Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae’n hysbys i bawb nad lle Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU o ran hynny, yw ymyrryd a phennu pris llaeth.  Mater rhwng cynhyrchwyr y llaeth a phrynwyr y llaeth yw hynny.  Er hynny, mae’r gostyngiad diweddar yn y pris y mae’r rhan fwyaf o gynhyrchwyr yn ei gael am eu llaeth yn destun gofid inni i gyd. 
Mae’r sector godro yn allweddol i ddyfodol ffermio yng Nghymru ac mae’n bwysig hefyd i’r economi ehangach yng Nghymru.  Mae Llywodraeth Cymru yn ôl ei Rhaglen Lywodraethu am gynyddu ei chefnogaeth i’r sector godro, pan fo hynny’n bosibl ac yn briodol.
I’r perwyl hwn, cynhaliais ‘Uwchgynhadledd i Ddiwydiant Llaeth Cymru’ yn ddiweddar i ofyn i’r diwydiant am ei farn ynghylch pa help y dylai Llywodraeth Cymru ei roi iddo a sut orau i roi’r help hwnnw ac unrhyw ymyriadau eraill.  Daeth cynrychiolwyr y diwydiant, cynhyrchwyr, prynwyr, proseswyr ac adwerthwyr ynghyd a byddaf yn ystyried eu safbwyntiau wrth imi ddatblygu’r cymorth ar gyfer y diwydiant llaeth cyfan.  Byddaf yn gwneud datganiad ar hyn maes o law.
Yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cymryd rhan lawn yn y trafodaethau am y Cod Ymarfer Gwirfoddol y mae’r diwydiant yn ei gynnig ar gyfer contractau cyflenwi llaeth.  Os na ddaw dim o’r trafodaethau hyn, af yn fy mlaen fy hun a chyflwyno deddfwriaeth i roi cynigion pecyn yr UE ar waith, er nad fy newis cyntaf fyddai hynny.
Byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig arall i Aelodau cyn gwyliau’r haf ar hynt Hwyluso’r Drefn.  Mae’r fenter hon am weld newid sylfaenol yn y ffordd y mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn cael ei rheoleiddio.  Mae’n fwy uchelgeisiol na lleihau biwrocratiaeth.  Yn ogystal ag ysgafnhau’r baich rheoliadau, ei nod yw cyflwyno system reoleiddio fydd yn deg ac yn ateb y gofyn.
Bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y gadwyn gyflenwi yn deg.  Ysgrifennais at BIS fis diwethaf i gyflwyno i Lywodraeth y DU ein dadleuon o blaid cryfhau pwerau Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd er mwyn iddo allu monitro’r Cod Ymarfer Cyflenwi Bwydydd, sy’n berthnasol i fanwerthwyr.  Rwy’n grediniol y bydd fy safiad dros degwch yn y gadwyn gyflenwi yn llesol i bawb yn y pen draw.  Rwy’n deall y byddai’r Dyfarnwr yn cael ymyrryd pe bai’n gweld neu’n amau annhegwch.  Rwy’n gobeithio yn awr y gwnaiff Llywodraeth y DU gryfhau pwerau’r Dyfarnwr arfaethedig yn y ddeddf.
I gloi, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi taliadau uniongyrchol colofn 1 y PAC i ffermwyr ar y lefelau cyfredol.  Testun siom fawr imi yw bod Llywodraeth y DU am grebachu’r taliadau hynny.  Effaith toriadau o’r fath fyddai gyrru llawer o ffermwyr Cymru dros y dibyn i fod yn fethdalwyr.  Bydd hynny’n drychinebus i bob sector yn niwydiant amaeth Cymru, nid i’r sector godro yn unig.Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio mynd ati mewn ffordd ymarferol a phellweledol i sicrhau bod diwydiant godro’n Cymru’n goroesi’r anawsterau diweddaraf ac yn gryfach i allu llwyddo yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol bod diwydiant godro Cymru’n parhau’n rhan fyrlymus a phroffidiol o ddiwydiant amaeth Cymru.