Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Mae'r datganiad hwn yn cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gyflwyno adroddiadau rheolaidd ar hynt y gwaith o gyflawni Cymru ddigidol. Dymunwn fod yn dryloyw ac yn atebol am ein camau gweithredu ac felly rwyf wedi cyhoeddi’r adroddiad diweddaraf ar gynnydd heddiw.
Cymru Ddigidol, a gyhoeddwyd yn 2010, yw strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n genedl wirioneddol ddigidol. Mae'n amlinellu pum amcan allweddol, sef trechu'r bwlch digidol, tyfu ein heconomi ddigidol, gwella sgiliau digidol, darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus ar-lein a darparu band eang cyflymach ledled Cymru.
Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd yn yr holl feysydd hyn ond mae hon yn agenda gymhleth, sy'n symud yn gyflym lle mae gweithgarwch o fewn y pum thema yn drawsbynciol iawn. Er enghraifft, mae angen i benderfyniadau ynghylch pa wasanaethau cyhoeddus a ddylai gael eu gwella drwy ddarpariaeth ddigidol ystyried argaeledd band eang a sgiliau digidol pobl sydd am ddefnyddio'r gwasanaethau cyhoeddus hynny. Mae hyn yn golygu bod yr angen i olrhain cynnydd yn ofalus a mireinio ein cynlluniau yn barhaus yn sgil datblygiadau hyd yn oed yn bwysicach.
Gwelwyd hyn ar waith ym mis Mehefin pan gyhoeddodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Gynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol diwygiedig. Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol wrth drechu allgáu digidol dros y tair blynedd diwethaf, gyda chanran yr oedolion yng Nghymru, 'nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd', yn gostwng o 34% yn 2010 i 21% ym mis Mai 2014. Mae ein rhaglen cynhwysiant digidol, Cymunedau 2.0, a ariennir yn rhannol gan arian Ewropeaidd, wedi chwarae rhan allweddol yn hyn gan helpu dros 52,000 o’r bobl hynny sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol i'r graddau mwyaf fynd ar-lein. Mae Cymunedau 2.0 wedi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector i ymgorffori cynhwysiant digidol yn eu harferion gwaith, gan alluogi mwy o bobl i elwa ar gefnogaeth i fynd ar-lein. Mae cyllid ychwanegol gan Ewrop a Llywodraeth Cymru hefyd wedi caniatáu i’r rhaglen gael ei hehangu i bob rhan o Gymru yn ei blwyddyn olaf. Mae'r cynllun diwygiedig yn pennu targedau newydd uchelgeisiol ar gyfer y tair blynedd nesaf ac yn tynnu sylw at yr angen i barhau i nodi a chynnwys partneriaid ar draws pob sector i sicrhau bod pawb yn gallu elwa ar y byd digidol.
Mae'r economi ddigidol wedi parhau i dyfu drwy gydol y dirwasgiad economaidd. Mae'n cyfrif am fwy na hanner GYC y DU a thechnoleg a fydd yn sail i'r rhan fwyaf o swyddi a gaiff eu creu yn y dyfodol ymhob sector o'r economi. Mae'n galonogol bod canran y BBaChau yng Nghymru sydd â gwefan wedi cynyddu o lai na 50% yn 2004 i 72% yn 2014 (69% yw cyfartaledd y DU) gyda mwyafrif (81%) yn defnyddio'r rhyngrwyd i archebu nwyddau a gwasanaethau. Fodd bynnag, mae angen i ni helpu ein busnesau i wneud defnydd mwy soffistigedig o'r rhyngrwyd o hyd gan mai lleiafrif ohonynt sy'n defnyddio'r rhyngrwyd at ddibenion marchnata a gwerthu, neu sy'n integreiddio galluoedd digidol yn eu prosesau craidd.
Mae gennym sectorau TGCh a chreadigol cryf a bywiog yng Nghymru. Ymhlith y cyhoeddiadau diweddar mae CGI yn dod â 620 o swyddi i Ben-y-bont ar Ogwr ac yn lansio Canolfan Gweithrediadau Diogelwch newydd Alert Logic yng Nghaerdydd. Mae’r fath fewnfuddsoddi yng Nghymru yn ffactor pwysig sy’n sbarduno’r economi ddigidol.
Er mwyn cefnogi'r twf hwn rhaid i ni sicrhau bod gan bobl sgiliau digidol ymhob rhan o'r economi. Nododd Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2013 y DU fod llawer o gyflogwyr yng Nghymru yn dal i sôn am ddiffygion sylweddol mewn llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol ac uwch sgiliau TG ymhlith eu cyflogeion. Dyma pam y mae'r Cynllun Gweithredu newydd ar gyfer Sgiliau a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf yn rhoi blaenoriaeth i well sgiliau TGCh oedolion sy'n gweithio i lefel 2 o leiaf. Bydd yn adeiladu ar fesurau presennol sy'n cefnogi twf sgiliau digidol fel rhaglen Grant Dysgu yn y Gymru Ddigidol a rhaglen Hwb.
Drwy Grant Dysgu yn y Gymru Ddigidol buddsoddwyd dros £39 miliwn yn y gwaith o wella cysylltiad rhyngrwyd ein hysgolion. Gallaf gadarnhau bod gan 987 o ysgolion cynradd, unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion canol ac ysgolion arbennig gysylltedd 10Mbps, tra bod gan 179 o ysgolion uwchradd gysylltedd 100Mpbs sy'n golygu bod modd derbyn gwasanaethau band eang diogel a chyflym.
