Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pan ail-lansiais y Rhaglen Dileu TB yn 2017 ymrwymais i ddiweddaru Aelodau’r Senedd yn flynyddol. Oherwydd y Coronafeirws, mae’r Datganiad hwn wedi'i ohirio ers mis Ebrill 2020 tan nawr.

Mae ein hymateb i COVID-19 wedi effeithio ar y Rhaglen Dileu TB, ond credaf fod gwersi pwysig i'w dysgu o'r ffordd yr ydym wedi ymateb i'r argyfwng hwn. Mae profion TB gwartheg wedi parhau i fod yn gonglfaen i'r Rhaglen Ddileu a pharhawyd i’w cynnal, gyda rhai addasiadau. Mae agweddau eraill ar y rhaglen wedi'u gohirio a bu oedi cyn cyflwyno rhai polisïau newydd wrth i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynnal profion TB a sicrhau bod iechyd a lles anifeiliaid yn ogystal â iechyd y cyhoedd yn cael eu gwarchod. Cafwyd enghreifftiau o waith partneriaeth da, er enghraifft wrth ddewis yr addasiadau ymarferol i’r profion TB er mwyn gallu cadw at ganllawiau COVID-19 lle'r oedd tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau.

Mae'r ffocws wedi bod, ac yn parhau i fod, ar feithrin perthynas sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth â rhanddeiliaid a chadw llinellau cyfathrebu ar agor, mynd i'r afael â phroblemau wrth iddynt godi, datblygu atebion mewn modd deinamig a chydweithio.

Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar bob un o bedair prif egwyddor rheoli clefydau heintus: Ei gadw draw; Ei ganfod yn gyflym; Ei atal rhag lledaenu; Ei ddileu. Mae hyn wedi cynnwys cynnal trefn wylio ragweithiol, parhau i brofi gan gadw pellter cymdeithasol diogel, gosod cyfyngiadau symud ar safleoedd heintiedig lle bo angen a gweithio gyda cheidwaid buchesi i gynnal bioddiogelwch a’r arferion prynu gorau.

Drwy ein cyd-ymdrechion a'n cydweithrediad parhaus â’r diwydiant ac â milfeddygon, rydym yn parhau i gael ein calonogi gan yr ystadegau TB diweddaraf.  Yn y 12 mis hyd at fis Awst 2020, gwelsom ostyngiad o 10% yn yr achosion newydd o TB o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol, y 26ain mis o’r bron lle cafwyd gostyngiad ym mharamedrau’r clefyd. Yn ystod 2019, cafwyd 5.8 o fuchesi ag achosion newydd fesul bob 100 o fuchesi â Statws Heb TB Swyddogol, sef y lefel flynyddol isaf o fuchesi ag achosion newydd ers 15 mlynedd. Mae'n bleser gennyf ddatgan inni weld y duedd hon yn parhau yn 2020 gyda'r lefel chwarterol isaf o fuchesi ag achosion newydd wedi’i chofnodi yn Chwarter 1 eleni.

Ddiwedd mis Awst 2020, roedd 95.0% o fuchesi Cymru yn ddi-TB, sy'n uwch nag ym mis Awst 2019 ac sydd wedi bod ar gynnydd ers mis Ionawr 2019.

Lladdwyd 10,462 o wartheg oherwydd TB yn y 12 mis hyd at fis Awst 2020, sef gostyngiad o 18% o’u cymharu â'r 12 mis blaenorol. Mae'r gostyngiad hwn yn rhannol oherwydd newid y polisi ar wartheg sy’n cael adwaith amhendant sydd wedi arwain at ostwng y nifer a leddir cyn cynnal ail brawf. Ond, mae'n bwysig peidio â chanolbwyntio ar un mesur mewn sefyllfa gymhleth. Mae nifer yr achosion a nifer y buchesi sydd o dan gyfyngiadau yn ddangosyddion mwy arwyddocaol o hynt y clefyd na nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu lladd.

