyfle hwn i ymateb i’r Cais am Dystiolaeth. Bydd yn rhaid i unrhyw dystiolaeth neu safbwyntiau gael eu cyflwyno erbyn 27 Chwefror 2015 man bellaf. Bydd y Panel yn ystyried yr holl ymatebion a gaiff eu cyflwyno yn ofalus iawn a byddant yn sail i’r crynodeb ffeithiol o dystiolaeth y bydd y Panel yn adrodd arno yn hydref 2015. Bydd adroddiad terfynol ac argymhellion y Panel yn cael eu cyflwyno erbyn mis Medi 2016.