Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Dechreuodd yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Ian Diamond, ym mis Ebrill 2014. Ers hynny, mae gwaith y Panel, sef adolygu ystod eang o dystiolaeth a data sy’n ymwneud â’r sector addysg uwch a threfniadau cyllido addysg uwch, wedi mynd rhagddo’n dda.  

Cytunwyd y byddai Syr Ian, yn hydref 2015, yn paratoi crynodeb ffeithiol o’r dystiolaeth yr oedd ef a’r Panel Adolygu wedi ei chasglu. Bellach mae Syr Ian wedi llunio’r adroddiad hwnnw, a dyma’r adroddiad rwy’n ei gyhoeddi heddiw. Mae’n crynhoi’r dystiolaeth a gafodd ei hystyried gan y Panel Adolygu rhwng mis Ebrill 2014 a mis Medi 2015. Mae’n nodi’r prif themâu sy’n codi ynddi, ond nid yw’n cynnig barn ar ei dilysrwydd na’i harwyddocâd. Nid yw ychwaith yn ceisio cynrychioli barn y Panel na chynnig argymhellion. Bydd y pethau hynny’n rhan o’r adroddiad terfynol, a gyhoeddir erbyn mis Medi 2016.

Ochr yn ochr â’r adroddiad interim, rwy’n cyhoeddi tair dogfen ychwanegol gan y Panel, sy’n darparu tystiolaeth bellach yn ymwneud â’r Adolygiad, sef crynodeb o’r ymatebion i Gais am Dystiolaeth y Panel, a oedd ar agor rhwng mis Tachwedd 2014 a mis Chwefror 2015; adroddiad ar addysg uwch ran-amser yng Nghymru, a gafodd ei gomisiynu gan y Panel; ac adroddiad ar y grwpiau ffocws a gafodd eu defnyddio i bwyso a mesur barn myfyrwyr a chynrychiolwyr myfyrwyr, cyflogwyr, a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio i ehangu mynediad.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.