Rwyf wedi gosod targedau i ddileu TB yng Nghymru fydd yn golygu y bydd Cymru’n wlad sy’n swyddogol heb TB rhwng 2036 a 2041. Mae targedau interim, sy'n cwmpasu cyfnodau o 6 mlynedd, wedi'u pennu ar gyfer pob un o'r Ardaloedd TB, ac yn cynnwys targedau ar gyfer gostwng nifer y buchesi ag achosion newydd yn ogystal â newid ardaloedd TB o fod yn rhai uchel i fod yn rhai isel.  Ar ddiwedd pob cyfnod o 6 mlynedd, caiff y cynnydd ei asesu a cherrig milltir eu gosod ar gyfer y cyfnod nesaf. Mae gwaith yn parhau i nodi’r ardaloedd y gellid newid eu statws er gwell.

Mae gwaith da wedi’i wneud yn Ardal TB Uchel y Dwyrain ac yn Ardal TB Uchel y Gorllewin dros y 12 mis diwethaf, gyda gostyngiad yn nifer y buchesi ag achosion newydd. Ffigurau’r buchesi ag achosion newydd ar ddiwedd Chwarter 2 2020 oedd yr isaf ar gyfer unrhyw ail chwarter yn y ddwy Ardal TB ers cyflwyno’r Rhaglen Dileu TB yn 2010. Rydym hefyd yn dechrau gweld rhywfaint o welliant o ran nifer y buchesi o dan gyfyngiadau yn Ardal TB Uchel y Gorllewin gyda 19% yn llai o fuchesi o dan gyfyngiad TB ar ddiwedd Chwarter 2 2020 nag yn Chwarter 2 2019.

Yn dilyn cyflwyno ystod o fesurau ychwanegol yn 2018 i reoli’r clefyd, cytunwyd ar dri mesur cam 2 newydd yn Ardal TB Canolradd y Gogledd (ITBAN) o 1 Chwefror 2021. O ran y cyntaf, os bydd buches yn cael achos newydd o TB lai na 6 mis ers codi’r cyfyngiadau arni yn dilyn achos cynt, bydd rhaid paratoi Cynllun Gweithredu ar ei chyfer. Mae Mesur 2 yn cyflwyno Interferon-gamma (y "prawf gama") fel Prawf ar ôl Symud mewn dwy uned ofodol o'r ITBAN (CL7 a CL8). Bydd y trydydd mesur yn gofyn am ddefnyddio’r dehongliad llym wrth gynnal profion TB ar fuchesi â TB yn unedau CL7 a CL8 dros gyfnod yr achosion hynny. Fel rhan o gynllun cyfathrebu cyn ei gyflwyno, mae swyddogion y tîm TB yn trefnu cyfarfodydd agored ar-lein yn ardal ITBAN i drafod y mesurau newydd hyn yn ogystal ag ystyried a thrafod sefyllfa’r clefyd o fewn ITBAN.

Pryder cynyddol dros y misoedd diwethaf fu’r cynnydd yn nifer yr achosion o fewn Ardal TB Isel y Gogledd. Cafwyd 27 o achosion agored ddiwedd mis Mawrth 2020, sef y nifer uchaf o achosion agored ers Chwarter 2 2011. Fodd bynnag, dim ond 1% o'r buchesi yn yr Ardal TB Isel yw hyn, ac roedd y 99% sy'n weddill yn parhau i fod yn ddi-glefyd ddiwedd mis Mawrth 2020.