Mae Hwb, Storfa Ddigidol Genedlaethol Cymru a Hwb+, sy'n amgylchedd dysgu rhithwir diogel, yn cael eu darparu am ddim i bob ysgol yng Nghymru. Mae Hwb+ ar gael i 1,615 o ysgolion cynradd, arbennig ac uwchradd yng Nghymru. Mae dros 1,845 o athrawon o 1,334 o ysgolion wedi cael hyfforddiant i sicrhau eu bod yn gallu ei defnyddio'n effeithiol.
Wrth gwrs, mae'r economi ddigidol yn golygu mwy na dim ond y sector preifat. Mae cyfle enfawr gan y sector cyhoeddus hefyd i ddefnyddio technoleg er mwyn darparu gwasanaethau gwell a mwy cost-effeithiol. Ac yn wir mae sawl rhan o'r sector cyhoeddus yn gwneud hynny. Enghraifft wych o hynny yw gweddnewidiad digidol y system taliadau gwledig, a ddefnyddiwyd gan 32% o’r 18,000 o gwsmeriaid i wneud cais am daliadau blynyddol yn ei blwyddyn gyntaf. Y nod yw cyrraedd 100% yn 2016.
Fodd bynnag, fel y pwysleisiwyd yn yr adroddiad diweddar gan y Comisiwn ar Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus, yn yr hirdymor rhaid i ni anelu at gydweithio a gweithredu fel 'un gwasanaeth cyhoeddus', yn hytrach na sefydliadau ar wahân. Mae gan dechnoleg rôl enfawr i'w chwarae yn y gwaith o gyflawni'r uchelgais hon, fel ffactor sy'n sbarduno newid, er enghraifft drwy gyflwyno gwasanaethau a rennir fel adnoddau dynol a chyllid ac, yn bwysicach, fel ffactor sy'n galluogi arloesedd lle defnyddir technoleg i weddnewid y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Ni ddylem danamcangyfrif yr her a gyflwynir gan hyn. Bydd angen goresgyn rhwystrau technegol a diwylliannol, gan gynnwys cael cyrff annibynnol i gydweithredu ac ymrwymo i safonau TGCh cyffredin, gwella sgiliau digidol ar draws gweithlu'r sector cyhoeddus a chreu'r gallu cenedlaethol i ddatblygu atebion i broblemau TGCh a rennir.
Fy nymuniad yw mai Cymru fydd y rhan gyntaf o'r DU i drechu'r rhwystrau hyn ac, wrth wneud hynny, weddnewid y ffordd y darperir gwasanaethau ar-lein yn lleol. Bydd hyn yn golygu mai Cymru yw un o ddarparwyr gorau a mwyaf arloesol gwasanaethau ar-lein y byd.
Yn olaf, bu cryn dipyn o'r ffocws yn ystod tair blynedd gyntaf Cymru Ddigidol ar seilwaith ac mae ein buddsoddiad yn rhaglen Cyflymu Cymru yn allweddol i gefnogi twf economaidd Cymru yn y dyfodol. Gallaf gyhoeddi fod y gwaith cyflwyno, a ddechreuodd ym mis Ionawr, 2013, eisoes wedi cyrraedd dros 278,000 o safleoedd ac rydym ar y trywydd iawn i alluogi 96% o safleoedd erbyn 2016.
Buddsoddwyd cyfanswm o oddeutu £425 miliwn mewn band eang ffeibr yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Cyflymu Cymru a phroses gyflwyno fasnachol BT, sy’n cynnwys £90 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, £58 miliwn gan Lywodraeth Cymru, £57 miliwn gan BDUK a £220 miliwn gan BT.
Cyhoeddwyd ar 16 Hydref y bydd gwaith wedi’i ddechrau ym mhob cyfnewidfa ffôn yng Nghymru erbyn diwedd 2015, gan gan ddod â chyflymder rhyngrwyd cyflym iawn i fwy o bentrefi a threfi nag erioed ym mhob cwr o’r wlad. Mae’r cymunedau lle bwriedir dechrau’r gwaith cyn diwedd Medi 2015 fel rhan o raglen Cyflymu Cymru yn cynnwys Aberdaron yng Ngwynedd, Capel Curig a Dolgarrog yng Nghonwy, Brechfa yn Sir Gâr ac Ynysgynwraidd yn Sir Fynwy. Mae'r ffigurau defnydd ar gyfer cabinetau sydd wedi bod ar waith ers dros flwyddyn oddeutu 19% a 61Mbps yw'r cyflymder cyfartalog sy'n deillio o'r rhaglen ar hyn o bryd - dros ddwywaith y cyflymder gofynnol cytundebol a 44Mbps yn uwch na chyfartaledd Band Eang y DU.
Mae'r broses o gyflwyno Cyflymu Cymru, ynddi'i hun, wedi creu dros 250 o swyddi medrus newydd a thros 110 o brentisiaethau newydd; mae'n rhoi cyfleoedd profiad gwaith i 900 o bobl ac mae'n diogelu dros 300 o swyddi a fodolai eisoes yng Nghymru.
Efallai nad cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod y diwydiant telathrebu wedi penderfynu adeiladu cyfnewidfa rhyngrwyd yng Nghymru yn ddiweddar. Bydd y darn hanfodol hwn o seilwaith yn trawsnewid y ffordd y mae busnesau Cymru yn cysylltu â'r rhyngrwyd.
Wrth symud ymlaen, yr her sy'n wynebu pob un ohonom yw'r angen i fanteisio i'r eithaf ar ein buddsoddiad mewn seilwaith yn gyflym. Dim ond dechrau fyddwn wrth sicrhau mai Cymru yw un o wledydd mwyaf cysylltiedig y byd. Nawr yw'r amser i adeiladu ar y seilwaith hwn er mwyn tyfu ein heconomi, ehangu meysydd ymchwil a datblygu ac arloesedd, gweddnewid gwasanaethau cyhoeddus a gwella bywydau a rhagolygon pobl Cymru wrth i ni greu cenedl wirioneddol ddigidol.