Mae asesiadau cychwynnol o ffurflenni adrodd y clefyd yn dangos bod o leiaf 70% o’r achosion agored yn Ardal TB Isel y Gogledd ddiwedd Mawrth 2020 yn deillio o symudiadau gwartheg. Nid yw hyn yn golygu nad gwartheg wedi’u prynu oedd achos y 30% arall ond gallai’r achosion hynny fod wedi’u trosglwyddo mewn mwy nag un ffordd. Mae'n destun pryder er gwaethaf y mesurau rheoli sydd gennym ar waith bod y dystiolaeth epidemiolegol hon yn dangos mai gwartheg a brynwyd yw prif ffynhonnell heintiadau newydd yn yr Ardal TB Isel. Rwy’n annog pawb sy'n dod â gwartheg i’r ardal i asesu'n ofalus y risg o brynu’r anifeiliaid hynny drwy brynu’n ddoeth, ac i ddefnyddio offer fel gwefan ibTB. Os ydym am atal y clefyd a chyrraedd ein targedau dileu, mae angen i ni roi blaenoriaeth i ddiogelu Ardal TB Isel y Gogledd.

Mae fy nhîm TB wedi parhau i weithio gyda chynrychiolwyr y diwydiant, Gweinyddiaethau eraill a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i wella rhan Gymreig gwefan yr Hyb TB. Cynhaliwyd gweithdai ar-lein ac mae swyddogion wrthi'n gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) i ddatblygu cynnwys fydd yn cadw ei berthnasedd. Mae'r Hyb TB wedi bod yn ddefnyddiol yn ystod COVID-19 fel ffordd o ledaenu'r wybodaeth ddiweddaraf yn effeithiol. Deallwn gan randdeiliaid fod yr Hyb TB yn erfyn dibynadwy lle gall ffermwyr ac eraill gael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau diweddaraf yn y wyddoniaeth, yr epidemioleg a’r rheolau.

O dan amodau arferol, rhaid cynnal profion croen ar holl wartheg 42 diwrnod oed a hŷn mewn buches i gadw neu adfer statws “Heb TB Swyddogol” y fuches. Dyna sydd wedi bod yn digwydd i’r graddau ei bod yn ddiogel gwneud hynny o fewn y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, mae milfeddygon a ffermwyr wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru i fynegi pryderon am eu gallu i gadw at y rheol 2 fetr wrth roi profion TB i loi, sy’n gorfod cael eu trin yn wahanol i wartheg llawndwf. Er mwyn gallu parhau i brofi buchesi, ers mis Mawrth, cafodd y rheolau eu newid er mwyn peidio â phrofi lloi o dan 180 diwrnod oed.  Hefyd, ar gyfer ffermwyr oedd yn cysgodi, cynghorir milfeddygon i beidio â chynnal profion nes ei bod yn ddiogel gwneud hynny ac na roddir gwybod i asiantaethau talu os yw profion TB ar y ffermydd hynny’n mynd yn hwyr am resymau sy’n gysylltiedig â COVID-19.  Rydym yn cadw golwg ar y newidiadau hyn i’r rheolau tra bo’r rheolau ar gadw pellter cymdeithasol oherwydd COVID-19 mewn grym. Yr wyf wedi gofyn i'r Prif Swyddog Milfeddygol ddadansoddi'r data sydd ar gael ers dechrau'r clo. Er bod nifer y profion a gwblhawyd rhwng Ebrill ac  Awst, o'u cymharu â'r llynedd wedi gostwng 6%, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y tebygolrwydd y gall profion hwyr gael effaith sylweddol ar yr ymdrechion cenedlaethol i ddileu TB dros y tymor byr i ganolig, yn debygol o fod yn isel iawn.  

O’r 1 Ionawr 2021, mae nifer o fusnesau llaeth cydweithredol wedi datgan na fydd lloi o’r ffermydd sy’n eu cyflenwi yn cael eu lladd o fewn wyth wythnos gyntaf eu bywyd. Deallwn mai dyma fydd polisi pob cwmni llaeth cydweithredol erbyn 2023.  Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant gyda'r nod o sicrhau bod pob llo yn cael gwarant o gartref ac yn cael y dechrau gorau posibl i’w fywyd. 

Er mwyn cynorthwyo'r diwydiant ffermio, ac yn enwedig ffermwyr y mae TB gwartheg wedi effeithio arnynt, byddwn yn annog defnyddio Unedau Magu Cymeradwy ac rydym yn gweithio gydag arwerthwyr da byw i redeg nifer cyfyngedig o Arwerthiannau Arbennig TB ("marchnadoedd oren") yn Ardaloedd TB Uchel Cymru. Bydd y cynllun peilot byr hwn yn rhedeg yn ystod mis Tachwedd ac os bernir ei fod yn llwyddiant, bod cefnogaeth dda iddo a’i fod yn ddiogel, gellid cynnal rhagor ohonynt yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu'r Arolygon o Foch Daear a Cheirw Marw er mwyn deall yn well sut mae TB yn effeithio ar fywyd gwyllt ledled Cymru.  Darperir cymorth parhaus hefyd i fentrau o dan ofal y diwydiant megis prosiect brechu moch daear Gŵyr.

Yn ystod cyfnod clo COVID-19, daeth ymweliadau fferm Cymorth TB i ben. Ers canol mis Gorffennaf maent wedi ailddechrau ar gyfer ffermydd sydd â TB, ffermydd sydd newydd adennill eu statws heb TB a'r rheini yn yr ITBAN sydd wedi cael profion buchesi cyffiniol clir. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi a chryfhau'r berthynas rhwng milfeddygon, ffermwyr ac APHA. Mae hyrwyddo’r arferion bioddiogelwch gorau yn hanfodol i fynd i'r afael â chlefydau heintus fel y gwelwyd mor glir yn ystod COVID-19, gyda sefyllfa gyfatebol o ran ynysu, defnyddio cyfarpar amddiffyn personol (PPE), glanhau a diheintio a hefyd cyfyngiadau symud. Wrth gwrs, mae cyngor milfeddygol ynghylch bioddiogelwch a pholisi masnachu yn helpu i fynd i'r afael nid yn unig â TB ond â chlefydau eraill hefyd. Rwy'n annog pob ffermwr cymwys i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan Cymorth TB. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau Trydydd Sector a sefydlwyd yn benodol i gynnig cymorth lles a chyngor busnes i ffermwyr, busnesau fferm a theuluoedd sy'n ffermio. Ers nifer o flynyddoedd roedd contract ar waith gyda'r Rhwydwaith Cymunedau Ffermio i'w helpu i ddarparu cyngor penodol i ffermwyr ar TB. Er bod y contract hwn bellach wedi dod i ben, mae’r Rhwydwaith yn parhau i gynnig cyngor. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Tir Dewi a’r Daniel Picton-Jones Fundation a Mind Cymru, gan ganolbwyntio ar ystod ehangach o glefydau a materion ffermio. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ganolog wrth sefydlu'r Bartneriaeth Elusennau Fferm.

Mae’r Rhaglen Dileu TB yn dilyn y datblygiadau gwyddonol diweddaraf, ac mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cysylltiad agos rhwng y rhaglen a Chanolfan Ragoriaeth TB Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Roeddwn yn falch o gyhoeddi cyflwyno treialon maes ar gyfer brechu rhag TB gwartheg yn 2021. Bydd y treialon, a fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr, yn gweithio at y nod o gael brechlyn gwartheg yn barod erbyn 2025. Bydd y treialon maes yn cael eu cynnal dros y pedair blynedd nesaf ar ran Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Defra, yn dilyn 20 mlynedd o ymchwil arloesol i frechlynnau TB gwartheg a phrofion diagnostig gan wyddonwyr y llywodraeth. Bydd yr Athro Glyn Hewinson, Cadeirydd Sêr Cymru yn y Ganolfan Ragoriaeth TB, yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y gwaith pwysig hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cam 1 Dilyniannu Genomau Cyfan o 1 Chwefror 2021. Mae Dilyniannu Genomau Cyfan wedi'i gynnal ar bob sampl TB ers nifer o flynyddoedd. Ystyriwyd y canlyniadau hyn ar hyn o bryd ochr yn ochr â gwybodaeth genoteipio/spoligoteipio safonol, ac yn ein helpu'n well i ddeall sut mae haint yn lledaenu, a ffynonellau haint ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol. Nod Cam 1 yw sefydlu enwau  dilyniannau Genomau Cyfan yn lle’r wybodaeth genoteipio bresennol, gan ganiatáu gwell dealltwriaeth o’r epidemioleg ac er mwyn gallu mapio’r clefyd yn well. Yn ogystal ag arwain at drefn enwi newydd bydd y newid yn caniatáu i fapiau gwasgariad newydd gael eu cynhyrchu yn lle'r rhai genoteipio presennol. Unwaith y bydd cam 1 wedi’i gwblhau, bwriedir symud ymlaen tuag at Gam 2, lle defnyddir dulliau meireiniach, megis defnyddio apiau TG fel mater o drefn.

Wrth i ni symud ymlaen tua diwedd cyfnod pontio'r UE, rydym wedi bod yn paratoi'r Rhaglen Dileu TB ar gyfer unrhyw effeithiau a allai godi. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru ynghyd â Defra wedi gweithio'n galed i gytuno ar y gofynion ar gyfer cydymffurfio â Phrotocol Cig Eidion Tsieina mewn perthynas â TB a chlefydau eraill, a gwneud y broses ardystio mor syml â phosibl i allforwyr. Rydym yn canolbwyntio ar gynyddu nifer y buchesi sy’n cael allforio cig eidion i Tsieina, tra'n hyrwyddo ein safonau domestig uchel ein hunain o ran iechyd a lles anifeiliaid.

Fel yr wyf yn parhau i’w bwysleisio, bydd y gofynion o ran symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a'r UE yn newid a bydd angen i fusnesau baratoi ar gyfer hyn. Bydd angen gwarantau iechyd llymach ar bopeth y byddwn yn ei allforio, waeth pa gytundeb masnach a lofnodir â’r UE, gan y bydd gan y DU nawr 'statws trydedd wlad’. Rydym yn parhau i roi blaenoriaeth ar sicrhau bod ein deddfwriaeth yn cael ei diwygio'n briodol er mwyn cyflawni'r statws hwn.

Yn hanesyddol, mae’r UE wedi bod yn neilltuo hyd at €31m y flwyddyn ar gyfer Rhaglen TB y DU. Fodd bynnag, ar gyfer 2017 dyrannodd yr UE €27.64m i'r DU, ac ar gyfer 2018 a 2019 gostyngwyd y swm hwn ymhellach wrth i Gomisiwn yr UE ailflaenoriaethu cyllid. Roedd yr hawliad a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol ddiweddaraf (2020/21) yn erbyn Cynllun Dileu'r DU 2019. Amcangyfrifir mai £1.26m fydd cyfran Llywodraeth Cymru a disgwylir iddi ddod i law ym mis Rhagfyr 2020. Mae'n debygol mai dyma fydd y dyraniad olaf gan yr UE ar gyfer ein rhaglen i ddileu TB. 

O ran y dyfodol, ar ôl ymadael â’r UE, mae swyddogion yn gweithio i ddatblygu Papur Gwyn Bil Amaethyddiaeth Cymru a gyhoeddir ganol mis Rhagfyr 2020. Bydd hyn yn galluogi cwblhau ymgynghoriad 12 wythnos cyn i'r cyfnod cyn yr etholiad ddechrau ar 25 Mawrth 2021. Mae agweddau ar y Bil hwn yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar y Rhaglen Dileu TB yn y dyfodol.

Mae llawer yn obeithiol ynghylch y sefyllfa o ran dileu TB gwartheg yng Nghymru, gyda gostyngiad parhaus yn nifer yr achosion o TB, datblygiadau gwyddonol, yn enwedig treialon maes brechu gwartheg, a defnyddio offer newydd fel Dilyniannau Genomau Cyfan. Fodd bynnag, credaf mai'r agwedd fwyaf calonogol yw gallu a pharodrwydd pobl, yn y Llywodraeth a'r diwydiant, i gydweithio tuag at ganlyniadau cadarnhaol er gwaethaf effaith barhaus pandemig COVID-19.